Mae ’na Ewrodditectif newydd yn y dre. Un
arall o stabl ardderchog Walter Presents yn slot dramâu tramor More4 bob nos
Wener am 9 - sianel sy’n well nag arlwy nos Sadwrn BBC Four ar hyn o bryd. Dyna
chi ddeud mawr! Un o Fflandrys y tro hwn (Gwlad Belg i chwi’r Brits), Rough
Justice, wedi’i gosod yn ninas-borthladd Antwerpen ar arfordir Môr y
Gogledd.
Ac fel pob cyfres Politie fodern gwerth ei halen, merch sy’n
llywio pethau - merch sydd bron yn ystrydeb o gymeriadau benywaidd eraill y
cyfresi noir diweddar, gyda rhyw stamp Sefyll Allan yn perthyn iddi. A
dyw’r Comisiynydd Liese Meerhout (Hilde De Baerdemaeker) ddim gwahanol. Nid Ford Focus, tyaid o blant na phriodas
dow-dow i hon. Dim ffiars o beryg. Mae’n gyrru o gwmpas mewn hen Ferc lliw
mwstard, yn mwynhau refio mewn clybiau lesbiaidd lleol a chwarae’r drymiau yn
ei hamser sbâr i gael gwared ar densiynau’r dydd. Heb son am bechu Sofie, unig
aelod benywaidd arall o’r tîm, ac ennyn edmygedd Fabien y patholegydd ifanc
eiddgar. Yn seiliedig ar nofelau Toni Coppers, mae’n cynnwys achos gwahanol bob
wythnos ond hefyd stori drosfwaol o’r gorffennol sy’n plagio Liese - gyda
rhywun yn anfon cyfres o e-byst ati am ferch fach a grogodd ei hun ar siglen.
Pwy oedd hi a beth yw’r cysylltiad rhyngddi â’n harwres Ffleminaidd?
Mae’n gafael ac yn gymar delfrydol
i’n gaeaf hir ni.