Sesiwn Fach


Y Cowbois
 
Rhyw ugain haf yn ôl, roeddwn i’n cael modd i fyw yn hel gwyliau gwerin ar hyd a lled y wlad ’ma. Neidio ar fws TrawsCrwban a’i throi hi am Ffostrasol a Dolgellau. Ac roedd S4C a Radio Cymru wastad yn darlledu’n fyw o lwyfannau’r ddwy ŵyl yn eu bri, cyn i gyfuniad o’r dirwasgiad, rhaglenni rhy uchelgeisiol a drud a baich biwrocratiaeth iechyd a diogelwch roi taw ar bethau. Bellach, mae’r Sesiwn Fawr wedi dychwelyd i’w gwreiddiau llai, agos-atoch, a gwyliau gwerin newydd fel Tegeingl yn y gogledd-ddwyrain yn prysur ennill eu plwyf. Bechod nad oedd camerâu Digwyddiadau/12 yno.
 
Hen, hen gŵyn yma yng Nghymru ydi’r ffaith fod y sîn werin braidd yn angof gan y cyfryngau, yn enwedig o gymharu â’r holl sylw i ganu ’steddfodol, corawl, West-Endaidd. Diolch i’r drefn felly am Yn Fyw o Acapela, cyfres dim-lol o stiwdio hen gapel ym mhentref Pentyrch ym metropolis Cymraeg Caerdydd. Y syniadau symlaf ydi’r rhai gorau yn aml iawn. Dim cyflwynydd gorfrwdfrydig o stabal Cyw sy’n trio’n rhy galed i fod yn cŵl na golygfeydd o fandiau’n canu ar ben clogwyn gwyntog neu stad ddiwydiannol segur. Dim ond gadael i’r cantorion siarad yn uniongyrchol â’r camera, rhoi ychydig o gefndir y gân i ni, perfformiad acwstig clir fel cloch o’r sêt fawr, a chynulleidfa astud sydd yno i werthfawrogi cerddoriaeth nid clecian cwrw a jagerbomb ar ei ben. O Ryland Teifi i Fflur Dafydd, Calan ac Aron Elias, mae pob un wedi cael llwyfan gan fenter Hywel Wigley a Catrin Finch. Ond y perfformiad sy’n aros yn y cof yw’r un gan Gowbois Rhos Botwnnog, a’u fersiwn tri-llais hudolus o’r hen hwiangerdd ‘Cysga di fy mhlentyn tlws’. Gwrandewch eto ar wasanaeth s4c/clic, caewch eich llygaid a gwenwch. Gyda llaw, oes 'na siawns am berfformiad gan 9 Bach, un o fandiau gwerin modern gorau’n gwlad, yn y dyfodol agos?

Cymharwch arlwy werin S4C â’r sianel deledu Gaeleg, BBC Alba, sydd ar gael ledled y DU drwy sianel Sky 168 neu’r iplayer anhepgor wrth gwrs. Bob tro y byddaf yn picied iddi, mae ’na ryw bibyddion a dawnswyr wrthi byth a hefyd fel sesiynau ceilidh Horo Gheallaidh o Glasgow gyda cherddorion o’r Alban, Iwerddon, America a hyd yn oed Affrica, a fideos cyfoes o hen ganeuon Gaeleg traddodiadol yn Eadar Chluich. Efallai mai tŷ tafarn bywiog ydi’r lle gorau werthfawrogi’r perfformiadau hyn, ond o leia’ mae’n rhoi blas ar fwrlwm (ie, hoff air cyflwynwyr S4C) y sîn yng ngwlad Salmond.