Nôl i Norge




’Swn i ar goll heb Walter Presents. Mae gwasanaeth ar-alw All4/Channel 4 ar waith ers tair blynedd bellach, a bu’n achubiaeth i mi sawl tro gyda’i bocsets o safon pan oedd yr arlwy’n ddiawledig ar deledu daearol. Ac mae’r ffaith fod cynnyrch sylweddol o’r parthau Nordig yn atyniad arall i rywun scandi obsesiynol fel fi. Nid bod pob dim yn taro tant chwaith, fel The Crimson Rivers (Les Rivières Pourpres), cynhyrchiad Ffrengig-Almaenig am bar o dditectifs anghymarus (yn tydyn nhw i gyd?) sydd ymlaen ar nosweithiau Gwener More 4 hyn o bryd.

Ond mae drama ddyfrol arall yn apelio lot mwy. River (8x60’) neu Elven o Gylch yr Arctig – lle mae diflaniad a marwolaeth hogan ar dir neb y fyddin, ger pentref bach ym mhen draw gogleddol rhynllyd ffin Norwy-Rwsia yn esgor ar gyfrinachau yr hoffai’r Awdurdodau eu claddu ymhell dan y twndra. Ac wrth gwrs, mae yna wastad blisman lleol (Thomas Lønnhøiden) sy’n dan ar groen yr Awdurdodau wrth fynnu ymchwilio ar ei liwt ei hun – gyda chymorth y rebel o uwchgapten Mia Holt. Dwy bennod dw i wedi’i gweld hyd yma, ac mae’n eich hudo’n ara’ deg (yn rhy araf i rai efallai) gyda llawer o olygfeydd pontio o frigau coed barugog, rhaeadrau rhewllyd, ffermdai iasol o segur a 4x4 yr heddlu’n nadreddu ar darmac unig. Ac fel pob thriller gwerth ei halen, mae’r locals naill ai’n siarad mewn damhegion neu ddim o gwbl a phob pennaeth mor llwgr â miliwnyddion Brexit sy’n symud eu pres a’u busnesau dramor. A do, dw i wedi’n hudo gan yr awyrgylch a’r seiniau cefndir cnoi-dannedd.

Tusen takk, Walter.

Ond beth am uchafbwyntiau dramatig eraill o Norwy? Er nad ydyn nhw mor niferus â’u cymdogion Danaidd-Swedaidd, maen nhw i’w cael. Mae gen i frith gof o wylio cyfres gyntaf Mammon am ohebydd o’r enw Peter Verås sy’n mentro’i fywyd ar ôl cyhoeddi stori am dwyll ariannol ymhlith rhai o ddynion cyfoethocaf Norwy.  Un arall oedd Acquitted (Frikjent) am Aksel Borgen, chwip o ddyn busnes sy’n dychwelyd o Malaysia i fuddsoddi-ac-achub cwmni solar ym mro ei febyd ger un o fjords mwyaf godidog Norwy - ar ôl gadael ugain mlynedd ynghynt ar ôl cael ei gyhuddo ar gam(?) o lofruddio’i gariad ar y pryd - sy’n digwydd bod yn ferch i Eva Haansteen, perchennog cyfredol y cwmni trwblus. Ac wele llond trol o sgerbydau a hen gynnen y gorffennol yn ffrwydro i’r brig unwaith eto, mewn cyfres afaelgar llawn actorion a golygfeydd gwirion o brydferth.



Ond yr un safodd allan i mi oedd cyfres Netflix, Borderliner (Grenseland) a ddisgrifiwyd fel “Line of Duty” Norwy. Ac ydy, mae dau o brif gymeriadau'r gyfres hefyd yn hanu o Acquitted uchod. Nid dim ond yng Nghymru y gallwch chi chwarae gem o "hwn/hon eto!"

Yma, mae’r cawr o dditectif Nikolai Andreassen (Tobias Santelmann) yn dychwelyd yn anfoddog i’w gynefin o Oslo er mwyn ymchwilio i achos o lofruddiaeth - un y mae ei berthnasau ei hun o bosib dan amheuaeth. Cyfres gyffrous sy’n cynnwys gwe o gelwyddau, troeon annisgwyl bron yn anghredadwy wrth i’r prif gymeriad greu mwy o dwll iddo’i hun er mwyn achub ei deulu. Ac mae’r golygfeydd bendigedig o harbwr modern trawiadol y brifddinas yn dwyn i gof fy ngwyliau bach i yno gwanwyn diwethaf. Sdim son am ail gyfres eto, ond dw i’n dal i fyw mewn gobaith. 

Tân dani TV2!