Aussie! Aussie! Aussie!






Dw i’n poeni. Yn dechrau amau fy hun. Wedi blynyddoedd o fopio ar bopeth Llychlynnaidd, dw i’n dechrau gwegian. Bu cryn edrych ymlaen at gynnyrch diweddaraf Adam Price (na, nid hwnnw), brêns Borgen a thipyn o gogydd teledu yn ei famwlad. Ond dwy bennod yn ddiweddarach, mi jibiais, a dileu Ride upon the Storm (Herrens veje) o’m cyswllt cyfresi. Doedd hanes yr offeiriaid trwblus sy’n brwydro yn erbyn alcoholiaeth, cred a chwalfa deuluol yn København, Afghanistan a mwy, ddim yn tycio. Prin yw’r cyfresi gwerth chweil o’r parthau hynny ar BBC Four ers sbel. Anodd credu mai blwyddyn yn ôl ffarweliwyd â’r annwyl unigryw Saga Norén

Bellach, mae Hemisffer y De yn apelio fwyfwy. Son am newid trywydd a thywydd eithafol. 

Nofelau a chyfresi wedi’u gosod ar dir didostur yr outback neu’n swbwrbia gwyn eu byd. Llyfrau felly sy’n llenwi erchwyn fy ngwely. Dw i eisoes wedi awchu’n ffordd drwy ddwy nofel Jane Harper, ‘The Dry’ a ‘Force of Nature’ gyda’r Ditectif Aaron Faulke - ac wedi cyffroi’n lân o ddeall bod 'na fersiwn ffilm o’r gyntaf gydag Eric Bana wrth y llyw. Straeon wedi'u gosod mewn trefi amaethyddol a welodd ddyddiau gwell, lle mae hen hen gynnen a chyfrinachau yn gymaint o fygythiad â'r wreichionen honno a allai droi'r ardal sych grimp yn wenfflam cyn pen dim. Rydych bron yn gallu blasu'r llwch a'r ofn yn neidio o'r tudalennau.

Rwan hyn, dw i'n gaeth i Scrublands gan Chris Hammer, am newyddiadurwr sy’n dychwelyd i dref wledig flwyddyn ar ôl i ficer saethu pump o’r trigolion yn farw mewn gwres llethol. Mae cyfresi teledu Mystery Road gyda’r actor o dras Aborijini, Aaron Pedersen yn ysgubol fel y ditectif Jay Swan, wedi’u darlledu ar BBC Four ac yn portreadu hiliaeth ac anghyfartaledd hyll Awstralia fodern. 



Themâu a gododd yn nrama gyfres ddiweddaraf nos Sadwrn, Safe Harbour - cyfres am griw o ffrindiau o Brisbane sy'n difaru taro ar draws llond cwch o ffoaduriaid yn nyfroedd tymhestlog Timor. Cyfres sy’n codi cwestiynau pigog fel “beth fuasech chi’n ei wneud?” ac sy’n ddrych o berthynas frau’r Brits a cheiswyr lloches via Ewrop heddiw. Un o’r prif actorion ydi Ewen Leslie, wyneb cyfarwydd yn sgil chwip o berfformiadau ar The Cry a Top of the Lake. Draw ar netflix, cefais fy nghyfareddu gan Secret City wedi’i gosod yng nghoridorau grym Canberra, lle mae myfyrwaig sy'n rhoi'i hun ar dân mewn protest hawliau dynol yn esgor ar argyfwng diplomyddol rhwng Awstralia a China, ac ambell gorff hyd y ffordd.



Mae diwydiant ffilm a theledu Oz wedi cymryd camau breision ers ystrydebau Crocodile Dundee, setiau sigledig ac actorion cardbord eu sioeau sebon amser te. Ac mewn perygl dybryd o ddisodli fy ngharwriaeth â gwledydd yr Hygge a’r Hej Hej!

Well i mi ddechrau lluchio'r thermals ac agor y Ffactor 50.