Mae’n siŵr nad
oedd y mwyafrif ohonoch fawr callach o golli noson wobrwyo fawr y cyfryngis
wythnos diwethaf. Neu ddim balchach, o weld eitem gan Huw Ffash o’r carped coch
gwag ar Heno y noson ganlynol. Do, fe ddaeth y gwych, y glam a’r
gwachul ynghyd i Ganolfan y Mileniwm nos Sul i ymgiprys am dlws BAFTA Cymru
rhwng joch o siampên a lot o swsian aer.
Diolch i’r trydarfyd, deallais fod yna ddarllediad byw o’r Bae ar y we a chefais fy siomi ar
yr ochr orau. Roedd y cyfan yn glir a chroyw fel petawn i’n gwylio’r seremoni
ar sgrîn deledu arferol, a’r gliniadur prin yn rhewi fel s4/clic. Roedd ffilm
Marc Evans, Patagonia yn enillydd poblogaidd a haeddiannol mewn pedwar
categori, yn ogystal â Lowri Siwpyrfenyw Morgan am Ras yn Erbyn Amser,
ond roedd ambell enillydd arall yn peri penbleth. Cefais flas mawr ar gyfres
sgetshis Dim Byd, er ’mod i’n rhy hen i’w gwylio mae’n debyg (‘Rhaglen
Blant yn cynnwys animeiddiad’); a dyfarnwyd gwobr ‘Rhaglen Gerddoriaeth ac
Adloniant’ i Bandit sydd wedi hen fynd i’w bedd. S’long a swadan
fach i S4C efallai. Cyflwynwyd y cyfan yn hynod broffesiynol gan Alex Jones,
heb ryw Matt, Chris neu Aled Sam wrth ei hochr, gan bendilio’n rhwydd o’r
Gymraeg i’r Saesneg. Mae hynny’n awgrymu mai S4C, nid BBC Wales, fyddai partner
darlledu fwyaf addas y noson petaen nhw’n penderfynu’i hatgyfodi ar y sgrîn fach, wedi llanast meddwol y
gorffennol.
Go brin y caiff Radio Cymru “newydd” unrhyw wobr am wreiddioldeb.
A go brin mai fi ydi’r gorau i farnu amserlen ddiwygiedig y dydd, a minnau
allan o’r tŷ ac yn ddi-weiarles o wyth y bore tan chwech yr hwyr. Troi i’r
wefan amdani a chlicio ar wasanaeth gwrando eto. Roedd rhaglen Iola Wyn
yn addo “sgwrsio, cyngor, cerddoriaeth a
chwerthin yn fyw o stiwdio Caerfyrddin”, ac ymhlith eitemau un bore oedd cri am wirfoddolwyr Cymraeg i ganolfan y
Samariaid ym Mangor, hanes casglwyr sbwriel ar gopa’r Wyddfa, pos “Pwy ydw i”
wedi’i ddwyn o hen raglen nosweithiol Eleri Siôn a sgwrs gydag aelodau o dîm
pêl-rwyd “Sêr y Cwm” o’r Gwendraeth – gyda dos go helaeth o ganu cawslyd gan
Iwcs, rhyw gôr meibion a Non Caryl Parry Jones.
Yn
y prynhawniau wedyn, mae rhaglen Nia Roberts yn fwy agos-atoch rhywsut
wrth adrodd “straeon hwn a’r llall a rhoi’r byd yn ei le”. Roedd y rhaglen a
glywais i’n cynnwys adolygiad o ffilm gomedi am ras arlywyddol America, sgwrs
gyda Daniel Jenkins Jones o’r RSPB a slot “Yn y Ffrâm” gydag enwogyn yn trafod
hoff lyfr, ffilm, drama lwyfan ac ati. Ac yn eu plith, ambell gân gan John
Doyle, rhyw gôr meibion a Miriam Caryl Parry Jones.
Diolch
i’r drefn am gyflwynwyr a recordiau mwy unigryw gyda’r hwyr, yn enwedig C2: Georgia Ruth Williams rhwng 7 a 10
bob nos Iau, cyn noswylio a gadael i Geraint Lloyd ddiddanu’r pennau gwynion
BOB noson o’r wythnos.
Gyda llaw, cymrwch gip ar flog Llygad Ddu am
adolygiad llawnach a difyrrach o’r amserlen ddiwygiedig.