Fydd Gobaith Cariad



Ymwadiad - dw i ddim yn gapelwr.  Mi oeddwn i ers talwm, ac yn cael blas mawr ar yr ysgol Sul adra’ yng Ngharmel a’r cymdeithasu hyfryd adeg Diolchgarwch a’r Dolig pan fyddai bron pob teulu’r ardal yn cnesu’r hen feinciau treuliedig. Dw i’m yn siŵr os dw i’n fawr o gredwr mwyach chwaith.  Ac eto, dw i’n ffyddlon iawn i’r cwrdd am naw o’r gloch bob nos Sul yn ddiweddar. Yn edrych ymlaen yn eiddgar at awr o adloniant pur gyda ffrindiau hoff cytûn, tipyn o chwerthin ac ambell foeswers i bigo’r cydwybod. Heb os nac oni bai, mae Parch yn falm i’r enaid. Croeso’n ôl, Myfanwy a’r criw!


Dyma’r drydedd gyfres a’r olaf, meddan nhw. Tybed, Fflur Dafydd? Esgus felly i sawru’r ddrama am blwyfolion brith Llancemlyn (Llanfleiddan, Llanilltud Fawr a’r cylch). Digartrefedd ydi’r thema y tro hwn, wrth i Myfanwy’r Bugail Stryd gyfarfod â chradur barfog sy’n byw mewn bocsys (Ryland Teifi). Mae rhyw ymdeimlad o ddiffyg gwreiddiau yn llifo drwyddi draw, rhwng Eirug y trefnwr angladdau (Rhys ap Hywel) sy’n byw ar soffa Terwyn (Huw Davies gynnil o gomig) - cyn-ŵr ei gariad bore oes (canolbwyntiwch, bobol) - yn dilyn tor-perthynas, a’r ferch yn gadael yr aelwyd i ansicrwydd bywyd coleg. Mae Myfanwy hithau’n ddi-eglwys, ac ar ben pob dim, mae perthynas ei thad ac Osanka (yr hyfryd Wanda Opalinska o Wlad Pwyl) ar seiliau go simsan oherwydd y felan ôl-eni.  Trwy Osanka hefyd y cawsom awgrym o hylltra hiliaeth Brecshit yn y bennod gyntaf.


Fy holl gymeriad rheolaidd newydd, y cawsom gip ohoni yn y gyfres ddiwethaf, ydi Sheridan Milton-Morgan (Beth Robert) fel pen bandit yr ymgymerwyr angladdau. Mae ei henw’n crisialu’r cymeriad i’r dim.



 

Wrth gwrs, mae’r elfen oruwchnaturiol yma o hyd, wrth i Myfanwy weld ysbrydion ac ambell wyneb o’r gorffennol sy’n dal yn nhir neb rhwng y byd hwn a’r nesaf. Roedd ffans Phylip Hughes wrth eu boddau. Er hynny, dw i wedi clywed ambell un yn dweud nad ydi’r golygfeydd ffantasïol at eu dant nhw, fel y clasur Con Passionate gynt.


Da chi, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag gwylio a mwynhau un o ddramâu mwyaf gwreiddiol y Sianel os nad unrhyw sianel ar hyn o bryd.  Mae’r cymeriadau’n siarad Cymraeg naturiol nid Cyfieitheg, ac wir, wedi’r holl ymdrybaeddu mewn dramâu noir diweddar, mae’n chwa o awyr iach croesawus dros ben.