Mae ffiniau
ieithyddol bob amser wedi bod yn rhan o fywyd Gareth Potter, DJ, actor a
chyn-aelod o’r grŵp Tŷ Gwydr sydd bellach wedi camu i rôl Hel Straeon
bron. Sôn am ddatganiad brawychus o barchusrwydd os buodd un erioed. Mewn
cyfres hamddenol braf bob nos Wener i rai o ardaloedd mwyaf anhysbys Cymru i’r
mwyafrif ohonom - ardaloedd ma rhai Cymry Cymraeg pybyr hyd yn oed yn troi
trwynau am lefydd “Seisnig” nad ydynt yn rhan o Gymru go iawn - cawn flas ar
hanes a threftadaeth y ffin, pensaernïaeth odidog brics coch a ffermdai gwyn a
thrawstiau du Lleifior-aidd, olion hen ddiwydiant, a barn trigolion y Clawdd, y Mers, y
Gororau, am fyw a bod ar y ffin (annelwig yn aml) rhwng dwy wlad.
Ar ôl cychwyn yn
ninas Caer, tref yr is-ddeddf anenwog o’r bymthegfed ganrif a ganiatâi i unrhyw
un saethu Cymro neu Gymraes a ganfuwyd o fewn muriau’r ddinas wedi iddi nosi,
aeth ymlaen i Saltney, Treffynnon a thorri syched yn nhafarn y Dderwen ym
mhentre Hendre. Aeth yr ail gyfres â ni o gastell y Waun ac ar gamlas odidog
dros Bontcysyllte cyn gorffen yn nhre’ farchnad fawr “Soswallt” - tref Eryr
Pengwern, tref sefydlu papur newydd Y Cymro ym 1932, siop Gymraeg Cwlwm, tref y
Seintiau Newydd a thref sy’n fwy Cymreig ar ddiwrnod rygbi rhyngwladol
Cymru-Lloegr yn ôl Bethan Ellis, athrawes Gymraeg ifanc o Whittington neu’r Dref Wen i
eraill. Sgwn i a fydd yr un peth mor wir yr haf hwn, yn enwedig bnawn Iau 16 Mehefin...?
Rhaglenni fel hyn sy'n gwneud i rywun deimlo pa mor uffernol o ffodus ydi o o gymharu ag eraill - prin 10 munud oedd y siwrnai foreol i'r ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg yn Llanrwst - tra soniodd Bethan am daith o awr a mwy i ysgol uwchradd Llanfyllin a nosweithiau Aelwyd yr Urdd. Diolch i aberth, ymroddiad ac amynedd Job miloedd o rieni tebyg felly am gyfle i genhedlaeth newydd o siaradwyr ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y famiaith fregus.
Rhaglenni fel hyn sy'n gwneud i rywun deimlo pa mor uffernol o ffodus ydi o o gymharu ag eraill - prin 10 munud oedd y siwrnai foreol i'r ysgol gynradd ac uwchradd Gymraeg yn Llanrwst - tra soniodd Bethan am daith o awr a mwy i ysgol uwchradd Llanfyllin a nosweithiau Aelwyd yr Urdd. Diolch i aberth, ymroddiad ac amynedd Job miloedd o rieni tebyg felly am gyfle i genhedlaeth newydd o siaradwyr ddysgu a chymdeithasu trwy gyfrwng y famiaith fregus.
Mae’r iaith ar drai ond “dan yr wyneb” o hyd medd Ieuan ap Sion o Dreffynnon, ac i’w
gweld yn enwau ffermydd, caeau a strydoedd yr ochr ddu/draw i’r ffin. Mae’r
ysgolion newydd yn hwb i gadw’r ddraig Seisnig draw, a Chymraeg hyfryd Maeldwyn yn
gyffredin ar ddiwrnodau marchnad Croesoswallt. Elfen ddifyrra’r rhaglen oedd
clip o’r archif ddechrau’r 70au, pan wyntyllwyd y syniad o gynnal refferendwm
lleol i setlo’r mater unwaith ac am byth – ai yng Nghymru neu Lloegr y dylai
Oswestry fod.
Cyfres ddifyr am
ran ddieithr iawn iawn o’r wlad i mi’n bersonol. Mwya’r cywilydd i mi. A
chyda’r ddwy Steddfod fawr eleni yn ymweld â’r Fflint a’r Fenni, mae’n esgus
perffaith i osgoi’r A470 syrffedus o gyfarwydd am unwaith, troi trwyn y car tua'r dwyrain a phacio’r sgidia cerdded
am lwybrau Owain Glyndŵr a Chlawdd Offa.