Y llwybr lawr i'r Dyffryn





Iesu, mae hon yn dda. Dim ond un bennod i fynd, a does gen i ddim ewinedd ar ôl i’w cnoi. Mae llofrudd puteiniaid y cylch wedi’i ddal (am wn i), y Ditectif Sarjant laddodd ei feistres ar fin cael ei ddal (tybed?) a’r cynorthwyydd dysgu arswydus am dalu’r pwyth yn ôl i’r Sarjant Catherine Cawood druan am garcharu ei heilun Tommy Lee Royce o gyfres 1. Welais i mo’r gyfres gyntaf chwaith, gan fod mwy na digon o ffraeo a gwrthdaro yn fy mywyd go iawn ar y pryd (cymdogion y fall) i ddioddef mwy o’r un peth ar deli bocs yr aelwyd anghynnes. Heddiw, dw i’n llawer hapusach fy myd, ac wedi ’machu gan abwyd dramatig Sally Wainwright (enillydd BAFTA Last Tango in Paris).
 
Happy Valley ydi un o’r ychydig bethau dw i’n eu gwylio’n ‘fyw’ y dyddiau hyn, yn hytrach na dal i fyny’n hwyr ar ôl pawb arall. Ydi, mae’r testun yn dduach na du, a chymeriadau da yn mynd drwy’r felin mewn cymuned fechan yng ngorllewin Swydd Efrog. Mae’n debyg bod problem gyffuriau Calder Valley wedi peri i heddlu go iawn yr ardal ei hailfedyddio’n “Happy Valley”.

Mae deialog Ms Wainwright yn llifo fel mêl, a Sarah Lancashire yn giamstar ar bortreadu’r Sarjant Cawood â phwysau’r byd ar ei sgwyddau mamol. Mae’r golygfeydd niferus ohoni’n rhannu panad (Yorkshire Gold, siawns!) smoc a sgwrs efo'i chwaer Clare (Siobhan Finneran), a gododd o bydew alcohol a heroin, a hyd yn oed yr actorion ieuengaf fel Rhys Conna (Ryan, ŵyr Catherine), yn gwbl gredadwy a naturiol braf. Ac i goroni’r cyfan, mae’n Euros Lyn ni yn rhan o’r criw cyfarwyddo.




A dw i dal i amau'n gryf ai’r hogyn farm syml ’na oedd y llofrudd go iawn hefyd...