Mynadd



Wn i ddim beth ydio. Henaint falle. Un digon difynadd fues i erioed (holwch fy nghydnabods), ond yn ddiweddar, dw i’n teimlo fy hun yn fwyfwy Victor Meldrewaidd hefo cyfresi teledu. Yn dewis a dethol fwy, yn gwylio hyd at ddwy bennod cyn penderfynu ‘cachu rwtsh’ waeth beth ddywed y mwyafrif, a dileu’r cyfan o’r cyswllt-cyfresi am byth. 

Hyn a hyn o amser sydd gan rywun fin nos, er gwaetha’r ffaith mai dyma’r adeg dduaf o’r flwyddyn pan rydan ni fwy tebygol o swatio ar y soffa a mynd yn sombis i’r sgrîn fach. Ac mae popeth newydd fel petai’n ailbobiad diawledig o rywbeth gwell. Safe House, Rellick, Trust Me - wnes i ddim llyncu’r abwyd na’r heip. Mae pennod ola Fortitude Sky Atlantic yn dal i hel llwch yn fy mocs Sky, er i mi fuddsoddi 11 awr yn trio gwneud pen a chynffon o’r smonach Arctig blaenorol. Dechreuodd fy niddordeb bylu ar ôl iddyn nhw SBOILERS! SBOILERS! gael gwared ar fy hoff actores Sofie Gråbøl.  Mae hyd yn oed aduniad Twin Peaks yn apelio llai a llai, er cymaint wnes i fopio ar odrwydd Agent Cooper a’r eiconig Audrey Horne ddechrau’r 1990au. ’Sdim byd gwaeth na gweld eich eilunod wedi heneiddio neu dwchu’n ddifrifol. Na, rhyw  nostaljia ieuenctid ffôl a’m denodd i’w dapio, yn union fel Cold Feet 2017. 



Yn ddiweddar, fe geisiodd Cymru Fyw apelio at ein hochr hiraethus drwy holi pa gyfresi yr hoffen ni eu gweld yn dychwelyd ar S4C. Yn eu plith, Brodyr Bach (na), Bacha Hi O’Ma (NA!) a Jabas (prynwch DVD Sain yn lle). Dechreuais fwynhau Pengelli unwaith eto pan gafodd ei hailddangos yn slot ‘Aur’ S4C, a Minafon cyn hynny, ond diawcs roedden nhw wedi dyddio (yr ail yn fwy o nain na’r gyntaf) ac felly ni pharodd y gwylio am hir. 

Weithiau mae’n well eu gadael nhw, fel hen gariadon, i fod.