Neges twitter
sbardunodd y cyfan.
Iawn, cyn i chi refru
“newyddiaduraeth ddiog!”, dw i’n dueddol o gytuno. Dw innau hefyd yn diawlio
erthyglau newyddion a straeon ar-lein sy’n deillio o’r cyfryngau cymdeithasol, rhai
sy’n dyfynnu’r twitteratis yn lle mynd allan i holi’r bobl gyffredin. Er, dyw hynny ddim yn ddrwg o beth o gofio holl Frecshitiaid stryd fawr y dyddiau hyn.
Ond yn ôl at y neges
dan sylw:
gwir angen rhaglen deledu yn trafod y celfyddydau, digon o raglenni am gartrefi a gerddi, digon o chwaraeon ond dim rhaglen am y celfyddydau. Stiwdio a’r Silff Lyfrau ar y radio ond dim byd ar y teledu ers blynyddoedd, be amdani @S4C?
A chyn pen dim, roedd dros ddau gant wedi
‘hoffi’r’ neges ac ambell groch o ‘clywch! clywch!’ gan rai fel Rhys Mwyn, yr
actores Sharon Morgan, Nia Roberts o’r dywededig Stiwdio ar Radio Cymru, a’r awdur llwyfan a theledu Alun Saunders.
Heb anghofio Iôrs Trwli.
Ateb stoc “diolch am y
sylw ... fe fydd yn sicr o gael ei nodi” a gafwyd gan
y Sianel. Hmm. Ond mae’n sefyllfa’n druenus ers sawl blwyddyn bellach, ac yn
crefu am lot mwy nag ambell adolygiad ffilm a nofel rhwng slot cwcan a Huw
Ffash ar Prynhawn Da.
O ran y bocs bach, pwy sy’n cofio
dyddiau Croma yng nghwmni Catrin
Beard am awr solet bob nos Wener ar S4C Digidol tua 2003? Neb? Efallai bod Sioe Gelf, a barodd am wyth cyfres rhwng 2002 a 2009, yn canu fwy o
gloch. Mae’n amlwg fod S4C wedi plesio ar y pryd, wrth i adroddiad blynyddol
2002 gyfeirio at “...(g)waith graenus a
llawn dychymyg o gyflwyno’r celfyddydau – o Gymru, Prydain a’r byd – mewn modd
diddorol am 26 wythnos y flwyddyn. Mae’n amlwg fod gan y tîm cynhyrchu
wybodaeth drylwyr a brwdfrydedd yn y maes”. Cwmni Da oedd y tîm cynhyrchu
gyda llaw.
Daeth Pethe ar y sîn yn 2010, gyda Nia Roberts a’r cyw-wleidydd Rhun ap
Iorwerth yn cyflwyno eitemau wythnosol am “a range of cultural interests in a popular and entertaining
way” yn ôl Daily Post ar y pryd. Esgorodd ar chwaer-gyfresi hefyd.
Pethe Hwyrach efo Nia Roberts a
llond soffas o adolygwyr, a Trafod Pethe
gyda Guto Harri yn holi a stilio rhai o gyfranwyr mwyaf ein diwylliant o Eigra
Lewis Roberts i’r Dr Mererydd Evans.
Lisa Gwilym fu’n llywio Pethe
ar ei newydd wedd yn 2013, cyfres a barodd tan i’r fformat farw gyda
chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2016. Yr eironi yw bod y wasg Gymraeg ar dân y
dyddiau hyn (perlau cyfoes fel ‘Esgyrn’ Heiddwen Thomas gafodd y flaenoriaeth
dros deledu’r Dolig acw) a’r theatr Gymraeg yn denu clod a bri a chynulleidfa sylweddol
o gymharu â’r National Theatre Wales simsan Seisnig. Mae angen cyfrwng i amau
gwerth cystadleuaeth ryngwladol Artes Mundi, a’r heip y tu ôl i albym neu gig newydd.
Ydi’r perfformiad dawns amgen neu opera teithiol werth ein hamser a’n harian?
Ac
oes, mae angen mwy o adolygwyr Cymraeg sy’n ddigon dewr i feirniadu’n gytbwys yn
hytrach na “chanmol” yn daeogaidd cariad,
rhag ofn y gwelan nhw’r artist ar gae ’Steddfod neu wrth giw bar Chapter ar nos Wener. Ac adolygwyr sy'n wirioneddol drafod yr hyn maen nhw'n ei weld neu ei glywed, yn hytrach na malu cachu dragwyddol am Fi Fawr.