Blwyddyn Parch + Patagonia




O’r diwedd, mae’r adeg honno o’r flwyddyn wedi cyrraedd. Y siopa a’r gorchwyl wedi’i gyflawni. Prynu anrhegion meddech chi? Peidiwch â siarad drwy’ch het cracer Dolig. Sôn am gopi angenrheidiol o’r Radio Times ydw i, gyda phythefnos o raglenni radio a theledu i’w huwcholeuo, a’u mwynhau gyda phentwr o frechdanau twrci oer. Bechod nad ydi S4C yn dal i gyhoeddi ei fersiwn hithau mwyach. Efallai bod pob dim ar y we dyddiau hyn, ond does dim i guro cylchgrawn papur ag ôl bysedd siocled i weld faint o’r gloch mae pennod ’Dolig-ganol-haf Rownd a Rownd, neu pryd mae ailddarllediad Wil Aeron a’r Inca gan fod yr un wreiddiol yn mynd ben-ben â drama Agatha Christie ar y Bîb. A hen rifyn Nadoligaidd o Gavin & Stacey ar sianel Dave. Damia. Heb os, dylai Parc Tŷ Glas atgyfodi Sgrîn ar gyfer achlysuron arbennig i’w blannu yng nghanol ein papurau bro.

Ac wrth edrych ymlaen, mae yna gryn dipyn o edrych yn ôl hefyd. Beth blesiodd neu diflasodd yn 2015? Yn Oes y Toriadau Mawr, mae’n braf gweld S4C yn dal i deithio ymhell. Cyflwynodd Lowri Morgan ni i ddigwyddiadau mawr bywyd ym mhedwar ban, o ddiwrnod priodas ym Moroco i enedigaeth yn Tsieina. Ond Gŵyl y Meirw: Mecsico sy’n aros yn y cof, wrth i noson ddua’r flwyddyn droi’n garnifal o liw, penglogau siwgr, tân gwyllt a tequilas ar lan y bedd, a hynny ymhell cyn i Daniel Craig a’r ffilm Bond newydd ddangos y traddodiad i weddill y byd yn ddiweddar. Daeth pendraw’r byd i Gymru gydol y flwyddyn hefyd, wrth i ni gofio canrif a hanner ers i griw glew’r Mimosa hwylio i fyd newydd. Na, doedd dim modd osgoi Patagonia eleni. Ddim hyd yn oed ar Pobol y Cwm, wrth i’r hen Meic Pierce adael i ddweud ei hwrê fawr olaf ar y Paith. Cawsom chwip o gynhyrchiad gefn-wrth-gefn ar S4C a BBC1 gan Huw Edwards o’r Wladfa, a dos o siarad poenus gan Jon Gower a’i westeion yn Y Camsyniad Mawr. Gyda llaw, mae clip o Siân Moran yn canu “Gwynt Teg i’r Mimosa” yn dal ar iplayer Radio Cymru, yn ddigon i doddi’r sinig mwyaf o’ch plith. Cafodd dau lenor amlwg eu hanfarwoli mewn dwy raglen bortread gaboledig, y naill yn arwr a’r llall yn wrthun i wlad y menig gwynion. Roedd T Llew Jones a Caradoc Evans: Ffrae ‘My People’ yn gyfuniad difyr o gyfweliadau, ffilmiau archif, ambell sioc a storïwraig tan gamp yn Beti George. Beth well?
Unwaith eto, tena ar y naw oedd cynnyrch comedi’r sianel. Na, tydi sbloets Cân i Gymru ddim yn cyfri. Diolch byth, felly, am sioe sgetshis Caryl, a ffug-dogfen Neb yn Gwybod Dim Byd am griw anobeithiol Wyrion Llywelyn ac ymgyrch losgi tai haf yr 80au.
Ym myd ffuglen, cawsom ddramatics llys barn, cythrwfl cariadon traws-cambria, mwy o Cardi Noir a diweddglo trist i staff Ysgol Bro Taf. Ond pinacl personol i mi oedd Parch, gyda Caryl Eleri yn serennu fel ficer sy’n benderfynol o fyw bywyd i’r eithaf yn wyneb diagnosis angheuol mewn cyfres a’m hatgoffodd o’r perl Americanaidd Six Feet Under. Efallai nad oedd y golygfeydd breuddwydiol at ddant pawb, a’r bennod olaf wedi drysu sawl un - ai dilyn Eurig (Rhys ap Hywel) i’r ochr draw wnaeth Myf yn y diwedd? Cyfuniad o gast profiadol a newydd, ond mae Oscar comedi’r flwyddyn yn mynd i Phylip Hughes fel Mr Jarman, trysorydd yr eglwys a gafodd fath meddwol yn y ficerdy. Mae ’na si bod Fflur Dafydd wrthi’n sgwennu’r ail gyfres nawr. Gobeithio wir.

A dyna ni. Cyfarchion yr ŵyl i bawb. Rŵan, mae gen i fwy o waith uwcholeuo i’w wneud.