Mae’n gyfnod o
gerrig milltir pwysig ar hyn o bryd. Rhai’n bwysicach na’i gilydd wrth gwrs. O
hanner canrif o ffilmiau James Bond, deugain mlynedd ers i Kennedy a Krushchev
fygwth difa’r ddynoliaeth dan gwmwl niwclear, a phen-blwydd y sianel Gymraeg yn
ddeg ar hugain. Yn ogystal â llond trol o atgofion gan y Sianel ei hun, bu
ffynonellau mwy Seisnig fel Radio Four yn talu teyrnged iddi trwy gyfrwng drama
45 munud Gwynfor v Margaret. Roedd rhifyn arbennig o Cofio gyda
John Hardy ar Radio Cymru fore Sadwrn yn hyfryd o hiraethus, gyda hen
gyfweliadau o’r archifau rhwng Sulwyn Thomas a Gwynfor, crynodeb gwleidyddol
gan Syr Wyn Roberts a chyfle arall i glywed croeso eiconig Owen Edwards i bawb
“ar aelwyd Sianel Pedwar Cymru”. Cafwyd atgofion melys gan y ddwy gyflwynwraig
gyntaf, Siân Thomas a Rowena Griffiths, gyda’u hanesion nhw a’r diweddar Robin
Jones yn cael eu hel i Lundain fawr i ailwampio’u dillad a’u steil gwallt, a
newyddiadurwyr o bedwar ban byd yn gadael Clos Sophia ar y noson gyntaf gyda
thedi Superted dan eu breichiau.
Neithiwr, bu Beti
George yn dathlu trwy ailymweld ag unarddeg o Gymry ifanc sy’n rhannu’r un
diwrnod pen-blwydd ag S4C yn rhaglen ddogfen Plant y Sianel. Os ydi Beti
George - un o wynebau cyfarwydd rhaglenni Newyddion Saith ym mabandod
S4C - wrthi, rydach chi’n saff o raglen o safon a sylwedd. Wrth iddi deithio ar
drên a char o Wynedd i Went, daeth llu o gyd-ddigwyddiadau i’r amlwg, rhwng dau
wedi ymuno â’r heddlu, dau yn meithrin gyrfa yn Llundain a dau arall yn hoywon
hysbys bellach. Calondid mawr oedd clywed bod pob un yn Gymry brwd a balch ac
yn dal i fedru’r iaith ar wahân i Dewi Samuel o Gwm Rhymni, cyn-filwr a glöwr a
gyfaddefodd na chafodd flas ar siarad Cymraeg yn yr ysgol gynradd beth bynnag.
Roedd rhai fel y milfeddyg Glesni Haf yn hapus braf ei byd, eraill fel Michael
Taggart o Fae Colwyn wedi bod drwy’r felin yn y modd mwyaf erchyll posib ar ôl
i’w lys-dad ladd ei fam - a’i fod yn dal i weld y llys-dad atgas yn lleol, ers
ei ryddhau dair blynedd yn ôl. Wrth grynhoi, dywedodd Beti nad yw
gwleidyddiaeth yn golygu fawr ddim iddyn nhw - trueni, oherwydd buaswn i wedi
hoffi clywed eu barn ar lywodraeth ddatganoledig y Bae a’u gobeithion am
ddyfodol eu gwlad yn gyffredinol. Yr eironi olaf oedd nad ydi Plant y Sianel yn
trafferthu gwylio S4C heb sôn am unrhyw deledu’n gyffredinol…
Mae’r
nosweithiau Sadwrn nesaf yn gyfle i fwynhau rhai o ffilmiau’r gorffennol, fel Rhosyn
a Rhith a’r Milwr Bychan o 1986 - blwyddyn ffrwythlon iawn yn hanes
y ffilm Gymraeg! Yn bersonol, gallen i wneud heb Hedd Wyn (1992) sydd
eisoes wedi’i darlledu droeon ac yn rhan o faes llafur miloedd o ddisgyblion
ail iaith ers oes pys. Go brin fod Huw Garmon a Sue Roderick yn cwyno gyda’r
holl freindaliadau chwaith. Trueni na chawsom weld clasurol coll eraill fel y
ffilm gomedi ffugwyddonol Canlyn Arthur (1994) am Gymry’r flwyddyn 2096
sy’n cynllwynio i gipio’r Brenin Arthur o’r canoloesoedd i’r presennol, ond
sy’n bachu’r arwr rygbi Dai Arthur o’r 1960au mewn camgymeriad. Un o’r ffilmiau
Cymraeg mwyaf digri’ a dyfeisgar heb ei thebyg ers hynny.