Mae’r Diwrnod Mawr
yn prysur agosáu, a dwi’n gwneud fy ngorau glas i fynd i ysbryd yr ŵyl er
gwaetha felan y Cyfrifiad. Mae panad o de a mins pei Aldi (“Lycshyri” cofiwch)
ar y ddesg, Bart Simpson Siôn Cornaidd ar ben simnai gyferbyn, a CD Nadoligaidd
newydd Cerys Matthews yn y cefndir. Er, dwi’n amau ei bod hi wedi camddeall
geiriau T Rowland Hughes yng nghân ‘Y Darlun’ hefyd… Dyma’r amser traddodiadol
i hel meddyliau am ddigwyddiadau’r flwyddyn a wibiodd heibio - y da, y drwg a’r
diawledig. A thra cawsom ein boddi dan don o Brydeindod ym mlwyddyn y
Jiwibilympics, mae’n well gen i gnoi cil ar arlwy’r cyfryngau Cymraeg yn 2012.
Nid bod modd osgoi
hynny ar radio a theledu Cymraeg chwaith, wrth i ohebwyr bwysleisio’r BRITISH
yn BBC Cymru a darlledu digwyddiadau Taith y Fflam hyd syrffed. Mi fuodd
na gryn grensian dannedd o wylio a gwrando ar newyddion y flwyddyn hefyd, wrth
i’r hacs Llundeinig fentro dros Glawdd Offa i adrodd am ddigwyddiadau trist yn
y parthau dieithr hyn o’r Deyrnas. Daeth “Tallybont” a “Mackuncluth”
i sylw’r byd, a chafodd enwau’r cyfranwyr Cymraeg eu camsillafu’n hollol
ddigywilydd ar sgriniau Sky News, ITN a’r Bîb. Ydyn nhw’n dangos yr un diffyg
parch i enwau pobl a lleoedd Syriaidd, Groegaidd a chenhedloedd amlwg eraill
2012? Ond mae’n gwasanaeth Saesneg “cynhenid” ni cynddrwg, wrth i ohebydd
traffig a thywydd Good Morning Wales ynganu Llangernyw a Llanfair
Talhaearn â llond ceg o bys slwj poeth. Mewn byd delfrydol, byddai’r gallu i
lefaru enwau lleoedd a phersonol Cymraeg yn glir a chroyw yn rhan o ddisgrifiad
swydd BBC Wales. Diolch i’r drefn am broffesiynoldeb Siân Lloyd, Derek Tywydd a
Tomos Dafydd am bob Lord Jamie Owen.
O’r byd newyddion i
ffeithiol, ac roedd ’na gryn dipyn o uchafbwyntiau yn cynnwys teyrnged Ffion
Hague i rai o ferched amlyca’r genedl yn Mamwlad, ymchwiliad emosiynol
Beti George i gleifion a gwasanaethau dementia yn Un o bob Tri, a gwledd
i’r llygaid yn Antur y Gorllewin wrth i Iolo Williams hel natur o
Bortiwgal i Wlad yr Iâ. Cawsom gyfresi pry-ar-y-wal rhagorol hefyd, yn enwedig Ysbyty
Plant a gododd gywilydd arna’i am gwyno am bwl diweddar o man flu
aka annwyd pen. A llongyfarchiadau i S4C am bwysleisio’i rôl fel calon cenedl,
nid sianel y “bröydd” simsan yn unig, gyda lle amlwg i dafodiaith cymoedd Tawe ac
Afan mewn cyfresi fel Y Glas a Traed Lan. Roedd hi’n flwyddyn o
obsesiwn toiledol rhyfedd hefyd, gydag Ifor ap Glyn yn adrodd hanes Tai Bach
y Byd a chriw Bois y Caca yn clirio’r carthion eisteddfodol ym Mro
Morgannwg.
Sôn am bethau
anghynnes, daeth enw o’r gorffennol yn ôl i lenwi nosau’r wythnos. Cawsom ddos
o dabloid gyda Heno gyda’r orfrwdfrydig Rhodri Ogwen-Williams ac Emma
Walford yn cyflwyno clecs ac adolygiadau o’r Sun, negeseuon trydar, a
slot goginio fel Miss Cymru yn paratoi brechdan. Wedi’r holl lambastio ar
wefannau cymdeithasol a Taro’r Post, cafodd Heno ailwampiad arall
fel Wedi 7 Mk II dan arweiniad Gerallt Pennant. Doedd pob adfywiad ddim
yn ddrwg i gyd chwaith, wrth i ni fwynhau Noson yng Nghwmni Caryl ar ŵyl
ein nawddsant a chymeriadau newydd fel JoJo Eastman y ddysgwraig a Cameron
Jenkins y chwaraewr rygbi ifanc yn adlais o Gymru 2012. Sgwn i beth ydi ymateb
Sioned Gruuuug i’r ffrae ddiweddar am ddysgwyr yn (methu) cerdd dantio? Roedd
’na ddigon o chwerthin gyda chyfres Dim Byd hefyd, a enwebwyd am
wobrau’r Royal Television Society a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd, wrth i griw Wil
a Cêt: Y Profiad ddychwelyd i ddychanu’r Monwysiaid hynny a fopiodd ar y
Windsors. Gobeithio y cawn ni ddilyniant arall yn sgil iwfforia’r Babi
Brenhinol.
Roedd ’na
ddigon o ddrama ar y Sianel hefyd, gyda giamocs athrawon a disgyblion Ysgol
Gyfun Gymraeg Bro Taf yn Gwaith Cartref yn llwyddo i wneud yr amhosib,
trwy blesio pawb - o ddisgyblion ail iaith Caerllion i deuluoedd ffarm Dyffryn
Conwy. Ond mae syndod ac ymddiheuriadau’r flwyddyn yn mynd i Alys, un o
‘dyrcwns’ 2011 y golofn hon. Ydw, mi rydw i a sawl un arall a roddodd y gorau i
wylio’r gyfres dywyll gyntaf, yn cael blas mawr ar yr ail, gyda chyfuniad o ias
a chyffro, stori ysbryd, hiwmor tywyll a giamocs Kevin, Shane a Bessie. Gyda
slot naw o’r gloch nos Sul yn ffyrnig o gystadleuol, a digonedd o ddramâu
gwerth chweil ar y sianeli eraill, S4C sy’n ennill y tro hwn.
Bu’n flwyddyn a
hanner i gyfres fwya poblogaidd y Sianel o bell, bell ffordd hefyd. Ffarweliwyd
â Gwyn Elfyn, awdur bestseller y Gymraeg, ar ôl bron i 28 mlynedd o
wasanaeth ffyddlon i Pobol y Cwm. Tra’r oedd y pentrefwyr gladdu ’rhen
Denz, cafodd Cwmderi ei hailwampio’n llwyr gan y tylwyth teg wrth i gilfachau
newydd ymddangos dros nos, y Siop a’r Caffi’n cael estyniad a Chapel Bethania a
garej Garry Monk yn adleoli i’r Stryd Fawr. Bellach, mae’r set newydd ym
mhentref drama Bae Caerdydd wedi hen ennill ei blwyf a straeon gafaelgar
diweddar yn denu’r gorau o actorion fel Lisa Victoria (Sheryl). Bechod am
isafbwyntiau fel Gwyneth y llofrudd, pennod swreal Gemma a’r cadno gwaedlyd (yr
anifail, nid ffarmwr tanllyd
Penrhewl) a phapur wal lolfa Eileen sy’n dal i beri hunllef.
Bechod hefyd am
ddiffyg cyfres gerddoriaeth fodern i ddilyn Bandit, sydd wedi hen fynd
i’w bedd ond a lwyddodd i ennill gwobr BAFTA Cymru eleni. A na, tydi hen fideos
Bando na Maffia ddim yn cyfri. Ar y llaw arall, cawsom wledd o ganu gwerin ac
acwstig Yn Fyw o Acapela, a gobeithio am fwy'r flwyddyn nesaf. Yn y
cyfamser, math arall o ganu sy’n mynnu’n sylw rhwng nawr a diwedd y flwyddyn,
rhwng Carolau Gobaith, Carolau Llandudno, Carol yr Ŵyl…
Ydi
hi’n bryd i mi gael mins pei arall ’dwch? Nadolig Llawen.