Cân am slebog o ferch, angst am “fwg a cholur, pocedi gwag a dillad budr”, David Gray Cymraeg yn mwydro am ganhwyllau, molawd i Bale a’r bêl, y bêl a Bale, doli o Fethel yn sibrwdganu allan o diwn, Samariaid Sir Fôn a phibydd druan yn gorfod cystadlu yn erbyn hogan sy’n camgymryd y meic fel megaffon.
Blwyddyn arall, Celtvision
arall. Wnes i ddim sbio’n fyw eleni, dim ond braswylio drwy iplayer (sori,
oedd safon llun S4C/Clic yn uffernol). A gwingo. Oes, ma ’na dîm proffesiynol wrth y llyw
erbyn hyn, diolch i Elin Fflur a Trystan Twitter Ellis-Morris, a lot lot mwy o bwyslais
ar negeseuon trydar y gynulleidfa (feddwol?) adra. Yn wir, mi awn mor bell a
dweud mai twitter sy’n cynnal Cân i
Gymru heddiw, a’r canu ei hun megis hen grwndi sy’n mynd ar
eich nerfa chi mewn tŷ bwyta. Does ryfedd i’r cerddor Ynyr Llwyd ffonio Taro’r Post ddydd Llun i alarnadu bod y syrcas bellach yn destun sbort a Ddim Fel y Buodd Hi. Ategwyd hyn i’r dim gan bol
piniwn y gwylwyr o gân orau’r gystadleuaeth ers geni S4C. Dim ond ers 1982
cofiwch, er bod CiG wedi merwino’r glust ers i Margret Wilias ennill efo’r ‘Cwilt
Cymreig’ ym 1969. Ond chwarae teg, bu ambell berl yng nghanol y moch. Gan gynnwys tiwns Arfon Wig, sori Wyn. Beth bynnag ddeudwch chi am y boi, mae o YN gallu sgwennu tiwns bachog. O’r 8,500 o bleidleisiau ar-lein ddaeth i law, dyma’r deg
ucha:
10. Cae o Yd, Arfon Wyn
(2000)
9. Nid Llwynog oedd yr
Haul, Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd (1982)
8. Gloria Tyrd Adra, Llion
ac Euros Jones (1987)
7. Cerrig yr Afon, Iwcs
a Doyle (1996)
6. Dagrau Tawel, Meinir
Richards a Tudur Dylan (2004)
5. Galw amdanat ti,
Mirain a Barry Evans (2014)
4. Harbwr Diogel,
Arfon Wyn a Richard Synnot (2002)
3. Y Cwm, Huw Chiswell
(1984)
2. Gofidiau, Elfed
Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts (2009)
Roedd sawl peth yn boenus o amlwg o wylio’r archif. Y
ffaith fod mwy o wmff i raglenni’r gorffennol, gyda
chynulleidfa glapiog swnllyd mewn hen siediau ym Mona, Corwen neu
Bontrhydfendigaid. Dw i wedi gweld mwy yng
nghynulleidfa Pawb a’i Farn na’r hyn fentrodd i stiwdio’r BBC yn Llandaf nos
Sadwrn. Cyfaddefiad. Bues i’n rhan o dyrfa fawr Corwen ganol y
nawdegau, a do, mi oedd yna ryw FWRLWM yno. Peidiwch â gofyn pwy enillodd
chwaith, ond roedd Melys ymhlith y dewrion wedi'u dallu gan siec o ddeg mil a'r cyfle i gynrychioli'u gwlad mewn steddfod dafarn yn Killarney. Cof arall o’r noson oedd
gweld Caryl yn meimio o’r cyrion fel un o famau gorawyddus rhagbrofion yr Urdd
wrth i genod Eden fynd drwy’u pethau ar y llwyfan.
Efallai bod ffasiwn yr 80au yn erchyll, ond roedd y caneuon yn blydi dda a
chofiadwy. Heddiw, mae’r ffasiwn wedi gwella ond y caneuon yn ddifrifol ac yn
hollol angof erbyn y credits clo. Prifeirdd oedd awduron ddoe.
Tydi rhai heddiw’n methu treiglo nac odli i achub eu bywydau.
A sut gythgam doedd hon
ddim yn y deg ucha? Ffans Sobin a Bryn Fon, dw i wedi siomi ynoch chi.