Mae trefnwyr amserlenni teledu wedi deall
hi i’r dim. Gyda’r Bod Mawr yn pledu trowyntoedd, cesair peli golff ac eira
taranau arnon ni feidrolion y ddaear gythryblus hon yn ddiweddar, dyma’r adeg berffaith i ddianc i ddramâu sy’n fôr
o oleuni. Gydag ail gyfres siomedig sy’n datblygu i sterics sebon, llys barn
amheus, sainladrad o The Killing ac ail blot diddrwg didda efo Eve
Myles, yr unig achubiaeth i Broadchurch i mi ydi traethau a chlogwyni
ysblennydd Dorset. Mae cyfres ddrama newydd nos Fercher hefyd yn wledd i’r
llygaid, megis hysbys sgleiniog Croeso Cymru. Sut gythraul gafodd criw Lan a
Lawr gymaint o haul wrth ffilmio?
Wedi pennod agoriadol
awr o hyd, rydym bellach yn ôl i hanner awr wrth ddilyn hynt a helyntion Delia
o Abertawe (Beth Robert) sy’n llwyddo i bechu pawb ar ôl cyflwyno’i merch 17
oed i’w thad Mal (Dewi Pws) am y tro cyntaf adeg gwibdaith o’r Gŵyr i Eryri.
Mae yna lot o olygfeydd godidog o’r henwlad ’ma. Lot lot fawr. Olreit,
gormodedd. Achos mae’r holl luniau llanw, y siots panoramig o’r môr a’r mynyddoedd
cyn torri i siots sefydlu swbwrbia a ’Sbyty Gwynedd yn ailadroddus ac yn arafu
llif y stori. Mae yna gyfuniad da o wynebau hen a newydd, heblaw’r penderfyniad
od ar y naw i gastio actores ifanc o Gaerdydd fel Elen, sy’n swnio’n hollol
wahanol i’w brawd sy’n Lanbêr rhonc. Efallai fod ganddi hi dad diarth o’r De
hefyd. Dyn a ŵyr.
Trueni, achos mae’n tynnu oddi ar
berfformiadau hyfryd y fam a’r ferch (Beth Robert ac Anni Dafydd), a’r
ysgafnder rhwng mam a mab (Heulwen Haf a Dewi Rhys Williams) a’r brawd a chwaer
(Llion Williams a Gwenno Hodgkins mewn aduniad C’mon Midffild). Ac mae
deialog naturiol Gareth F Williams yn llifo fel mêl wedi’r holl gyfieithu a fu
mewn dramâu blaenorol. Wn i ddim sawl cyfres gawn ni gyda’r prif gymeriad yn
dioddef o diwmor yr ymennydd, ond mewn cyfweliad radio diweddar â Caryl,
awgrymodd Beth Robert yn gryf bod ’na ragor i ddod. Gyda llai o siots llanw
gobeithio.
Gwaith Cartref ydi un o’r enghreifftiau prin hynny o
ddrama gredadwy wedi’i gosod yn y De-ddwyrain (cofio Glan Hafren?) lle
pawb yn siarad Cymraeg yn rhwydd braf â’i gilydd, yn Gog, Hwntw, dysgwr a dwli
Wyn Rowlands. Ac mae mor Gymreig hefyd, gyda’r bardd-odinebwr Geraint Penlan
(John Pierce Jones) yn diawlio dedleins cylchgrawn Barn a chael ei
‘urddo’ yn y garafán gan fam ei blentyn yn Steddfod Meifod 2003. Ond atgoffwch
fi i ddiffodd y teli cyn i’r credits cloi ddifetha syrpreis a hanner am Lolita feichiog Bro Taf...
Broadchurch,
ITV, 9 o’r gloch nos Lun
Lan a Lawr,
8 o’r gloch nos Fercher
Gwaith Cartref,
9 o’r gloch nos Sul