Ysgafnhau'r baich

Adloniant pia hi’r wythnos hon. Dyn a ŵyr, rydyn ni gyd eisiau rhywbeth i godi gwên ddiwedd Ionawr anghynnes, gyda choch y Dolig yn ddyledus, gwasanaeth iechyd Cymru yn destun gêm wleidyddol barhaus a dienyddwyr IS (ISIS, ISAs? Sy’n f’atgoffa i drosglwyddo mwy i’r coffrau hwnnw cyn 1 Ebrill) yn brawychu’r byd. Croeso mawr felly i Caryl a’r Lleill, a hynny ar nos Sadwrn bach yn annisgwyl ddigon. Ydy, mae’r gyfres sgetshis smala yn ôl i dynnu blewyn o drwyn ni Gymry Cymraeg, ond mewn ffordd annwyl yn hytrach nag atgas Clarkson, Robinson, Gill a’u teips. Ac rydan ni’n nabod ein teips ein hunain, o’r seren rygbi a’i lond ceg o ystrydebau Wenglish sy’n hyrwyddo’i bersawr ei hun (“Obviously, pour homme”) i’r snoben mwng a thlysau Dynasty Cwm Tawe/Aman sy’n magu’i phlant yn Saesneg. Mae ffrind coleg o Rydaman yn mynnu bod Caryl a Siw Hughes wedi llwyddo i gyfleu ambell Pam a Veloria lleol i’r dim.  Mae’n siŵr bod sawl un o gyffiniau Langwm yn cochi at eu clustiau bod tro y daw Sioned Grug i’r fei, bellach yn doethinebu’r Pethe ar ddyddiadur fideo, gyda dwy ffrind hirddioddefus Esyllt Rhyd Rhychiog (Sue Roderick yn feistres gomedi wrth ystumio yn unig) a Gwenan Bonc (“tydi hi ddim wedi’i henwi ar ôl y ffarm”) o Landeilo. Mae Ffion “Gross” Carlton-Lewis a’i theulu o’r Fro wastad yn bleser, ond Oswyn ag Alwyn Dre yn fy ngadael i’n fud. Ychwanegwch ’rhen gwpwl egsentrig o’r Rhos ac adar brith sunny Rhyl (mwy ohonyn nhw plîs), ac mae Caryl megis fersiwn S4C o adran dafodieitheg Sain Ffagan. Mae’n gas gen i unrhyw fath o “miwsical nymbyrs” fel arfer, ond roedd sioe canu-a-dawnsio Only Menopause yn ddiweddglo gwych i’r rhifyn gyntaf. Sori, gwuuuuuuuuuch.


Nerfus braidd oedd yr ymateb i’r newydd fod S4C am gyflwyno cwis newydd i’r genedl. Pwy all anghofio ambell drychineb o’r gorffennol, fel Risg! (2004-2005) gyda Siân Lloyd Tywydd yn gaddo hyd at £20,000 o wobr yn y pot rhwng 50 o aelodau’r gynulleidfa. Y drwg oedd bod rhywun wastad yn gwneud smonach o’r gêm nes bod yr hanner cant yn mynd adref efo £1.53 y pen. O leiaf mae gan Nia Roberts fwy o bedigri cwisfeistres o’r Penwythnos Mawr (1993) i Gemau Heb Ffiniau (1991-1994) lle’r oedd cystadleuwyr lleol yn gwneud mabolgiamocs yn erbyn cyfoedion o Slofenia, bPrtiwgal, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Gwlad Groeg a’r Eidal yng nghestyll Bodelwyddan a Chaerdydd. Ac fe’ch clywaf chi gyd yn hymian arwyddgan Jeux Sans Frontières rŵan hyn...

Yn gydweithrediad rhwng sianeli TV3 Iwerddon a STV yr Alban, mae Celwydd Noeth yn cynnig jacpot o £10,000 i bâr lwcus sy’n llwyddo i bigo celwydd o blith ffeithiau ar sgrin fawr. Iawn, mae’r gerddoriaeth yn atgoffa rhywun o’r gyfres Milionêr anenwog honno a’r cyfweliadau gefn llwyfan yn gopi o’r Weakest Link ond roedd y tensiwn bron yn annioddefol wrth i’r naill gystadleuydd amau’r llall a Nia yn gweiddi “cloi’r celwydd” a “hanner munud” i dic docian y cloc. Anwybyddwch y peiriant clapio, mi fydd ’na hen gyffro a gweiddi atebion ar aelwydydd Cymru dros y nosweithiau Iau nesaf. Neu"bwrlwm", chwadal Sioned Gruuuuuuuuuug.