Ysbyty Plant



Llond dwrn o bethau sy’n fy ngwneud i’n anniddig y dyddiau hyn. Hysbysebion soffas Dolig, cymeriadau drama sy’n siarad mewn rhegfeydd, Aled Jôs yn gofyn i ni bleidleisio dros bersonoliaeth chwaraeon y flwyddyn BBC Cymru (“deiliwch y rhifa canlynol…”) ac unrhyw awgrym o greulondeb yn erbyn plant. Mae ’na ias oer yn mynd drwyddaf bob tro rwy’n gweld y plentyn bach dagreuol yn ei glwt mewn stafell oeraidd fudr yn hysbysebion NSPCC, ond mae’n amlwg eu bod yn effeithiol gan ’mod i bellach yn cyfrannu’n fisol at yr elusen honno. Mae digwyddiadau’r misoedd diwethaf – o ddiflaniad torcalonnus April Jones i’r honiadau o dreisio a cham-drin yn erbyn “sêr” adloniant mwyaf Lloegr y 1970au a’r 1980au, a hyd yn oed stori bedoffeil Pobol y Cwm – yn anodd i’w stumogi.

 
Dwi’n teimlo’n anesmwyth iawn iawn o weld plant yn dioddef anhwylder neu’n gorwedd yn ddiymadferth dan fynydd o diwbiau mewn uned gofal dwys. Mae cydweithwyr byth a hefyd yn trafod rhyw raglenni fel One Born Every Minute Channel 4 neu Hospital 24/7 BBC Wales, ac yn beichio crïo wrth wylio. Cyndyn braidd, felly, oeddwn i o ddilyn cyfres newydd sbon Ysbyty Plant, am rai o’r 9,000 o Gymry bach sy’n teithio dros Glawdd Offa i gael triniaeth a gofal arbennig yn ysbytai Lerpwl, Manceinion a Bryste. Mae’n amlwg yn llafur cariad i’r uwch-gynhyrchydd Sioned Morys o gwmni cynhyrchu Chwarel, sy’n “fam Alder Hey” ei hun ar ôl i’w merch gael llawdriniaeth yno’n fuan wedi’i geni. A’i gŵr, y bardd a’r canwr Twm Morys, sy’n llefaru’r gyfres arbennig hon am deuluoedd o’r Gogledd sy’n gobeithio am y gorau wrth i’w hanwyliaid fynd dan y gyllell yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl. Yn y rhaglen gyntaf o dair, cawsom hanesion Alwen Eifion Huws, 2½ oed o Forfa Nefyn sydd angen triniaeth i sythu ei hasgwrn cefn, a Dafydd Tudor 8 oed o Gynwyd, Corwen sy’n gorfod siarad trwy’i drwyn oherwydd problemau gyda chyhyr yn ei daflod. Nid rhaglen i’r gwangalon mo hon, ond diawch dwi’n falch i mi ddal ati. Do, mi gaeais fy llygaid pan gafodd Alwen fach ei phlygu fel doli glwt gan ddwylo medrus ofalus yr arbenigwyr, ac mi wingais wrth i’r camera chwyddo mewn i geg Dafydd dan anesthetig. Ond y rhannau mwyaf emosiynol o bell ffordd oedd gweld y ddwy fam (roedd y tadau druan yn gorfod aros yn y coridor) yn swsian ffarwel i’w plant a gadael eu hoff flanced neu dedi ar wely’r theatr. Elfen hyfryd arall oedd gweld y ddwy yn cyfieithu dros eu plant i’r nyrsys a’r meddygon.

 
Diolch byth, fe ddaethant drwyddi, a gorffennodd y rhaglen gydag Alwen yn mynd fel mellten o stafell i stafell yr aelwyd yn Llŷn a Dafydd yn pedlo fel bom yn ei gar rasio ar fuarth ei gartref. Er hynny, mi fydd hi’n fisoedd ac apwyntiad dilynol arall eto cyn y caiff eu rhieni dawelwch meddwl. Gobeithio y cawn ninnau hefyd glywed eu hanes nhw, a phlantos eraill y gyfres, yn y dyfodol agos.