O’r cae pêl-droed i faes y frwydr





“Gwarthus”, “siomedig”, “difrifol”. Dim ond rhai o’r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio – na, nid gyrfa newydd Catherine Môn Windsor fel page 3 girl – ond y siop siafins yn Serbia wythnos diwethaf, gan griw Ar y Marc. Er bod un cefnogwr yn galw am roi Coleman (neu’r Dyn Glo, chwadal Dylan Jones y cyflwynydd) ar y clwt, roedd y mwyafrif call a synhwyrol yn rhoi’r bai yn blaen ar ysgwyddau’r unarddeg di-glem ar y cae. Ie, y miliwnyddion hynny sy’n fwy o dodos na dreigiau yn eu crysau cochion, os nad ydyn nhw wedi tynnu’n ôl o’u dyletswyddau cenedlaethol ar y funud ola, wrth gwrs. Chwaraewyr “is na’r safon” meddai Kevin Ratcliffe ar Sport Wales (BBC Two Wales) sydd bellach dan ofal Dot Davies. Gorffennodd yr eitem ar nodyn lled obeithiol, wrth i’r gohebydd ein hatgoffa bod tîm Terry Yorath wedi cael cweir o 5-1 gan Rwmania ym 1992, cyn dod o fewn trwch blewyn i gyrraedd UDA ’94 erbyn diwedd yr ymgyrch ragbrofol. Diawch, efallai nad oedd Dylan Jones mor wamal â hynny wedi’r cwbl gyda’i “daw eto haul ar fryn hogia”.

 
Mae’r ystrydeb ‘dim ond gêm ydi hi wedi’r cwbl’ yn wir iawn o gymharu â’r holl ddioddefaint a fu ac sy’n dal i fod yn y byd gwaedlyd go iawn. Ar nos Sul, darlledwyd y rhaglen gyntaf o saith sy’n cynnig y “cofnod mwyaf cynhwysfawr erioed o brofiadau’r Cymry Cymraeg yn ystod yr Ail Ryfel Byd”. Cychwynnodd Lleisiau’r Ail Ryfel Byd (9 o’r gloch nos Sul) ym 1939, gyda llu o glipiau British Pathé wedi’u lleisio gan sylwebydd Oxbridge stoc y cyfnod. Mor gyfarwydd nes bod yna rhyw déjà vu o weld y Natsïaid ar dramp yn Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl, Llundain yn drwch o fagiau tywod, a’r werin yn ymgasglu rownd setiau radio tai, ceir a siopau i wrando ar gyhoeddiad enwog Neville Chamberlain. Roeddwn i’n dechrau ofni nad oedd hon fawr amgenach na fideo TGAU Hanes gyda throslais Ifor ap Glyn. Diolch byth, felly, am rai o’r hanner cant o Gymry a rannodd eu profiadau a’u hatgofion am y blynyddoedd tywyll hynny 70 mlynedd yn ôl - o Hetty Blecher yr heddychwraig o Abertawe, Idris Jones Llanbedrog a fu’n aelod o’r comandos, i Eunice Davies o Rydaman sy’n cofio cario mwgwd nwy i’r ysgol gynradd. Ac roedd perlau o fân ffeithiau yn ychwanegu elfen newydd i’r cyfan, fel hanes sefydlu Pwyllgor Diogelu Diwylliant Cymru yn sgil pryderon y pentrefi bach Cymraeg o gael eu boddi gan lond platfform Lime Street o faciwîs, troi gwersylloedd gwyliau Prestatyn a Phwllheli yn ganolfannau ymarfer i’r cyw filwyr, a BBC Bangor yn gartref i gyfresi radio poblogaidd fel It’s That Man Again ar ôl i’r Gorfforaeth adleoli ei hadran adloniant ysgafn o Lundain. Gyda mwy o hanesion fel hyn, dyfyniadau o lythyrau’r milwyr ac erthyglau’r Cymro a’r Herald Cymraeg ar y pryd, dwi’n edrych ymlaen at stamp newydd a Chymraeg ar hen hanes.