Mae’r bwrdd bwyd wastad yn faromedr da o’r byd a’i bethau. Ac felly’r oedd hi ddydd San Steffan, lle bu’r teulu estynedig acw - o saith i saithdeg pump oed - yn trafod arlwy S4C dros yr ŵyl. Yn fras, Sioe Dolig Hen Blant Bach oedd y ffefryn clir, mewn rhifyn arbennig o’r fformat hynod lwyddiannus (a gafodd fedal arian yng Ngŵyl Ffilm a Theledu Ryngwladol Efrog Newydd y llynedd) pan ddaeth pensiynwyr a phlantos Pen-y-groes, Nantlle at ei gilydd i lwyfannu sioe arbennig dan gyfarwyddyd “showman mwya’r Dyffryn”, Ken Hughes. Ac roedd y chwerthin a’r canu wir yn falm i’r enaid, yn enwedig i rai wedi’u rhwydo gan ddementia. Os na chawsoch eich effeithio gan ddeuawd ‘Dawel Nos’ Mair 82 oed ac Olwen fach, well i chi jecio’ch calon reit handi. Môr o Gymraeg naturiol braf, a throsleisydd cwbl naturiol nid cyfieitheg. Ac os na chaiff y gyfres arbennig hon fwy o wobrau yn 2019, mi fwytai bob owns o’r marsipán ar gacen ’Dolig nesa. Roedd Nadolig Hafod Lon lawn mor ysbrydoledig (rhowch sioe i Guto Meredydd reit handi) ac Anfonaf Angel: Côr Rhys Meirion yn brofiad hynod emosiynol. Ar y llaw arall, “hen lol” a “gwarthus” oedd yr ymateb i Pobol y Cwm noson Nadolig, gyda chymeriadau pantomeim ym Methania ychydig funudau wedi achos o herwgipio babi ar ben to’r capel drwgenwog. Ai fi oedd yr un deimlodd yn uffernol o anghyfforddus yng nghwmni fy nai saith mlwydd oed a nith deg oed, o weld cymeriad yn paratoi rhesiad o gocên? Oes, mae lle ac amser i bopeth, yn enwedig ar adegau prin o’r flwyddyn pan mae’r teulu cyfan yn fwy tebygol o gydeistedd o flaen y bocs.
Ond “mae ddoe yn ddoe” fel canodd y siwpyrgrŵp o Lanrwst, a’n meddyliau’n prysur droi at 2019. A chyda 29 Mawrth ar ein gwarthaf, dw i’n falch o weld cynifer o ddramâu Ewropeaidd o’n blaenau. Baptiste (BBC1, mis Chwefror) gyda’r ditectif Ffrengig ar drywydd achos newydd yn Amsterdam, rhagor o ias a chyffro’r ysbïwyr o ddwyrain Berlin yn Deustchland ’86 (Channel 4, gwanwyn) ac addasiad teledu o nofelau trosedd Tana French yn Dublin Murders (BBC1, hydref).
Tchéky Karyo aka Julien Baptiste |
Ond yn ôl i’r presennol a thipyn nes adref, mae nosweithiau Sul S4C yn argoeli’n dda. Mentrodd Heledd Cynwal, Siôn Tomos Owen a’r Dr Iestyn Jones (Ieuan Griffiths am byth i fi, sori) dros y swnt i Enlli ym mhennod gynta’r flwyddyn o Cynefin – cyfres sy’n gweiddi “slipars o flaen tân!” i gloi’r penwythnos mewn steil. Cyn i’r ddrama 35 Awr eich deffro’n ddigywilydd gyda mwy o gymeriadau annifyr â gwaed ar eu dwylo. Ac wedi tair cyfres flaenorol wedi’u gosod mewn stad o dai dosbarth canol (y gyntaf a’r orau o bell, bell ffordd), swyddfa ddinesig (fe rois i’r gorau iddi chwarter ffordd drwodd) a fferm yn Sir Gâr (bron cystal â’r gyntaf), criw o reithgor mewn gwesty ’sblennydd (Cwrt Colman, Pen-y-bont ar Ogwr) sydd dan y chwyddwydr y tro hwn. Roedd y golygfeydd cychwynnol – cwpwl yn cnychu, rhywun yn rhedeg o’r adeilad yn wenfflam - yn awgrymu’n gryf na ddylwn i wylio hon gyda’m nith, nai na mam. Mae’n berwi o dyndra, yn enwedig wrth i griw o bob oed, dosbarth cymdeithasol a chrap ieithyddol gael eu gorfodi i gydweithio er lles system gyfiawnder Lis Windsor. Diolch i’r drefn am ddawn deud Gillian Elisa, sy’n cael serennu yn ei hacen naturiol wedi’r Gog g’neud yn Craith, ac actio mud Gareth Bale (na, nid hwnnw) sy’n ddigon i ddychryn unrhyw un.
Pwy ’nath? Pa lofruddiaeth rydyn ni fod i’w datrys?
Dewch ’nôl ata i ganol Chwefror.