Cariad at y cwm


Bu daeargryn yn y de-ddwyrain wythnos diwethaf. Clywyd sgrechiadau och-a-gwae o Dreherbert i Drethomas, a llifodd dagrau o anghrediniaeth fel Sgwd yr Eira ar ddiwrnod gwlyb o Hydref. Bu Maer Merthyr a gwleidyddion a-ddylai-wybod-yn-well fel Leanne Wood a Chris Bryant AS Rhondda yn poeri tân a brwmstan, a’r gwefannau cymdeithasol yn eirias dan gyfranwyr gorffwyll. Roedd hyd yn oed y gantores Charlotte Church yn gandryll oherwydd y portread annheg o bobl ifanc hanner noeth yn meddwi, rhegi a dangos eu bloneg ym mariau’r brifddinas. Ie, Charlotte Church, tywysoges y tabloids a fu unwaith yn enwog am feddwi, rhegi a…

Rhaglen pry-ar-y-wal anystrydebol arall o Gymru
 
Oedd, roedd pennau bach cyfryngol Llundain wedi pechu a phardduo enw da trigolion y cymoedd os nad Cymru gyfan, diolch i gyfres “realiti” newydd MTV. Ydy, maen nhw’n dal i’w cynhyrchu er bod y mwyafrif helaeth yn eu hanwybyddu nhw ers oes aur Big Brother dros ddegawd yn ôl. Anwybyddu cyfres The Valleys ddylai pawb fod wedi’i wneud. Yn hytrach, trwy gwyno amdani ddyddiau os nad wythnosau cyn y bennod gyntaf, fe gawson nhw gyhoeddusrwydd rhyfeddol. Ac yn rhinwedd y golofn hon, roedd rhaid i mi gael sbec fach do? Roedd ugain munud o raglen awr yn ddigon i mi. Nid oherwydd mod i’n Disgusted of Llandrindod Wells ond am fod y cyfan yn ddiflas o ailadroddus, wrth i’r naw cymeriad cartŵn symud i’w tŷ newydd ym Mae Caerdydd. Ond fe chwarddais o glywed rhybudd mewn Cymraeg cywir dechrau’r rhaglen ac o boptu’r hysbysebion am “iaith gref a golygfeydd o natur rywiol”. Chwerthin hefyd ar dwpdra ac anwybodaeth y cwmni cynhyrchu wrth geisio creu’r argraff nad oedd y naw hyn erioed wedi tywyllu Caerdydd o’r blaen (“plucked from the tranquillity of Valley life, the cast will be given the opportunity to leave their hamlet towns and change their lives in the city of Cardiff”) fel petaen nhw’n hanu o Lanfair Mathafarn Eithaf yn hytrach na hanner awr i fyny’r A470. A do, fe ddefnyddiwyd defaid plastig a phentwr o gennin yn y deunyddiau cyhoeddusrwydd. Gwylltio buaswn innau degawd a mwy yn ôl, ond bellach, yn y Gymru dawel hyderus ôl-ddatganoledig, does gen i uffarn o ots.

 

Llanc ifanc sy’n fwrlwm o hyder ar hyn o bryd ydi’r athletwr Aled Siôn Davies o Ben-y-bont ar Ogwr. Er gwaetha’i lwyddiannau cynnar ym mhencampwriaethau’r byd yn Swistir 2009 a Seland Newydd 2011, ni thalodd y gweddill ohonom unrhyw sylw tan Lundain 2012. Dan arweiniad John Hardy, cawsom hanner awr o’i hanes yn Aur Paralympaidd Aled Davies gan gynnwys ei berthynas arbennig os tanllyd weithiau gyda’i hyfforddwr Anthony Hughes a’r awgrym iddo gael ei fwlio pan sylweddolwyd ei fod yn ‘wahanol’. Bechod i’r rhaglen wibio fel y ddisgen honno yn y Stadiwm Olympaidd fis yn ôl, ac na chlywsom fwy am yr aberth teuluol a chymdeithasol wrth anelu am y brig. Roedd ei fam (“the Welsh mam with a tissue”) yn haeddu llawer mwy o sylw, ond ni chafwyd bŵ na be gan ei frawd, cyfrannwr cyson i’r cyfryngau Cymraeg adeg y Gêmau. Un o’r uchafbwyntiau oedd gweld plant lleol yn heidio o amgylch Aled ger ei flwch post aur. Go brin y caiff cymeriadau The Valleys y fath groeso’n ôl adre ar ôl i’w lliw haul ffug bylu a’u cyfri banc sychu’n grimp ar ddiwedd eu pum munud o enwogrwydd.

Yr Aur