Mae eira mawr 1982 yn gyfystyr â Sulwyn Thomas a’i Stondin, wrth i bobl ddefnyddio'r radio fel cyfrwng cyfathrebu mewn cyfyngder, a ffonio i gyhoeddi pa ffordd neu ysgol oedd wedi diflannu dan luwchfeydd. Hyn ymhell bell cyn dyddiau’r cyfryngau cymdeithasol wrth gwrs, pan fo penaethiaid ysgol yn e-bostio’r newydd i rieni a phob copa het wlanog yn tecstio lluniau o’r stwff gwyn i brif raglenni newyddion y dydd. Un o’r gohebwyr dros ben llestri oedd Nick Palit Wales Today, a ddefnyddiodd ei stumiau dwys-ddifrifol gorau posibl i ddisgrifio’r strach o gyrraedd swyddfa Llandaf fel petai’n byw wrth droed Pen-y-fan yn hytrach na chyrion y brifddinas. I fi, bydd tywydd mawr 2013 yn gyfystyr â chlywed Tudur Owen yn rhefru a rhuo am effaith ychydig gentimedrau o eira ar wledydd argyfyngus Prydain. Mae rhaglenni prynhawn Gwener a Sadwrn yn enghraifft berffaith o addasu’n llwyddiannus i streic y cerddorion, gyda digon o gomedi (y gyfres sebon ŵ-ŷ-misus Bron Meirion a’r slot ‘gair Cymraeg y dydd’), herian Manon Rodgers (trwy gyfrwng Skype ar ôl iddi fethu â chyrraedd y stiwdio o grombil arctig Môn), rhagflas o arlwy chwaraeon y penwythnos, a chasgliad recordiau amrywiol a difyr Dyl Mei (Rosalind Lloyd ochr yn ochr â John Cale!) Gwych. Er, efallai na fyddech chi mor frwd os ydych chi’n blisman iaith neu’n cadw cathod…
Clywais ambell un yn cwyno mai rhaglen-radio-ar-y teledu ydi Cadw Cwmni gyda John Hardy (Rondo) yn y bôn, ond dwi’n cael blas arbennig arni. Mae’n fformat syml a gweddol rad, dybiwn i, sy’n hollbwysig i’r Sianel ddarbodus sydd ohoni. Gosodwch gadeiriau esmwyth mewn stiwdio fechan ddi-gynulleidfa, a chyflwynydd profiadol yn holi gwesteion cyffredin yn hytrach na selebs ‘ylwch fi’. Clywsom eisoes am brofiadau un o fomwyr Tryweryn, cyfreithiwr a fu’n rhan o’r ymchwiliad i gyflafan Bloody Sunday, a hanes hyfryd dau faciwî o Lerpwl a drodd yn Gymry Cymraeg pybyr, diolch i’w teuluoedd mabwysiedig yn Nhalgarreg a Llanrwst. Yn wir, mae’r straeon mor ddifyr nes ei bod hi’n biti eu torri’n eu blas. Byddai’n well neilltuo rhaglen gyfan i un gwestai er mwyn treiddio’n ddyfnach o dan yr wyneb arwynebol.
Roeddwn i’n barod i arthio bod hanner awr yn ormod i Fi neu’r Ci (Telesgop), cyfres newydd am ddarpar gariadon y genedl. Pan glywais hys-bys fisoedd yn ôl am gystadleuwyr yn canlyn anifeiliaid anwes cyn bachu’r perchennog, aeth ias oer Tipit-aidd drwyddaf. Doedd y gwirionedd ddim mor boenus wedi’r cwbl, gydag ‘Al’ o Dregaron yn bwydo, gwarchod a hyfforddi anifeiliaid dwy ferch o Sir Benfro (a sbecian drwy’i llofftydd a’u drôr nicers) wrth i’r merched ysbïo arno ar eu cyfrifiaduron, cyn gorfod dewis rhwng “Talia a’i shih tzu siapus” neu “Katie a’i phoni ffansi” meddai’r llefarydd Ifan Jones Evans. Unwaith eto, fe orffennodd y cyfan yn rhy sydyn gyda dim ond pum munud ola’r rhaglen yn dilyn y cwpl ar ddêt sgod a sglods ar brom Aberystwyth.