Pwy ydi seren
newydd y bloc Nordic? Ísland, gwlad fu’n enwocach cyn hyn am y gantores honco
Bjork, seiniau breuddwydiol Sigur Rós, ei
chymylau folcanig trafferthus, ei ffynhonnau poeth, brwydr y banciau a’i
seigiau pen dafad. Dwi’n ffan mawr o nofelau ditectif Arnaldur
Indriðason ers sbel, ac wedi llwyddo i weld addasiad ffilm o un
gyfrol yn arbennig. A rŵan, mae’n rhan o chwedloniaeth Sadyrnol BBC Four gyda
Trapped – cyfres dditectif a dirgelwch y llofruddiaeth wrth i storm a chwymp eira
gaethiwo’r trigolion lleol theithwyr llong bleser o Ddenmarc yn nociau’r hen
dre ’sgota sy’n swatio dan fynyddoedd sy’n gwneud i’r Wyddfa
ymddangos fel twmpath twrch daear. Tydi hi ddim yn yr un cae (fjord?) â The
Bridge, ond mae Andri a Hinrika yn ddiawl o dîm da os digri’r olwg. Nid bod
hynny wedi rhwystro’r Guardian rhag bedyddio Ólafur Darri Ólafsson yn bishyn mawr
blewog chwaith.
Dyma gyfres
deledu ddrutaf erioed Gwlad yr Ia meddan nhw, a gostiodd tua 1 biliwn krónur
(dros 6.5 miliwn ewro) i’r cwmni cynhyrchu RVK Studios - buddsoddiad sy’n
siŵr o dalu’i ffordd wrth i fwy a fwy o wledydd y byd brynu’r tapiau darlledu.
Swatiwch, goleuwch
ganhwyllau, trowch y botwm gwres canolog i fyny a mwynhewch.
Seyðisfjörður - lleoliad hudolus, iasol, y gyfres