Gyrfa gymysg fu un Ioan Gruffudd hyd yma. Efallai bod y c’radur yn ei chael hi’n anodd cael gwared ar stigma’r actor sebon fel Gareth Wyn Cwmderi rhwng 1987 ac 1994.
I’r gwylwyr Prydeinig, mae’n enwog fel y
morwr Horatio yng nghyfres Hornblower ITV (1998-2003) ac ar lwyfannau
ehangach fel capten llong anffodus yn y ffilm Titanic (1997), fel cymar
camp i Mathew Rhys yn Very Annie Mary (2001) a’r gwyddonydd â phwerau
goruwchnaturiol yn ffilmiau Fantastic Four (2005 a 2007). Un o’i
ffilmiau diweddaraf y gwyliais ar daith i’r Baltig oedd San Andreas
(2015) llawn effeithiau arbennig ond prin ei sylwedd, fel basdad o ddyn busnes.
A hen gythraul ydi o yn ei ran ddiweddaraf ar deledu hefyd, Liar, drama
hynod ddadleuol ITV am lawfeddyg sy’n mynd benben ag athrawes (Joanne Froggatt
gynt o Coronation Street) a’i cyhuddodd o’i threisio ar ôl dêt. Am y
ddwy bennod gynta, doedden ni wylwyr ddim yn siŵr iawn p’un o’r ddau i’w gredu,
gyda’r naill gymeriad anghynnes â’r llall yn actio’n ddiniwed - er y buasai
angen sgwennwr dewr IAWN i roi’r bai ar y ferch mewn gwirionedd. Erbyn y
drydedd bennod, fodd bynnag, daeth i’r amlwg mewn ôl-fflachiau mai’r Dr Andrew
Earlham â dannedd-a-lliw-haul Hollywood wnaeth sleifio’r cyffur GHB i win Laura
Nielsen - hyn oll â thair pennod i fynd. A ninnau felly’n gwybod pwy oedd y
drwg yn y caws hanner ffordd drwy’r gyfres, pa ddiben parhau i wylio? Mae’r
ddrama bellach yn mynd i dir thriller, gyda Laura yn prysur wneud gwaith
allgyrsiol yn ymchwilio i gefndir niwlog y Doc a hunanladdiad (honedig?) ei
wraig gyntaf yng Nghaeredin. A neithiwr,
cawsom olygfa iasol o Andrew Earlham yn llithro gefn liw nos i gartre’r DI
Vanessa Harmon feichiog, a awgrymodd yn gryf bod gynnon ni serial rapist
yma. Pennod a adawodd hen flas cas go
iawn. Dw i wir heb deimlo mor sâl wrth
wylio drama deledu ers tro byd.
Alla i ddim dweud fy mod i’n mwynhau hon. Nac
eisiau gwylio go iawn. Mae’n llawn cymeriadau annifyr ac isblotiau deud
celwyddau a rhoi cyllyll yng nghefnau’i gilydd. Mae’r gwaith camera trawiadol o
arfordir Caint a thyrau gothig Caeredin, a’r holl porno cartrefi godidog
yn cyd-daro’n chwithig â’r awgrym cryf o drais rhywiol.
Ond damia, mae ’na rywbeth sy’n dal i’m denu i
wylio am naw bob nos Lun. Ac o leiaf wnaiff neb anghofio’r actor Ioan Gruffudd
am sbelan eto...