Wel, dyma fi adre’n dlotach ond
yn hapusach a chochach diolch i groeso gwresog y Fro. ’Nôl i realiti rŵan gyda
nofel fuddugol Robat Gruffudd yn gydymaith ar uffern cymudo Non-Arriva. Ac i’r
rheiny sy’n hiraethu’n barod am orji flynyddol y Pethe, mae ’na bedair awr o
uchafbwyntiau ar S4C nos Sadwrn yma. Nos Sul wedyn, mae Noson Caryl o’r
Steddfod yn saff o blesio, gyda chymysgedd o glasuron pop a sgetshis gyda
chymeriadau newydd gwuuuuuuuuuch sy’n tynnu blewyn o drwyn Cymry Cymraeg yr unfed
ganrif ar hugain. Dyna’r agosa’ gawn ni i ddychan iach yn absenoldeb rhaglenni Swigs
yn oes aur yr 1980au a’r 90au cynnar.
Wn i ddim sut cafodd CPJ gyfle i fynd i’r lle
chwech wythnos diwethaf, rhwng cyflwyno’r rhaglen radio foreol o’r maes carafanau
gyda Daf Du, gwibio i soffa’r BBC er mwyn cyflwyno p’nawniau o gystadlu ar y
bocs, a chwyrlïo megis Wonderwoman i’w gwisg wen cyn canu fersiwn gospel
o Weddi’r Orsedd yn y Popty Pinc. Cefais fwy o flas ar raglenni radio
nosweithiol Tocyn Wythnos yng nghwmni’r ’tebol a’r profiadol Beti George
a’i gwesteion niferus. Yn rhaglen ola’r nos Sadwrn olaf, clywyd Elfed y Prif
Weithredwr yn celpio Radio Wales am “anwybyddu’r Steddfod yn llwyr fwy neu
lai”. Dim ond awr o uchafbwyntiau nos Sul diwethaf gyda Nicola Heywood Thomas
welais i ar wefan yr orsaf honno. Roedd rhaglenni penodol o Fro Morgannwg yn
absennol ar y drydedd sianel hefyd - a na, tydi pytiau pum munud ar fwletinau
newyddion na rhagolygon y tywydd o’r Maes ddim yn cyfri. Ddegawd yn ôl, roedd
gan yr hen HTV bedair rhaglen arbennig The Visit o Brifwyl Tyddewi gyda
Chris Segar, cyflwynydd The Ferret. A phwy benderfynodd bod BBC Wales yn
darlledu pum rhaglen o Lanelwedd eleni, a chwta hanner awr o Landŵ? Hyn er
gwaetha’r ffaith fod oriau dirifedi o dapiau llun a sain ar gael ar blât gan y
Gorfforaeth Ddarlledu. Serch hynny, roedd Eisteddfod 2012 with Cerys
Matthews ar rwydwaith BBC2 yn grynodeb bywiog a lliwgar o’r ŵyl ddieithr
hon i weddill Prydain, gyda chymorth y Prifardd Gwyneth Lewis, Twm Morus, Elinor
Bennett, Al Lewis ac Wynne Go Compare Evans.
Waeth i ni heb â beio Gêmau Llundain. Mae’r
dirywiad gwarthus hwn ar waith ers blynyddoedd. Rhyfedd clywed y Gweinidog y
Gymraeg ar y Post Cyntaf yn galw ar y Brifwyl i “foderneiddio” a gwneud
mwy i “groesawu pobl ddi-gymraeg”, tra bo’r wasg a’r cyfryngau Saesneg yng
Nghymru yn gynyddol ddall iddi. Unwaith eto, mae rhywun yn rhyw deimlo mai ni’r
Cymry Cymraeg sy’n gorfod ildio, plesio, cyfaddawdu a gwneud popeth yn
ddwyieithog - cyn belled mai’r Saesneg sy’n gyntaf wrth gwrs.