Wallander oddi cartra



Mi oeddwn i’n reit ffond o’r hen Wallander ers stalwm. Y fersiynau gwreiddiol gyda Rolf Lassgård (1994-2006) ar gyfer sinemâu a ffefryn y ffans Krister Henriksson (2005-2013) ar deledu TV4 Sweden a BBC Four, hynny yw. Roedd ei bortread arbennig yntau o’r Kurt meudwyaidd, hoff o’i botel a’i ddeiet a menywod anaddas, a’r berthynas danllyd rhyngddo a’i dîm Stefan Lindman (Ola Rapace) a’i ferch Linda Wallander (isod) yn y gyfres gyntaf yn arbennig. Dw i’n dal yn tristau o gofio i’r actores Johanna Sällström wneud amdani’i hun wedi pwl o iselder a goroesi trychineb tswnami Gwlad Thai 2004. Cafodd y cast a’r criw eu hysgwyd i’r byw. Cymaint oedd galar ac euogrwydd yr awdur Henning Mankell, nes iddo roi’r gorau i’r syniad o sgrifennu dilyniant i drioleg arfaethedig Linda Wallander. 





Yn y canol, daeth Syr Kenneth Branagh i ddrysu pethau’n rhacs trwy serennu a chyfarwyddo’i gyfresi ei hun ar gyfer BBC1 bob yn dipyn, rhwng 2008 ac eleni. Wedi darllen rhywfaint o’r nofelau gwreiddiol gan y diweddar Mankell, a gwylio’r cyfresi ditectif o Sweden, mae rhywun yn dueddol o gymharu (gormod), pwyso a mesur, a ffafrio un yn fwy na’r llall.

Ar un llaw mae fersiwn Scandi-lite y BBC yn rhagori ar y rhai Swedaidd, diolch i’r gwaith camera hynod drylwyr a gofalus. Mae pob siot yn cyfri, a’r camera yn fframio gwastadeddau eang, ffyrdd pantiog, caeau ŷd ac arfordir gwyllt Skåne, de Sweden, yn gelfydd ac yn wledd i’r llygaid. Mae rhyw arlliw arbennig i’r cyfan sy’n ychwanegu at ias y stori lofruddiaeth. Mae’n amlwg iawn o le cafodd cynhyrchwyr Y Gwyll eu hysbrydoliaeth. 

Ond prif wendid fersiwn Syr Ken ydi’r iaith. Yn hon, rydyn ni’n gorfod credu a derbyn cymeriadau Swedaidd efo acenion Oxbridge. Nid mod i’n awgrymu am eiliad y dylen nhw geisio efelychu cogydd enwog y Muppets chwaith. Ond mae disgwyl i ni fuddsoddi cymaint o’n hamser a’n hymdrech ar ddrama dditectif lle mae’r cymeriadau lleol i gyd, o’r Poliskommisarie i’r mördare, yn siarad Saesneg â’i gilydd - yn chwerthinllyd erbyn heddiw. Wedi’r cwbl, yn tydan ni gyd wedi hen arfer â darllen isdeitlau erbyn hyn, diolch i lwyddiannau byd-eang Forbrydelsen a Borgen i enwi dim ond rhai? Efallai mai apelio at y mwyafrif unieithog UKIPaidd ym Mhrydain ac America Trumpaidd ydi’r nod. Wn i ddim. Nid bod hynny wedi rhwystro Branagh a’i griw rhag ennill gwobrau lu, gan BAFTA a’r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2009, yn bennaf yn y categori crefft a dylunio.



Anfantais sylweddol arall pennod gyntaf nos Sul diwethaf (1 o 3 yn unig) oedd y lleoliad, Cape Town. A olygai bod Wallander yn chwys doman dan haul tanbaid De Affrica, neu ag awgrym o wên (dim ond awgrym, cofiwch) wrth syllu ar y môr sgleiniog o’i falconi 5 seren. A Huyndai Tucson, nid Volvo oedd ei foto. O’r fath siom.

Nid fanno mae ei le o, ychan, ond adre’n Ystad. Adre'n pechu ei fosus â gwep mor llwyd â’r wybren ac wedi lapio rhag gwynt main y Baltig wrth fynd â’i gi du ffyddlon Jussi am dro ar hyd y twyni diderfyn cyn cael galwad ffôn am gorff arall mewn rhyw warws bol buwch tua’r dociau 'cw.

Wnâi barhau i wylio? Siŵr braidd. Wedi'r cwbl, ‘sdim byd arall ’mlaen nos Sul ond syrcas Cowell ac amdanaffycinholden ar ITV a drama ugain oed ar S4C. Am fy mod i’n dal isio fy ffics o bopeth Nordic, ail-law neu beidio. Ac am mai hon fydd y Wallander olaf un gan y Bîb, wedi diwedd y cyfresi a’r nofelau Swedeg. Diwedd cyfnod yn wir.

Farvål, Kurt a’r criw. Bu’n bleser ymdrybaeddu yn dy gwmni.