Pobol 40





Dw i’n cofio’r olygfa fel ddoe. Bwyta cinio o flaen teledu’r gegin, cyn cael pas i’r ysgol ar gyfer her TGAU arall. Ar y bocs, roedd ailddarllediad o Pobol y Cwm noson gynt, uchafbwynt haf ’91 cyn i’r sioe sebon gael seibiant tan fis Medi. A sôn am uchafbwynt. Y pentrefwyr i gyd wedi ymgynnull i fwynhau siampên a sosej rôls yn agoriad swyddogol clwb golff Breeze Hill - Brynawelon gynt, cartref hen stejars hoff fel Bella, Jacob Ellis a’r Parch TL a oedd, dw i’n siŵr yn dawel bach, yn meddwi’n rhacs ar win riwbob Harri Parri - bellach yn rhan o fenter ‘JR’ Sir Gâr, Stan Bevan. Ond am ryw reswm angof, roedd hen gena’ a chariad Kirstie McGurk wedi plannu rhywbeth amheus yn y Clwb. Ac wele Sarjant Glyn James yn mynd fel bom ar hyd hewl Llanarthur-Cwrtmynach, a’r seiren yn sgrechian dros y cwm. Roedd hyn cyn dyddiau’r ffôn lôn, cofiwch. “Neith o fyth ffrwydro” meddwn i’n smyg i gyd dros fechdan ham, “di’r Bî-Bî-Sî methu fforddio’r fath sdynt”. Ond ffrwydrad a fu, a chwythodd yr adeilad yn rhacs jibiders wrth i Sarjant James sgrialu at y fynedfa. Y penwythnos wedyn, roedd llond bws mini ohonom yn mynd i ddawns sgubor i ddathlu diwedd yr arholiadau. A’r pwnc trafod bywiog? Pwy fyddai’n goroesi Clec Fawr Cwmderi. Erbyn i’r gyfres ddychwelyd chwe wythnos yn ddiweddarach, doedd neb fawr gwaeth ar wahân i Barry John druan a gollodd ei olwg. Ond fel pob opera sebon gwerth ei halen, roedd yn well ymhen mis ac yn lapswchan rêl boi hefo Beth, yr arch-ast orau welodd y Cwm erioed. Hynny cyn i Beth fachu Dic Deryn a chwalu’i briodas â Carol Gwyther (un o drionglau serch gorau teledu Cymraeg), a chymryd ffansi at Fiona’r Caffi flynyddoedd wedyn. A phwy sy’n cofio perthynas Meira, ysgrifenyddes hirddioddefus Deryn Sgips, â Llew Mathews a dorrodd ei chalon gyda Gina. Trawyd y gr’aduras honno’n farw gan gar, a boddi yn nilyw 2001 oedd tranc Llew.

Mae ’na fflyd o ddŵr wedi mynd dan bont ers hynny, a llond trol o newidiadau ers yr oes aur honno i mi’n bersonol. Gostyngodd oedran cyfartalog y cymeriadau, daeth problemau’r ddinas i gefn gwlad – cyffuriau, HIV, plant ag acenion Glantaf – ac ambell blot chwerthinllyd fel gangstyrs drama B’towe, Reg Harries yn lliwio’i wallt mewn pwl o greisus canol oed, Hywel a Cassie yn rhedeg clwb dawnsio polyn, ac Anti Marian yn codi o farw’n fyw ym Mhenrhewl. Cyflymwyd arwyddgan gitârs wreiddiol Endaf Emlyn i’r fersiwn gerddorfaol gyfredol gan Owen ‘Catatonia’ Powell. Diflannodd yr hen Deri Arms glyd draddodiadol a chododd tŷ potas plastig newydd fel ffenics o’r fflam megis set Neighbours. A chafodd lleoliadau fu gynt ar y cyrion – y capel, y garej, fflat Ffion a Jinx – eu trawsblannu dros nos i’r Stryd Fawr, wrth i’r gyfres godi pac a symud o stiwdios cyfyng Llandaf i’r Bae eang braf, drws nesa i Casualty (handi ar gyfer golygfeydd ’sbytu) a Dr Who (handi ar gyfer atgyfodiad Anti Marian), gan greu mwy o hygrededd a bwrlwm canol pentref go iawn. 

Os ydych chi’n snob sebon - ac mae ’na ormod o Gymry Cymraeg yn troi eu trwynau ar Pobol y Cwm wrth fopio ar ffars ‘Carry on Cockney’ Eastenders - rydych chi’n colli perlau actio o bryd i’w gilydd. Roedd Rhian Jones yn ysgytwol wedi i’w chymeriad Karen, merch Olwen Siop, gael ei threisio gan Barry John (ie, hwnnw eto). Ond yr un sy’n parhau fwyaf yn y cof yw perfformiad dirdynnol Sera Cracroft ar ôl i John, un o efeilliaid Denzil ac Eileen, farw yn y crud. Heddiw, mae Lisa Victoria yn serennu’n gyson fel Sheryl sy’n baglu o un angst personol i’r llall. Yr hen gi Hywel Llywelyn ydi’r diweddaraf. Oes gobaith am briodas hapus, tyaid o blant a llond llyfr apwyntiad o blŵ rinsus iddi? Llawer rhy ddiflas, g’lei!

Mae rhyw aflwydd yn taro rhai o’r cymeriadau gwrywaidd dros amser. Maen nhw’n cyrraedd y Cwm yn hen fois iawn, ond yn gadael yn hanner pan. Dyna chi Derek y mecanig fu bron â gwaredu carfan Cwmderi RFC mewn damwain bws mini, Rod y Plod gipiodd ei blentyn i Bahrain, a Steffan Humphreys a fu’n waldio’i nain cyn lladd Teg maes o law. Dim ond gobeithio y bydd Colin yn parhau’n donic am sawl blwyddyn arall.

Mae dau aelod gwreiddiol o’r cast yma o hyd. Megan, Mrs Moesol y Pentref sydd wedi dychwelyd i gadw siop elusennol, er duw a ŵyr lle mae’n byw na beth yw hanes ei phlantos di-sôn-amdanynt, Rhian Haf a Gareth Wyn. Ond y bytholwyrdd Meic Pierce ydi’r seren, bellach y tu ôl i gownter ei gaffi unwaith eto. Hen dro bod Gareth Lewis am roi’r ffedog yn y to, ac y byddwn ni’n ffarwelio â’r hen Feic yn y flwyddyn newydd. Mewn cyfweliad radio diweddar, dywedodd Nia Caron bod golygfeydd emosiynol ar y gweill rhwng Meic ac Anita. Salwch angheuol ’sgwn i?

Mae’r rhod yn troi unwaith eto, diolch – neu ddim diolch – i’r toriadau bondibethma. Yn ogystal â thocio i bedair pennod yr wythnos o fis Ionawr nesaf ymlaen, a therfynu omnibws y Sul (cam amhoblogaidd iawn iawn ac ergyd i ffigurau gwylio S4C heb os) cyhoeddwyd y byddai pythefnos o seibiant bob blwyddyn. Cyfle unwaith eto i’n cadw ar flaenau’n sedd gyda chliffhangyrs mawr yr haf.

Codwch eich gwydrau Cic Mul neu jin mowr Mrs Mac. Pen-blwydd hapus, Pobol!