Dysg a dawn

Tonic Bro Taf

Maddeuwch i mi am fod braidd yn ddwl/ara’ deg drannoeth llesmair y Gêm Enfawr. Dyna lle’r oeddwn i’n awchu am bennod gyntaf o Gwaith Cartref, ac yn ddiolchgar am grynodeb agoriadol o’r un ddiwethaf er yn dal mewn penbleth. Ble mae Simon Watkins ar ôl i’w ddyweddi fachu’i ffrind gorau, a beth ydi hanes Nerys Edwards yr athrawes ddrama? Mae Beca, yr athrawes ymarfer corff drwblus, hefyd yn absennol. Ond dyna ydi hanfod ysgol, debyg, lle mae athrawon yn symud i borfeydd brasach neu’n gadael dan straen targedau’r Tsar Addysg Leighton Andrews, ac enwau newydd ar y gofrestr fel y disgyblion hwythau. Ac mae ’na sawl wyneb newydd ym Mro Taf y tymor hwn, rhwng Mr Aled Jenkins (Gareth Jewell) Cerdd sy’n llwyddo i wylltio a swyno’r Dirprwy o bosib; Miss Llinos Preece (Elin Phillips) Gwyddoniaeth gydag obsesiwn colli pwysau; a Brynmor Davies (Bryn Fôn) sy’n dod i achub yr adran fathemateg â dos go dda o ddisgyblaeth hen ffasiwn. Mae ’na botensial am densiwn annioddefol wedi i’r fam newydd Sara Harries (Lauren Phillips) ddychwelyd i’r adran gelf a gwneud llygaid ‘lladdai nhw’ ar Dan a Grug o bell. Ond yr elfen orau heb os yw’r hiwmor sy’n britho’r awr, yn enwedig golygfeydd Gemma Haddon (Siw Hughes) a Gwen Lloyd (Rhian Morgan) sydd efallai’n destun edmygedd benywaidd arall. Does dim angen i Rhodri Evans agor ei geg fel y Pennaeth Rhydian Ellis, gan fod ei osgo a’i stumiau yn gelfydd o gomic wrth geisio cadw trefn ar staff sy’n fwy o lond llaw na’r plant, a chodi’i Ysgol o gywilydd gwaelodion Band 4. Ond ai fi yw’r unig un sy’n meddwl bod Wyn Rowlands Cymraeg (Richard Elis) yn fwy o gymeriad panto nag erioed, yn llawn sylwadau coeglyd ac yn rholio’i lygaid yng nghefn pawb? Dim ond cyfres neu ddwy ôl roedd y ffŵl diniwed hwn yn hen snichyn budr gyda’r genod. Ond ar y cyfan, mae’n bleser dychwelyd i’r ’stafell ddosbarth a mwynhau awr yng nghwmni cymeriadau rydych chi’n malio amdanyn nhw.

Prin gallwn i ddweud yr un peth am gymeriadau Teulu yn anffodus, a fu’n cicio a brathu, gweiddi a godinebu am bum cyfres cyn cymodi mewn glân priodas yn y Cei. Er, mae rhywun yn amau y bydd Llŷr unig druan yn paffio yn erbyn ei gysgod ei hun am byth ym Mryncelyn, ar ôl cael allweddi’r aelwyd gan ei fam. Er mai dim ond y bennod olaf welais i, does dim dwywaith ei bod hi’n boblogaidd – llwyddodd y bennod gyntaf i ddenu 67,000 o wylwyr nôl ym mis Ionawr, bron ddwywaith gymaint â ffarwel fawr Alys - a’i bod hi’n wledd i’r llygaid yn y dyddiau darbodus blin ohoni, ond roedd i’n bryd cau pen y mwdwl. Mi fydd hi’n chwith heb gyfraniadau trydar @DrJohnFfug bob nos Sul hefyd. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni’r Morganiaid ac Aberaeron hirfelyn tesog yn ôl am sbesials yn y dyfodol. Wedi’r cwbl, mae cenhedlaeth ifanc a hen hen stejars Dallas (Channel 5) newydd gladdu JR yr wythnos hon.


Ta ta Teulu