O’r cae pêl-droed i faes y frwydr





“Gwarthus”, “siomedig”, “difrifol”. Dim ond rhai o’r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio – na, nid gyrfa newydd Catherine Môn Windsor fel page 3 girl – ond y siop siafins yn Serbia wythnos diwethaf, gan griw Ar y Marc. Er bod un cefnogwr yn galw am roi Coleman (neu’r Dyn Glo, chwadal Dylan Jones y cyflwynydd) ar y clwt, roedd y mwyafrif call a synhwyrol yn rhoi’r bai yn blaen ar ysgwyddau’r unarddeg di-glem ar y cae. Ie, y miliwnyddion hynny sy’n fwy o dodos na dreigiau yn eu crysau cochion, os nad ydyn nhw wedi tynnu’n ôl o’u dyletswyddau cenedlaethol ar y funud ola, wrth gwrs. Chwaraewyr “is na’r safon” meddai Kevin Ratcliffe ar Sport Wales (BBC Two Wales) sydd bellach dan ofal Dot Davies. Gorffennodd yr eitem ar nodyn lled obeithiol, wrth i’r gohebydd ein hatgoffa bod tîm Terry Yorath wedi cael cweir o 5-1 gan Rwmania ym 1992, cyn dod o fewn trwch blewyn i gyrraedd UDA ’94 erbyn diwedd yr ymgyrch ragbrofol. Diawch, efallai nad oedd Dylan Jones mor wamal â hynny wedi’r cwbl gyda’i “daw eto haul ar fryn hogia”.

 
Mae’r ystrydeb ‘dim ond gêm ydi hi wedi’r cwbl’ yn wir iawn o gymharu â’r holl ddioddefaint a fu ac sy’n dal i fod yn y byd gwaedlyd go iawn. Ar nos Sul, darlledwyd y rhaglen gyntaf o saith sy’n cynnig y “cofnod mwyaf cynhwysfawr erioed o brofiadau’r Cymry Cymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd”. Cychwynnodd Lleisiau’r Ail Ryfel Byd (9 o’r gloch nos Sul) ym 1939, gyda llu o glipiau British Pathé wedi’u lleisio gan sylwebydd Oxbridge stoc y cyfnod. Mor gyfarwydd nes bod yna rhyw déjà vu o weld y Natsïaid ar dramp yn Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl, Llundain yn drwch o fagiau tywod, a’r werin yn ymgasglu rownd setiau radio tai, ceir a siopau i wrando ar gyhoeddiad enwog Neville Chamberlain. Roeddwn i’n dechrau ofni nad oedd hon fawr amgenach na fideo TGAU Hanes gyda throslais Ifor ap Glyn. Diolch byth, felly, am rai o’r hanner cant o Gymry a rannodd eu profiadau a’u hatgofion am y blynyddoedd tywyll hynny 70 mlynedd yn ôl - o Hetty Blecher yr heddychwraig o Abertawe, Idris Jones Llanbedrog a fu’n aelod o’r comandos, i Eunice Davies o Rydaman sy’n cofio cario mwgwd nwy i’r ysgol gynradd. Ac roedd perlau o fân ffeithiau yn ychwanegu elfen newydd i’r cyfan, fel hanes sefydlu Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru yn sgil pryderon y pentrefi bach Cymraeg o gael eu boddi gan lond platfform Lime Street o faciwîs, troi gwersylloedd gwyliau Prestatyn a Phwllheli yn ganolfannau ymarfer i’r cyw filwyr, a BBC Bangor yn gartref i gyfresi radio poblogaidd fel It’s That Man Again ar ôl i’r Gorfforaeth adleoli ei hadran adloniant ysgafn o Lundain. Gyda mwy o hanesion fel hyn, dyfyniadau o lythyrau’r milwyr ac erthyglau’r Cymro a’r Herald Cymraeg ar y pryd, dwi’n edrych ymlaen at stamp newydd a Chymraeg ar hen hanes.


 

 

 

 

 

Trafferth mewn tafarn... a thai bach

Nos Sadwrn ar y soffa o flaen Noson Lawen (ailddarllediad) neu Strictly Come Dancing ar ôl sgods go symol o’r siop Tsieinî lleol ydi hi i rai yn eu 70au. Ond nid Eurwen Richards. O na. Wedi gair o weddi mewn capel bedyddwyr lleol, mae’n gwisgo’i lifrai - het pêl fas a chôt dywyll â stamp ‘Street Pastor’ ar y cefn - ac yn mentro fesul tri i brif stryd cwrw a chibab canol Pen-y-bont ar Ogwr. Unwaith y mis mae’n rhan o fugeiliaid y stryd sy’n cynnig cymorth i slotwyr nos Sadwrn yn ogystal â dosbarthu fflip fflops i ferched mewn sodlau pigfain - a rhoi mensh bach i Grist wrth fynd heibio wrth gwrs, heb hwrjio crefydd i lawr eu corn gwddw. Yn rhaglen gynta’r gyfres ddogfen newydd, roedd camerâu O’r Galon: Bugail y Stryd (Tinopolis) yn dilyn Eurwen a’i chyd-gristnogion ar shifft deg yr hwyr tan bedwar y bore, ar benwythnos gwlyb Gŵyl Banc Mehefin.
 
 
Rhwng cyfweliadau uniongyrchol ag Eurwen ac eraill fel Andy Morgan, Prif Arolygydd Heddlu’r De a Llinos y parafeddyg, clywsom am ddigwyddiadau tywyll iawn a sbardunodd y bartneriaeth unigryw hon. Bum mlynedd yn ôl, roedd tref Pen-y-bont dan gwmwl ar ôl i lanc gael ei ladd gan giang wrth yr orsaf drenau, a sawl achos o hunanladdiad ymhlith yr ifanc. A dyma fugeiliaid y stryd yn dod i’r adwy trwy ddangos consyrn a chynnig clust i unrhyw un oedd am fwrw gofidiau. Siaradodd Eurwen yn glir a chroyw, a daeth ei hiwmor tawel a chynnes i’r amlwg wrth iddi rannu straeon am griw o fechgyn yn ei thrin fel “ffrind” a’i pharchu fel mam-gu garedig er gwaetha’r gwawdio cychwynnol (“Street pastors? What kind of pasties yew sellin tonight then?). Byddai’r rhaglen wedi elwa ar lai o rethreg ailadroddus yr heddlu, a mwy o hanes Eurwen ei hun. Beth am ymateb (a phryderon?) ei theulu a’i ffrindiau i’w dyletswyddau misol, yn ogystal â barn rhywun gafodd gymorth ganddi yn y gorffennol? Ydy, mae’n santes, tra byddai’r mwyafrif sobor-fel-sant ohonom yn osgoi dyletswydd o’r fath fel y pla.
 
“Be sy’n digwydd i’r carthion ar ôl diflannu i lawr y fflwsh?” oedd brawddeg agoriadol Bethan Gwanas, llefarydd Bois y Caca. Dyna chi linell a theitl i gorddi stumog y gwyliwr druan. Oedd, mi roedd y brodyr o Bumlumon a ddaeth i achub y dydd trwy ddadflocio problemau un fferm, maes carafanau a phortalŵs Maes B eleni, yn gymeriadau a hanner o gymharu â’r lleill a oedd yn debycach i gyfranwyr un o fideos corfforaethol Dŵr Cymru. A do, fe ddysgais mai gwaith trin dŵr gwastraff Caerdydd ydi’r pedwerydd mwyaf yn Ewrop (a dim jôcs am faint o gach sy’n llifo o Lywodraeth y Bae, diolch yn fawr iawn). Ond r’arglwydd, rhwng hon, darpar raglen am ddynion sbwriel a chyfres lle chwech Ifor ap Glyn, mae rhywun yn poeni braidd am ffetish comisiynwyr S4C o faw isa’r doman Gymraeg.

Newid yn chenj

Ddeudais i do? Ddeudais i fod ’na ddramâu o safon o’n blaenau ni ar y bocs y tymor hwn. Mae Good Cop ymhlith y gorau ar deledu Prydain ar hyn o bryd, heb os. Ie, drama arall am y Glas, fe’ch clywaf yn ochneidio’n ddiflas, ond nid sioe sebon sarjants mo hon. Yn hytrach, drama sy’n dilyn hanes heddwas ifanc diniwed o’r enw John Paul Rocksavage (Warren Brown) â’i fyd yn troi ben i waered yn y modd mwyaf erchyll posib ar ôl gweld ei gyd heddwas yn cael ei ddyrnu’n anymwybodol gan gyffurgwn dialgar. Mae’r plisman da felly’n dial ei hun mewn rhwystredigaeth pur o weld y giwed yn cael y getawê eto fyth. Ar ben hynny, mae’n braf gweld drama wedi’i gosod yn Lerpwl am unwaith yn lle Llundain Fawr Hollbwysig. Mae ’na ôl gwobr BAFTA yn hon.
 
A fydd yna wobrau i amserlen newydd ein gorsaf radio genedlaethol yr hydref hwn? Mae angen rhywfaint o lwc beth bynnag, wedi’r newyddion drwg fod 15,000 yn llai yn gwrando ar Radio Cymru o gymharu â’r un adeg y llynedd. Mae’n amlwg bod hyn wedi sbarduno pen bandits yr orsaf i dorchi llewys ac ailwampio’r arlwy. Y newid amylcaf ydi’r ffaith fod Nia Roberts yn gwneud lle i Iola Wyn, gynt o Ffermio, yn slot 10.30 y bore tan amser cinio. Arwydd, efallai, o’r awydd i beidio ag ymddangos yn rhy Gaerdydd-a-Bangor-ganolog, a phlesio a denu mwy o wrandawyr y De-orllewin. Hwyrach eu bod dechrau poeni am gystadleuaeth o du gorsaf gymunedol Gymraeg newydd Radio Beca, a enillodd drwydded ddarlledu yng Ngheredigion, Sir Gâr a gogledd Penfro. Beth fydd hanes Nia Roberts felly? Mae’n debyg ei bod am symud i'r pnawiau o ddydd Llun i ddydd Iau (yna Tudur Owen ar brynhawn Gwener) gan hergydio Geraint Lloyd i suo bois y loris rhwng deg a hanner nos. A’r newydd gorau oll ydi bod Lisa Gwilym yn saff, ac yn hawlio’i lle ar C2 bob nos Fercher o saith tan ddeg. Mae’n amlwg bod penaethiaid yr orsaf wedi’u sgubo gan y tswnami o anniddigrwydd a gododd yn sgil y sïon bod cyflwynydd mwyaf poblogaidd y sîn roc a phop Cymraeg am gael ffurflen P45. Ac ar ôl lambastio’r cyfryngau Cymraeg am y diffyg sylw i ganu gwerin, dyma groesawu’r cyhoeddiad bod Sesiwn Fach gydag Idris Morris Jones am feddiannu awr a hanner bob prynhawn Sul. Haleliwia medda’ fi.
 
Tra bod bron popeth arall gweddnewid, mae’n rhyfedd bod dwy o raglenni eraill bore’r wythnos yn aros yn eu hunfan. Mi fuasai’r Post Cyntaf yn elwa ar addasu yma ac acw, fel arwyddgan newydd, llai o ailadrodd syrffedus mewn bwletinau, a mwy o olygyddion gwâdd fel dros yr haf. Mae rhaglen Dafydd a Caryl yn dal i bara, ond lwc owt tro nesa’r ewch chi ar wyliau. Mae ’na berig i gyflwynwyr gwâdd fel Daniel Glyn a Sarra Elgan gael cystal hwyl arni, nes gwneud i rhywun deimlo y buasai rhywfaint o newid yn chênj bach neis wedi’r cwbl…