Storm y Sianel Gymraeg



Dwi’n amau weithiau a ydw i’n byw yn nhalaith rhif 51 yr Unol Daleithiau yn sgil sterics storm Sandy, ac a ddylwn i fod wedi pleidleisio ddydd Mawrth dros naill ai’r blaid â’r logo mul neu eliffant. Mae’r BBC a Sky yn debycach i is-sianeli newyddion NBC a Fox wedi’u llywio gan gyflwynwyr gafodd ddos go hegar o botocs, triniaeth gwyngalchu dannedd a lliw haul ffug. Mae Radio Cymru hefyd yn manteisio i’r eithaf ar gyfraniadau Cymry America fel Alison Hill a Steff Owen. Ydy, mae’r wasg a’r cyfryngau wedi mopio gymaint ar ras y Tŷ Gwyn nes ein bod ni’n fwy cyfarwydd â’r cyffro yn nhalaith Ohio na’r ymgeiswyr am swydd wastraffus pen blismyn Cymru a Lloegr. Mae Ann Lois Romney, gwraig ymgeisydd y Gweriniaethwyr sy’n hanu o Nantyffyllon, wedi cael cryn dipyn o sylw hefyd wrth iddi weini pice bach i newyddiadurwyr a’u pobi ar raglenni fel Good Morning America. Os na fydd ei gŵr yn llwyddiannus, gallai wastad bicied draw i Lanelli er mwyn cyfrannu i slot cwcan Prynhawn Da.

Wedi glitz a gormodedd yr ymgyrch fawr Americanaidd, roedd gwylio lluniau a ffilmiau archif o fyd fythol llwydfrown Cymru’r saithdegau a’r wythdegau cynnar yn dipyn o sioc i’r system. Ar ddiwedd wythnos o ddathlu pen-blwydd S4C, roedd rhywun yn teimlo rhyw reidrwydd a dyletswydd arbennig i wylio drama ddogfen Gwynfor: Y Penderfyniad. Trwy gyfuniad o gyfweliadau â gwleidyddion amlwg y cyfnod, dyfyniadau o lythyron personol Gwynfor Evans, a’r dull dyfeisgar o ddangos clipiau newyddion o Sulwyn Thomas ac Elinor Jones ar Y Dydd ar set deledu’r Dalar Wen, cawsom flas ar gyffro a gofid yr oes, wedi i Magi dorri’i haddewid i sefydlu sianel deledu benodol Gymraeg. “The lady’s not for turning” oedd mantra’r ddraig o ddynas ar y pryd, cyn i Peter Hughes Griffiths ychwanegu’n smala mai tro pedol S4C oedd yr unig un i Thatcher erioed ei wneud yn hanes Cymru. Er bod streic newyn Gwynfor dros y Sianel yn weddol hysbys i mi, daeth ambell ffaith newydd a diddorol i’r fei - fel ei siom a hyd yn oed iselder wedi Refferendwm methiannus Gŵyl Ddewi ’79, a’i siom a’i deimladau chwerwfelys ar ôl i’r Blaid Dorïaidd ildio mor fuan yn ei ympryd. Y straeon personol gan deulu Gwynfor oedd uchafbwynt yr awr i mi, wrth i’w blant gofio’n gynnes am dad a thad-cu annwyl. Cawsom hanesyn difyr am benderfyniad ei fab, Guto Prys ap Gwynfor, i arddel enw’i dad yn hytrach na’r cyfenw Evans mewn ymateb i sïon annifyr ei fod yntau fel gweinidog yr efengyl yn gwrthwynebu gweithred anfoesol ei dad. Un a oedd yn wrthwynebus i hyn, fel y clywsom yn ddiweddar iawn, oedd un o aelodau amlwg y Blaid. Rhyfedd felly na chafodd llais Dafydd Elis Thomas ei gynnwys yn y rhaglen. Cofiwch chi, mae ei dawelwch yn fendith weithiau hefyd…

Dwi ddim yn siŵr a oedd angen Aneirin Hughes i actio’r Gwynfor fyfyrgar ar aelwyd y Dalar Wen, gan fod cyfraniadau’r teulu a chydnabod yn ddigon i gario’r stori mewn gwirionedd. Ar ben hynny, mae’r actor reit yng nghanol stori fawr ddadleuol Jimmy Savile-aidd Pobol y Cwm ar hyn o bryd, ond amserlennu anffodus yw hynny’n bennaf.

Rhaglen ddogfen arbennig i ddyn arbennig iawn, a gwers hanes bwysig i’r genhedlaeth newydd o wylwyr sy’n cymryd S4C mor ganiataol nes ei hanwybyddu bron. Gyda llaw, tybed beth fyddai ymateb Gwynfor i fwriad y Sianel Gymraeg i droi’n fwyfwy ddwyieithog gyda gwasanaeth troslais Saesneg y botwm coch?