Faint o deledu mae rhywun yn ei wylio mewn gwirionedd dros brysurdeb a bedlam y Dolig? Ar ôl cael gorddos o sbrowts a mins peis (ddim gyda’i gilydd), rydach chi’n barod i sodro’ch hun ar y soffa i wylio’r rhaglenni a farciwyd yn y Radio Times. Ond erbyn yr hwyr, mae cloc y corff ar chwâl ac rydych chi’n chwyrnu erbyn y credits agoriadol, cyn deffro teirawr wedyn i weld mam sobor-fel-sant yn crïo chwerthin i Mrs Browns Boys, cyfres gomedi am Wyddel mewn cwrls a bronnau g’neud, ac un o lwyddiannau mwya’r BBC dros y gwyliau a ddenodd 11 miliwn o wylwyr. Efallai nad ydi’r ffermwyr ifanc mor bell ohoni wedi’r cwbl.
Fel arfer, mae’r Ffilm Fawr Gymraeg yn hollol hanfodol ar gyfer yr ŵyl, ond dwi’n ama mod i’n dderyn prin ymhlith teulu a chydnabod eleni. Roedd sawl un wedi gwylio deg munud o Pianissimo cyn rhoi’r gorau iddi, eraill heb eu hargyhoeddi gan yr hysbysebion. Doeddwn i ddim yn gwbl gyfforddus i ddechrau chwaith, wrth ofni beth oedd cymhelliant pianwr y fflat uchaf a ddenai chwilfrydedd Ela’r ferch ddeg oed yn y fflat isaf. Ond dyna union fwriad Ceri Elen yr awdures a Tim Lyn y cyfarwyddwr mae’n debyg, wrth chwarae ar ein rhagfarnau a’n rhagdybiaethau sinistr ofnus ni, yn union fel ymateb dros ben llestri ei mam (Nia Roberts) a’i thad yn arbennig (Huw Garmon) i’r berthynas gudd hon. Yr hyn a gafwyd yn y diwedd oedd ffilm fach emosiynol a hynod deimladwy am broblemau cyfathrebu, colled a galar, a gallu arbennig cerddoriaeth i leddfu hynny.
Rhois gynnig ar aduniad Noson yng Nghwmni Dewi Pws hefyd tra’r oedd gweddill y byd yn lolian ar Downton Abbey, gan fod gen i gof plentyn o fopio ar ddywediadau (“blydi statig!”) a setiau sigledig 66 Chemical Gardens yn Torri Gwynt. Nhw oedd uchafbwynt y rhaglen arbennig hon hefyd, ond roedd ambell sgetsh fel ‘Crefft yr actor’ yn teimlo fel ymgais i lenwi’r awr. A beth coblyn sydd wedi digwydd i fwng euraidd Ricky Hoyw, neu ‘H’ bellach mewn wig du Arfon Haynes a lliw haul potel, ond sy’n dal i ganu fersiynau echrydus google translate o “glasuron” fel ‘Gwyrdd Gwyrdd Gwair Tŷ Ni’ a ‘Rudolph y Coch Nabod Glaw Drud’. Dychan gwych a deifiol o’r Gymru bei-ling heddiw.
Tybed a glywn ni ‘gampweithiau’ Ricky H ar Radio Cymru, fel Wagner, Geraint Griffiths, Tydi a Roddaist, Il Divo, Cerys yn Saesneg a Katherine Jenkins yn Gymraeg ar ddechrau 2013? Mae streic Eos wedi gadael bwlch enfawr yn amserlen gorsaf sy’n cael ei thrin fel un rhanbarthol gan y Gorfforaeth yn Llundain. Mae’n siŵr bod bosys Llandaf yn falch o’r holl gemau rygbi a phêl-droed byw i lenwi’r cwota 12 awr dros y Calan, ond ers hynny, tocio C2 ac ail-bobi rhaglenni’r bore fin nos ydi’r ateb. Siawns bod yna lwythi o ddramâu da yn archifau’r orsaf sy’n haeddu gweld golau dydd eto, yn hytrach nag ailddarlledu adolygiadau o bapurau a rhaglenni teledu Saesneg y dydd gan Caryl a Dafydd/Daniel…
Bu’n gyfnod o gofio hefyd, gyda dwy raglen arbennig am fawrion byd y campau. Un o olygfeydd mwyaf cofiadwy Grav: ’Sdim Cywilydd mewn Llefain oedd Ray Gravelle y Cymro yn camu dan deimlad i lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr 2007 yn ei dei Owain Glyndŵr a thrênyrs draig goch, a’i gariad tuag at Mari, Manon a Gwenan ei “dair arwres”. Doedd gan gyfranwyr Garry Speed: Arwr Cymru, fel Gordon Strachan, Osian Roberts, Mark Aizlewood a Howard Wilkinson ddim ofn cyfaddef iddynt grio chwaith ar ôl clywed am hunanladdiad rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Dechreuodd pob atgof gyda’r diwrnod ofnadwy hwnnw pan glywon nhw’r newyddion dros y ffôn, cyn mynd ymlaen i ddangos clipiau o’r hogyn bach o Mancot, Sir y Fflint, aeth ymlaen i ennill parch a chalonnau’r byd pêl-droed ledled gwledydd Prydain a’r byd. Clywais am sawl un a wylodd wrth i’r actores Mair Rowlands arllwys ei chalon ar Beti a’i Phobl hefyd, wrth iddi gofio’n ddewr a gonest am farwolaeth ei mab Mathew a hithau ar ganol ffilmio trydedd gyfres o Teulu. Rhifyn arbennig iawn o gyfres anhepgor ein gorsaf radio genedlaethol.