Pawb a'i Rant



Mae cyffro etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ar ein gwarthaf. Wel, yr etholiadau o leiaf. Does dim modd osgoi placardiau Neil McEvoy (Plaid) a Mark Drakeford (Llafur) bob yn ail dŷ yn Nhreganna-Llandaf, ac mae’r daith i fyny’r A470 yn ddifyrrach nag arfer ar hyn o bryd. Yn enwedig Aberhonddu a’r cylch, lle mae cloddiau caeau yn las ag oren (yr un cae weithiau!) wrth i’r Rhyddfrydwyr a’r Toris baffio dros Frycheiniog-Maesyfed. 

Mater gwahanol ydi hi yn y wasg a’r cyfryngau Llundeinig ar y llaw arall. Pe taech chi’n llwyr ddibynnol ar BBC Six o Clock News am eich ffics gwleidyddol y dydd, yna ras fileinig Mrs Clinton a Mr Trump fydd ar eich meddwl, yn ogystal â ’matab diweddaraf y clown o Faer Llundain i’r Refferendwm Ewropeaidd. Ond lecsiwn Cymru? PA lecsiwn? Chwarae teg, mae Leanne Wood wedi trio gwneud ei gorau glas i atgoffa Cymry a Brits di-glem am fodolaeth y Sembli trwy ymddangos ar Any Questions o Swydd Gaer a Question Time o Gaerwysg yn ddiweddar, gan wylltio lot o’r twitteratis gyda'i “Wales this, Wales that”. Eitha reit hefyd, a blas o’r hyn mae gwledydd datganoledig Prydain yn ei deimlo a'i ddioddef pan fo’r rhaglenni hyn yn trafod pynciau Lloegr yn unig, o streic y darpar feddygon i’r academïau addysg.

Mae pethau’n wahanol ar deledu a radio nes adra wrth gwrs, gyda’r BBC ac ITV yn mynd ati i’n hatgoffa o bwysigrwydd Mai'r pumed. Dwi wedi osgoi’r darllediadau gwleidyddol fel y pla, cofiwch chi. Ond wythnos diwethaf, cawsom y gyntaf o ddwy raglen drafod yr arweinwyr ar ITV Cymru dan law Adrian Masters o’r Coleg Cerdd a Drama. Cwmwl parhaus Port Talbot oedd y prif bwnc, cyn i Carwyn ei chael hi go iawn ar record simsan ei blaid ym myd addysg ac iechyd yn arbennig, a Leanne a Kirstie yn dangos eu gwd-gyrl power wrth ei lambastio o boptu. Roedd arweinydd newydd y Gwyrddion, Alice Hooker-Stroud Gymraeg ei hiaith, yn hyderus yng nghanol yr hen stejars, Andrew T Davies o’r Ceidwadwyr yn harthio bob hyn a hyn a Nathan Gill UKIP gyda llais ag arddeliad Dalek ar ei wely angau. Ar y cyfan, dwy awr - ie DWY AWR reit ddifyr.

Huw Edwards fydd y reffarî wrth i’r Wales Report gynnal yr ail seiat o Neuadd Dewi Sant Caerdydd nos Fercher yma, yn ffres o holi rhyw dwrist Americanaidd o’r enw Obama yn Westminster 'cw. Dim ond awr a hanner o raglen fydd hon am ryw reswm, pwynt bonws i griw ITV felly. Wrth gwrs, dagrau pethau ydi na chawn ni fyth rhaglen o’r fath ar S4C, gyda dim ond dau o’r chwech yn gwbl rhugl yn y Gymraeg. Comisiwn reit neis i gyfieithydd ar y pryd, serch hynny. Ond nid Linda Brown o gwmni Run Sbit.

Yn lle hynny, mae gennym ni Pawb a’i Farn. Oes tad. Mi drois i wylio’r hanner awr olaf o westy St Georges (addas iawn) Llandudno ar ôl chwip o ddrama ar BBC1 yr un pryd. O uchelfannau Line of Duty i uffern Felix Aubel, boi fuasai’n gallu taranu a thaeru efo’i gysgod ei hun. O be welais i (tu ôl i’r glustog yn bennaf), roedd Siân Gwenllïan isio tagu Siôn Llafur, Aled Roberts hynod ddibynadwy dal wrthi fel lladmerydd un dyn dros y LibDems prin eu hymgeiswyr Cymraeg, a hogan ifanc IwCip mewn bydysawd arall. Hyn oll o flaen Costa Geriatriciaid hynod amheus o'r "hen Giaerdydd na", gyda chryn dipyn uchel eu cloch am i’r Gogladd (Cymru) ymuno â Northern Powerhouse y Gogladd arall (Lloegr) ac i’r diawl â chyd-Gymry i’r de o bont fawr Llanrwst. Bron na allech chi glywed Dewi Llwyd yn ochneidio mewn anobaith.

Es i ’ngwely noson honno yn teimlo’n benisel iawn iawn. Nodyn gan y doctor: osgoi’r rhaglen o Abertawe nos Iau ar bob cyfrif a chanolbwyntio ar 90 munud o gampwaith cnoi ewinedd Jed Mercurio. A marcio'r bleidlais bost reit handi. 

Pwy sy'n sefyll dros y Difaterwyr eto?


  

  • The Wales Report: Welsh Leaders' Debate Live with Huw Edwards BBC1, 8.30 nos Fercher 27 Ebrill
  • Line of Duty BBC2, 9pm nos Iau 28 Ebrill
  • Pawb a'i Farn S4C, 9.30 nos Iau 28 Ebrill

Sverige am byth!




Gadewch lonydd i’r giamstars wneud eu gwaith. Wedi’r rant am gyfresi Nordic smâl gan y sianeli Prydeinig, mae arlwy More4 ar hyn o bryd yn dangos cystal ydi’r rhai gwreiddiol. Sweden sy’n serennu acw ar hyn o bryd, gyda dwy gyfres fachog ond tra gwahanol. Dw i eisoes wedi canu clodydd Thicker than Water (Tjockare än vatten), saga sebon am ddau frawd ac 1 chwaer sy’n gaeth i’w hamgylchiadau personol - llanast a chwant ariannol, blacmel, dyletswyddau teuluol v rhyddid unigol, rhwystredigaethau rhywiol a mater bach o ddau gorff ar waelod y môr - ac sy’n sdyc yn eu busnes gwely a brecwast ar ynys ddelfrydol (ar yr olwg gyntaf) Åland rhwng Sweden a’r Ffindir, diolch i gymal yn ewyllys eu mam - “gwnewch rywbeth o’r busnes teuluol dros yr haf neu golli’ch etifeddiaeth ariannol”. Dw i, ac ambell un o ’nghydweithwyr, wedi swyno gan hon a’r lleoliad hudolus yn arbennig, gyda haul hirddydd haf yn chwa o awyr iach wedi holl d'wllwch a glaw smwc y cyfresi ditectifs o’r parthau hynny.  Mae’n prysur tynnu at ei therfyn, felly trowch i wasanaeth dal-i-fyny Channel 4 cyn i’r perl anhysbys hwn ddiflannu dan y don. Un peth - mae’r ddeialog braidd yn giami ar adegau, neu’n hytrach, cyfieithiad yr isdeitlau ar y sgrin.
 
 

Y llall ydi Blue Eyes, drama wleidyddol hynod gyfoes o Stockholm, lle mae’r twf mewn gwleidyddiaeth atgas hiliol adain dde yn gysgod dros etholiadau arfaethedig y wlad honno. Cyfres sy’n dangos pa mor frawychus o hawdd yw hi i’r werin dosbarth gweithiol gael eu bachu gan bolitics gwrth-fewnfudwyr, am amryfal resymau - tlodi cymdeithasol, diweithdra, propaganda’r gwefannau cymdeithasol - a chwarae troi’n chwerw. Mae’n ddychrynllyd o berthnasol i ninnau fama, gyda’r Blaid Biws ar fin ymuno â Senedd Bae Caerdydd am y tro cyntaf erioed ochr yn ochr ag adfywiad pleidiau asgell dde ledled Ewrop. Hefyd, cawn hanes Elin Hammar (Louise Peterhoff) un o weision sifil y llywodraeth sy’n chwarae ditectif wrth ymchwilio i ddiflaniad sydyn ei rhagflaenydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae’r ddwy elfen a’r ddau fyd yn siŵr o ddod ben-ben â’i gilydd yn ystod y gyfres. Heb ganlyniadau rhy dda, berig.
Ar nodyn hollol wahanol, bu'r ddwy gyfres yn agoriad llygad trwy ladd un ystrydeb Swedaidd yn arbennig. Mae llawer o'r actorion yn debycach i Eidalwyr na'r stereoteip gwallt melyn llachar...
 

 

'Mynadd efo Marcella


 
Iawn, dyna ddigon o nordiskaladrad. Dim mwy plîs. Digon teg creu fersiynau ‘lleol’ o’r llwyddiannau Sgandi sydd wedi sgubo drwy’r byd megis y pedwarawd pop nid anenwog o’r 70au. Ar ôl Lloegr/Ffrainc ac America, Rwsia ydi’r wlad ddiweddaraf i ailwmapio Bron/Broen a’r ditectif-awtistig unigryw sy’n ymchwilio i lofruddiaeth erchyll ar ffin dwy wlad. Dw i wedi rhoi’r gorau i freuddwydio am fersiwn gyffelyb ar ganol Pont Hafren, i’w darlledu ar S4C a BBC4 neu Netflix gydag isdeitlau-ar-y-sgrin.

Marcella sydd dan y lach y tro ma. Cyfres dditectif ddiweddara ITV, gydag Anna Friel yn y brif ran. Cyfres a sgwennwyd gan Hans Rosenfeldt, crëwr The Bridge, wedi’i thrawsblannu i Ddinas Llundain (wrth gwrs) ac yn weledol debyg iawn i’r ‘hit’ noiraidd River ar y Bîb gyda Stellan Skarsgård a Nicola Walker. Mi straffaglais drwy’r bennod gynta, a ddim mwy. Mae’r plot yn cwmpasu tor-priodas, puteindra, pedoffilia, llofruddiaeth sy’n debyg i gasgliad ddigwyddodd dros ddegawd yn ôl a mater bach o amnesia a thrais domestig yn erbyn ei gŵr sy’n gwneud i chi amau ai DS Marcella Backland sydd wrth wraidd y cyfan. Diawcs, falle nad yw’n cofio’r ffaith iddi gladdu’i thad dan y patio sbel fawr yn ôl chwaith?!
 
Ond fel y dywedais, rhois i’r gorau iddi wedi’r bennod gyntaf yn unig. Wn i ddim yn union pam. Diffyg amynedd na chydymdeimlo â’r cymeriadau, prinder isdeitlau efallai. Gormod o haenau a chymeriadau da-ni-wedi’u-gweld-i-gyd-o’r-blaen. Yn syml, does dim byd newydd yma, a’r canlyniad felly yw ailbobiad symol iawn o’r Sgandis gwell.

Ys dywed Gerard O’Donovan yn y Telegraph:
TV’s Marcella is a series that’s making me wonder whether much of the success of Nordic noir crime dramas in recent years was simply down to the fact that we’d believe anything, no matter how ludicrous, so long as it was set in Scandinavia rather than Britain.

 
Gobeithio y bydd yna well siâp ar ddrama iasol nesa ITV nos Wener 29 Ebrill – The Secret gyda James Nesbitt, yn seiliedig ar stori wir am ddeintydd ac athrawes ysgol Sul gyhoeddus-barchus o Swydd Derry a laddodd eu partneriaid oes er mwyn parhau â’u haffêr, ac a gafodd getawe efo hi am ddeng mlynedd. Iasol yn wir. Dw i'n edrych mlaen yn barod, a Nesbitt wastad yn actor tebol.

 

Dyna Hwyl!


Wele’n gwawrio dydd i’w gofio. Dydd “Amser am Newid” ein gorsaf radio-trio-plesio-pawb genedlaethol ni. Roedd rhaglen Dewi Llwyd yn ei briod le arferol, diolch i’r drefn, gan dafoli straeon papurau Sul Prydain ac ambell fensh i’r Cymro a Golwg, gan sbario sawl puntan a thrip i Spar Llandaf i mi. Mae slot adolygiadau Sioned Williams, Catrin Beard, Elinor Reynolds a Lowri Cooke wastad yn plesio hefyd, gydag adolygwyr Cymraeg mor brin. Yna awr a hanner hiraethus Richard Rees i ffans cerddoriaeth y saithdegau ''mlaen. Doeddwn i ddim yn wrandäwr brwd ar y Sadyrnau heb son am rŵan, felly omnibws The Archers i mi bob gafal wrth baratoi cinio Sul. Neu frecwast hwyr o wy ar dost, panad, parasetemols a pheint o ddŵr go iawn. Ie, pensiwnîar o sioe sebon dyddiol Radio 4 sy’n gymysg ryfedd ond difyr o straeon am fagu ieir maes, agoriad swyddogol y neuadd bentref newydd gan Anneka Rice, parlwr godro robotig Brookfield Farm, a stori ddirdynnol cam-drin domestig rhwng Rob a Helen feichiog sydd wedi cipio’r penawdau a gwylltio’r gynulleidfa am ddod ag elfennau Eastenders i Ambridge. Mae slot newydd Beti George yn golygu y gallai ganolbwyntio ar fisdimanars Middle England cyn ymlacio am hanner dydd yng nghwmni’r holwraig tan gamp o Goed-y-bryn. Pnawn tawel wedyn - gydag ymddiheuriadau i Hywel Gwynfryn, yna dychwelyd at y weiarles am bump i fwynhau Stiwdio Nia Roberts a Dei Tomos a’i westeion tan saith yr hwyr.

Dw i dal wedi pwdu efo Betsan Powys am gael gwared ar Sesiwn Fach. Ond, mae’n ymddangos mai’r prinder gwrandawyr oedd y bai hefyd. 

 


Damia chi. Ar y llaw arall, oes rhywun yn gwybod faint yn union sy’n gwrando ar raglenni unigol yr orsaf? 'Da ni’n clywed am niferoedd io-io Radio Cymru’n gyffredinol gan RAJAR bob hyn a hyn, ond byth ffigurau penodol Tommo neu Ganiadaeth y Cysegr. Oni ddylen ni, dalwyr ffyddlon y drwydded, gael gwybod hyn yn gyson, fel maen nhw’n ei wneud ar gyfer sioe frecwast Chris Evans Radio 2 neu John Humphreys a Today Radio 4?  Yn dywed y Cynulliad Mici Mows, mwy o "dryloywder" (ych!) plîs BBC Cymru.

Felly, mae’r amserlen newydd yma i aros. Efo cryn bwyslais ar un peth mae’n ymddangos. Cewch “hwyl, chwerthin a thynnu coes” gyda Tudur Owen, “joio” oedd allweddair rhaglen Ifan Evans pnawn ddoe, ac mae Aled Huws “codi gwên a chadw cwmni... dysgu am y byd a’r bobl gyda ffrindia hen a newydd a chael hwyl wrth neud hynny” am 8.30 bob bore’r wythnos. A sdim angen dweud beth ydi nod Sŵn Mawr y Prynhawn. Elen Pencwm, gyda llaw, oedd yn cadw sedd Tommo yn gynnes wythnos diwethaf wrth i mi daclo’n ffordd drol genedlaethol. Rhaglen arall efo gorbwyslais ar hwyl a sbri a joio a chwerthin a jôcs gan un plentyn ar ôl y llall. Afraid dweud i mi switsio drosodd i Afternoon Edition Radio 5 Live, er gwaetha’r signal dychrynllyd ger Llanbryn-mair.

Y cyfan yn f’atgoffa i o sgets wych ‘Dyna Hwyl!’ am raglen blant hynod naff a dros ben llestri o ffug hwyliog o’r 70au, yn llawn ensyniadau rhywiol a wigs Hywel Pop yn y gyfres gomedi Mawr gydag Iwan John, Tudur Owen, ac – ie – Elen Pencwm. 

S4/Comedi


Pwy bynnag ydi Comisiynydd Adloniant Ysgafn S4C ar hyn o bryd, mae’n haeddu medal, gwisg las yr Orsedd, tlws Dewi Sant, codiad cyflog, beth bynnag. Achos mae gan y Sianel bellach ddwy - ie DWY - gyfres gomedi gwerth eu halen (tair os ydych chi’n cynnwys y taeru a’r tynnu coes diddiwedd rhwng John Bŵts a Dilwyn Morgan yn Codi Hwyl).

Y naill yn cynnwys Caryl Parry Jones a’r llall Linda Bara Caws Brown a’i merch Caren. Genod yn bennaf felly. Ys dywed un arall o greadigaethau enwog Caryl, “Beth sy’n digwydd?!”
 

Cyfresi unigryw â’u traed yn solat ar ddaear y Gymru Gymraeg gyfoes, ac eto wedi’u hanelu at farchnadoedd gwahanol. Mae Anita, ffrwyth sgetsh o gyfresi blaenorol Caryl am nyrs cartra’r henoed a’i merch Joolz sy’n codi pac o’r Barri i Foelfre ar ôl i’r dywededig Anita syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad efo ‘Beds’ (Bryn Fôn). Braidd yn amheus oeddwn i i ddechrau, ond bellach mae’r cyfuniad ciwt o Gavin & Stacey, Stella a Hapus Dyrfa (cofio honna?) yn taro tant ar nos Sul deuluol. Iawn, mae yna lond dwy de’n ormod o siwgr yn hon i mi weithiau, ond mae’r camddealltwriaeth a’r clyfrwch geiriol Wenglish (sy’ wedi codi gwrychyn ambell un), yr ensemble o gast gwych (o Rhodri Meilir y brawd llywaeth i’r newydd-ddyfodiad naturiol Elis Owen fel mab Bedwyr) a’r arfordir braf yn denu. A braf gweld Christine Humphreys yn dangos ei doniau comedi yn ei hacen naturiol wedi’r camgastio anffodus yn Cara Fi? Adloniant perffaith i’r teulu cyfan, obvs.

Tydi comedi nos Wener, ar y llaw arall, ddim cweit mor addas i’r to bach er bod y crewyr Dim Byd yn dipyn o ffefryn ymhlith plantos fy chwaer. Sbin-off arall o bennod untro’r llynedd am gwmni teuluol sy’n trefnu lookalikes Cymraeg. Mae rhyw elfen Ab Fab yn hon, gyda’r ferch gall ac aeddfetach (Caren) yn cadw’r busnes i fynd er gwaetha’r fam fyrbwyll (Linda). O drefnu ‘Tommy Cooper’ sydd hefyd yn digwydd bod yn Dudur Owen ar gyfer noson magic circle Rhuthun, i sicrhau Sandra Picton  (Sian Weldon) ar gyfer tywysog Arabaidd sy’n drewi o bres ac wedi mopio ar bocsets C’mon Midffîld, mae’n gythraul o hwyl. Mae’r cyfeiriad at ‘Black David’ yn dal i ’nhiclo i, a’r olygfa skype swreal rhwng mam a merch wrth i Linda gogio bod yn Magaluf yn lle rhyw Drafyloj yn ochra Bangor. Yr ail bennod ydi’r ffefryn hyd yma.
 
 
Llongyfarchion fil i ymchwilwyr Cwmni Da am ddod o hyd i lond dwrn o amaturiaid lled-debyg i’r enwogion, gyda sgiliau comedi naturiol. A llongyfs eto i Gomisiynydd Adloniant Ysgafn Sbrec.