Ar y Bocs 2014







Arwydd o henaint, meddan nhw, ydi poeni am dreigl amser ac ebychu “lle’r aflwydd aeth y flwyddyn?” Ac yn fy neugeinfed oes, dw innau wedi ymuno â’r clwb hefyd. Sgwn i ydi Gareth Lewis a Lis Miles yn teimlo’r un fath, fel dau o aelodau gwreiddiol Pobol y Cwm a gyrhaeddodd garreg filltir arbennig iawn eleni. Mae’r hen bentre ôl-ddiwydiannol ar gyrion Llanelli-Llanarthur wedi bod yn gartref i gymeriadau brith ar hyd y blynyddoedd - ffarmwrs, dynion busnes, gangstyrs drama, femme fatales, gyrwyr lori gaca, pregethwr llofruddiog, lesbiaid, ambell seren rygbi, Gogs ac Archentwraig - ac yn dal ar frig siartiau gwylwyr S4C. Tipyn o gamp, er gwaetha’r toriadau diweddar a dihidrwydd ymddangosiadol y Gorfforaeth Brydeinig heddiw i’w chyfres sebon hirhoedlog. Llwyddodd y bennod ben-blwydd i wylltio/drysu/blesio’r selogion wrth i Mark Ni ymddangos yn ei “angladd” ei hun, ond fe wnes i chwarter, olreit, hanner maddau’r sgriptwyr am ddod â’r Jonesiaid nôl at ei gilydd am wythnos wallgof yn yr hydref.


Beth am uchafbwyntiau dramatig eraill y flwyddyn? Go dlawd oedd hi o ran nifer, ond nid safon, a’r coffrau’n brinnach nag erioed i gyfrwng drutaf teledu. Cawsom fwy o anturiaethau poblogaidd Gwaith Cartref a sicrhaodd wobr BAFTA Cymru i Rhian Blythe. Siawns y caiff hi dlws arall am berfformiad ingol o wraig fferm ar droad yr ugeinfed ganrif yn y fonolog Gwreiddyn Chwerw. Siom personol y flwyddyn oedd Cara Fi, drama gomedi ramantus (dramedi?) am landledi sy’n ceisio denu gwaed newydd benywaidd i’w phentre marwaidd trwy hysbysebu llancia sengl y fro ar gartonau llaeth. Mae’n edrych yn dda, diolch i arfordir gogoneddus Sir Benfro, a Gaynor Morgan Rees yn seren, ond y dynion fel rhech a’r plot braidd yn ailadroddus o wythnos i wythnos. Ond collais bob tamaid o fynedd a diddordeb o weld y gair “Cyfieithydd” ar y credits cloi.


Gan fenthyca’r cliché Steddfodol, cafodd Matthew Gravelle gythraul o gam trwy golli teitl ‘actor gorau’ BAFTA Cymru i Tom Riley o Da Vinci’s Demons, cynhyrchiad Eingl-Americanaidd sy’n trawsnewid Port Talbot yn Fflorens y bymtheged ganrif diolch i gymorth technoleg CGI a thomen o liw haul ffug. Ond yn ôl at Mathew a rôl y flwyddyn fel Patricia, un o drigolion trawsrywiol Crud yr Awel yn 35 Diwrnod. Erbyn diwedd y gyfres orwych hon â fflachiadau o hiwmor du, roedd dirgelwch llofruddiaeth JR (Jan Roberts) bron yn eilbeth i’r bitsio a’r gwrthdaro cyson rhwng Pat a Tony (Rhys ap William) a gyrhaeddodd benllanw dramatig hunllefus megis Misery Stephen King. Mae Andrew Collins o’r Guardian yn honni bod cyfres arall ar y gweill, a pham lai? Wedi’r cwbl, roedd pawb yn meddwl bod Broadchurch - cyfres afaelgar arall ar CV y Bonwr Gravelle - wedi darfod am byth, ond mae’r ail i ddod yn y Flwyddyn Newydd gydag Eve Myles yn aelod o’r cast. Roeddwn i a miloedd eraill, trydarwyr brwd a’r Independent wedi mopio’n lân: “Hinterland and 35 Diwrnod: Step aside Scandi thrillers, here comes Wales”.


Daeth y BBC dan lach y Celtiaid eleni, gan beri i ni amau didueddrwydd y Gorfforaeth unwaith eto. Heidiodd miloedd o Albanwyr i bencadlys BBC Scotland yn Glasgow, i brotestio yn erbyn darllediadau unochrog gwarthus o blaid y nacawyr yn y Refferendwm dros Annibyniaeth. Ac yng Ngemau Gymanwlad yr un ddinas, fe’n hamddifadwyd o seremoni euraidd emosiynol y nofwraig Georgia Davies pan dorrodd dyn camera Today at the Games i weld Sais yn derbyn medal arian. Hyd yn oed yn nes adra, roedd rhywun yn amau ai Jeremy Clarkson yw golygydd Radio Wales wrth i raglenni ffonio i mewn ddeffro’r deinosoriaid gwrth-Gymraeg gyda phynciau trafod fel “does the Welsh language get on your nerves” a “should the Urdd Eisteddfod be bilingual”? A’m gwaredo.


Chafodd Radio Cymru mo’r flwyddyn hawsaf, wrth i’r amserlen newydd roi taw ar Dafydd a Caryl hynod boblogaidd amser brecwast a chyflwyno’r byddarol Tommo i’r genedl amser te. Mae’n anodd gen i gredu mai’r DJ o Aberteifi sy’n bennaf gyfrifol am golli 40,000 o wrandawyr rhwng mis Gorffennaf a Medi eleni, ond dyw’r holl recordiau Saesneg fawr o help i achos Betsan Powys. Un o berlau’r cyfrwng, fodd bynnag, oedd Dod at ein Coed, gyda Llion Williams yn ein tywys ar daith ddiddorol tu hwnt, o lannerch arbennig i goffau anwyliaid yn Llŷn i enwau coedlannau Cymraeg y brifddinas.


Tybed beth yw ymateb y Dr Meredydd Evans i helyntion ei gyn-gyflogwr? Mr Adloniant Ysgafn BBC Cymru 1963-1973 oedd testun portread arbennig Gŵyl Ddewi, Merêd, gyda golygfeydd hyfryd ohono’n dawnsio’n sionc i’w albwm o ganeuon gwerin a farnwyd ymhlith goreuon y New York Times 1954. Mae Cerys Matthews yn fythol ddiolchgar i Merêd a Phyllis Kinney am gofnodi cymaint o’n hen alawon traddodiadol, ac roedd ei chyfres Y Goeden Faled yn gyfuniad o ganu, hanes a chysylltiadau rhyngwladol ein clasuron fel ‘Moliannwn’. Bechod am ei MBE hefyd.


O ran dogfen, dwy raglen hynod ddirdynnol sy’n aros yn y cof yw rheiny gan gyflwynwyr plant y Sianel. Geraint Hardy ac Owain Gwynedd, y naill wedi’i fagu gan fam alcoholig (Yr Hardy’s: Un dydd ar y tro) a’r llall yn faban pan gollodd ei dad trwy hunanladdiad (Iselder: Un Cam ar y Tro). Diolch i’r ddau am siarad mor agored am bynciau y byddai’r rhan fwyaf ohonom yn dymuno’u cadw’n glep y tu ôl i ddrysau caeedig.


Braf clywed rhai o leisiau dieithr y gogledd-ddwyrain yn ystod y flwyddyn, gyda chyfres Wrecsam di Wrexham yn profi bod yr iaith yn dal i frwydro byw ar y ffin wrth i ni gwrdd â chymeriadau’r bragdy, siop trin gwallt, y Cae Ras a thafarn gydweithredol Saith Seren. Darlun sobreiddiol iawn a gafwyd yn Pleidiol Wyf i’m Gwlad? ar y llaw arall, wrth i Beti George gamu’n anfoddog i dafarn yn drybowndio o gefnogwyr tîm Lloegr yn Shotton, Sir y Fflint, a chroes San Siôr yn cyhwfan o dai’r ardal. Mi fuasai ymgeisydd Llafur Rochester lawn mor anghymeradwyol. 


Pwy feddylia y byddai cyn-actor sebon yn rhawio mewn cae silwair yn esgor ar un o lwyddiannau’r haf? Llwyddodd Olion: Palu am Hanes i ddenu ton o archaeolegwyr soffa, wrth ddilyn Dr Iestyn Jones yn datgelu teml Rufeinig yn Nyffryn Conwy a bryngaer oes yr haearn yn Llandre. Cyfres arall, a mwy o bres yn y pot pridd, os gwelwch yn dda S4C.


Ac i gloi, ailwampiwyd amserlen bnawn Sul wrth i’r Clwb ddisodli omnibysiau Pobol a Heno. Ond pinacl chwaraeon 2014 oedd Seiclo: Le Tour de France gyda Rhodri Gomer a’r giang yn caboli’u Ffrangeg TGAU ac Alun Wyn Bevan yn llawn angerdd arferol.