Dau etholiad a dau Gwpan Rygbi’r Byd. Dyna sy’n pontio fy nghyfnod i fel sgwennwr Ar y Bocs am wyth mlynedd. Llywodraeth Glymblaid Llafur-Plaid a De Affrica ddaeth i’r brig yn 2007, a Cameron a Seland Newydd a orfu yn 2015. A diolch i fodryb o Fôn, mae gen i lond ffeil goch o’r colofnau hynny. Gyda chanlyniadau cymysg, ambell gam gwag, pechu dau neu dri, ac ambell lythyr diolch i’w trysori am byth. Gan gynnwys un gan y diweddar annwyl Merêd. Ond wrth bori a hel atgofion dros y Dolig, synnais o weld cymaint yn gyffredin ac ychydig iawn o newid mewn gwirionedd. A ninnau newydd brofi un o’r gwyliau gwlypaf ers cyn cof, difyr nodi mai “dilyw Llanelwedd” gafodd y sylw yn y golofn gynta wrth adolygu arlwy Y Sioe 07 ar S4C. Dywedais fod Rownd a Rownd yn “gymar anhepgor” i amser swper a phenmaenmawr y Sul, fel heddiw, a bûm yn diawlio arferiad y Sianel ar y pryd o gomisiynu awduron di-Gymraeg cyn cyfieithu Y Pris a Cowbois ac Injans. Mi barodd y traddodiad anffodus hwnnw gydag Y Gwyll yn 2013 a Cara Fi yn 2014. Ond mwy am y ditectif barfog byd-enwog hwnnw yn y man...
Rhyw berthynas garu-gasáu fu rhyngof â’r BBC ar hyd y blynyddoedd. Roedd y gyfres ddrama Belonging yn ffefryn mawr yn 2008 (“helbulon a hiwmor iach pobl y cwm - gyda golygfeydd a deialog tipyn mwy coch na fersiwn Cwmderi”) ac anturiaethau ffuglen wyddonol Torchwood yn sbri ac yn cyflwyno’r Gaerdydd fodern i’r byd a’r betws yn hytrach na chogio bod yn Bryste (Casualty) neu Baker Street (Sherlock) heb son am amryfal blanedau Doctor Who via stiwdios Porth y Rhath. Bron y gallwn ddweud mai Baker Boys (2011) am gymuned fentrus yng nghymoedd y De-ddwyrain oedd cynnyrch drama olaf BBC Wales ar gyfer y gynulleidfa gynhenid. Does ryfedd i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gwyno’n ddiweddar am sefyllfa druenus BBC Wales, gyda 32% - neu £10 miliwn - yn llai o fuddsoddiad mewn rhaglenni Saesneg unswydd i Gymru dros yr wyth mlynedd diwethaf. Bechod na alwodd Carwyn am ddatganoli’r maes darlledu i Gymru unwaith ac byth.
Ateb Tony Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y Bîb, oedd gaddo sianel ryngweithiol i Gymru (adlais o’r hen BBC2W o 2001-2009 efallai?) ac adran newydd sbon i Gymru ar wefan y BBC. Buasai llawer mwy yn cefnogi pecyn newyddion 6 neu 10 yr hwyr o Gaerdydd, yn cwmpasu straeon Cymru, Prydain a’r byd. Cyn belled nad Jamie Owen a’i ynganiad erchyll sydd wrth y llyw wrth gwrs. Er gwaethaf bron i ugain mlynedd o ddatganoli, felly, mae gormod o benawdau pwysig iechyd ac addysg BBC News at Six yn gorffen gyda’r term “...in England” yn unig. Mae angen lot lot mwy na Huw Edwards i Gymreigio’r Gorfforaeth ar hyn o bryd.
Ar y llaw arall, ym mis Ebrill 2013, rhoddais groeso gwresog i ailwampiad ac amser newydd Newyddion 9 S4C. A chydag ymosodiadau terfysgol y llynedd yn dal yn boenus o fyw yn y cof, profodd Bethan Rhys Roberts yn brif gyflwynydd mwy na tebol ar ôl i Rhun ap Iorwerth ffeirio stiwdios Llandaf am siambr y Cynulliad. Ymddangosodd yr ystrydeb “y fwyell” mor gynnar â 2009, wrth gyfeirio at doriadau ITV i wasanaethau newyddion “rhanbarthol”, rhwng cwtogi ar fwletinau Wales Tonight a thocio rhaglenni eraill o 4.5 awr i 1.5 awr yr wythnos ar y drydedd sianel. Cefnwyd ar Groes Cwrlwys, ac ymgartrefodd criw ITV News Cymru Wales rownd gornel i’r Senedd. Mae pethau’n dal mor fain yno, nes bod y ferch dywydd yn cyflwyno’r newyddion o bryd i’w gilydd. Diolch byth fod Y Byd ar Bedwar wedi dal ei thir ar S4C, wrth i adran ffeithiol BBC Cymru grebachu gyda diflaniad Taro 9 ac O Flaen dy Lygaid.
Prin ar y naw fu’r llwyddiannau comedïol Cymraeg, ond mae sioe sgetshis a dychanol Dim Byd yn donic diweddar, ac wedi tynnu blewyn o drwyn Cân i Gymru, obsesiwn y Monwysiaid â Wil a Cêt ac ymgyrch llosgi tai haf yr 1980au. “Un o’r rhaglenni sydd angen ei gwylio fwy nag unwaith i ddal pob jôc” meddais yn 2012. Ar yr ochr ddifrifol, cawsom bortreadau caboledig o Gymry mawr ein hoes ar hyd y blynyddoedd, o Carwyn James a Jennie Eirian, i Gwynfor Evans a T Llew Jones.
Ond yn ôl i’m mhrif dileit. Mae slot dramâu nos Sul yn un o gonglfeini’r Sianel o hyd, ac yn ategiad gwerthfawr i’r ddwy sioe sebon. Rhyw wyliwr chwit-chwat fues i hefyd. Doeddwn i “heb fopio” ar gyfres gyntaf o Alys yn 2010, gan feio’r tywyllwch dudew, y llygod mawr a’r cymeriadau atgas, ond erbyn Tachwedd 2012 roeddwn i wedi newid fy nghân yn llwyr “gyda ias a chyffro, stori ysbryd a hiwmor tywyll”. O stabl Siwan Jones y daeth 35 Diwrnod hefyd yn 2014, cyfres wreiddiol wych yn gofyn i ni wylwyr chwarae ditectifs mewn stad o dai ag “Audis drud yn y garej a gwenwyn ar garreg y drws”. Ond pan ddaeth cyfres newydd ac achos newydd i’r sgrin y llynedd, collais pob amynedd a diddordeb. Mae perig i mi deimlo felly am Y Gwyll hefyd, wedi’r cyffro a’r canmol cychwynnol ym mis Hydref 2013 (“does dim dwywaith mai’r elfen weledol oedd gogoniant y gyfres”), gyda’r cyfieithu clogyrnaidd a’r diffyg datblygu cymeriadau yn rhwystredig erbyn cyfres 2. Ond erys ei phoblogrwydd rhyngwladol, gyda’r Hollywood Reporter yn argymell y fersiwn Saesneg Hinterland ar wasanaethau Netflix ac Itunes ymhlith 15 cyfresi gorau i’w mwynhau dros yr ŵyl. Ac os ydi gwerthiant byd-eang y gyfres yn sicrhau elw i adran ddrama S4C, gorau oll. Cyfresi newydd sbon fel Byw Celwydd gan dîm Teulu (“Ewings Aberaeron”, 2008) wedi’i gosod yng nghoridorau grym a stafelloedd newyddion Caerdydd. Gyda diolch i’r clasur Danaidd Borgen am sicrhau bod llywodraeth glymblaid yn bwnc secsi ar gyfer drama deledu.
A dyna ni. Amser cau pen y mwdwl a’r ffeil goch am y tro. Daliwch ati i wylio. Mae S4C ein hangen ni’n fwy nag erioed...