Colli a magu blas


Dw i mewn cyfyng gyngor. Mewn ychydig o greisus. Dw i’n adolygydd proffesiynol(!) i’r wasg Gymraeg a phrin yn gwylio S4C ar hyn o bryd. Mater o ddyletswydd, nid mwynhad, ydi’r Sianel i mi, a dw i’n wirioneddol boeni. Yn teimlo fymryn yn euog hyd yn oed.

Iawn, efallai mai gwasanaeth tanysgrifio netflix sydd ar fai yn rhannol - gwasanaeth sy’n caniatáu i mi borthi fy niddordeb mewn dramâu trosedd o bedwar ban. Mae gwasanaeth All4 hefyd yn lle gwych i ddal i fyny gyda Richard Travel Man Ayoade a’i westeion (o Rhod Gilbert i Jon Hamm!) a chwerthin  hel atgofion am lefydd dw i wedi ymweld â nhw fel Brwsel, Oslo a Tallinn, a chynllunio at y nesa i Porto. Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i S4C gynnig cyfres deithio, ac mae’r byd a chwaeth pobl wedi symud ymlaen yn aruthrol ers dyddiau codi pac a chynghorion Arfon Haines a Gwenda Richards o’r Costas yn Pacio. A diolch i dduw am hynny. Beth am fersiwn deledu o lyfryn difyr a smala Aled Sam am gyrchfannau poblogaidd ac unigryw tir mawr Ewrop? Mae’r cradur yn haeddu brêc bach o fusnesu rownd sgubordai a jyngl jyrêniyms Gwalia Wen eto fyth.

Ond yn ôl at S4C heddiw. Tynnwch y domen o gemau rygbi diwedd tymor a’r myrdd o Gyfresi Ffordd-o-Fyw (Adre, Garddio a Mwy, Ar Werth gydag asiantwyr llawn Wenglish a gwên g’neud) o’r amserlen, a does ’na fawr ar ôl ond y ddwy gyfres sebon ddibynadwy, sioeau cylchgrawn Angie Mair o Lanelli, cynhyrchion amaeth nos Lun, bwletinau newyddion a thywydd ac ailddarllediadau o ailddarllediadau Codi Hwyl.



Ond dyma frwydro drwy’ niffyg brwdfrydedd a mentro ar damaid o’r Sioe Fwyd. Ac och! a gwae, cael blas arni (iawn, dyna ddigon o chwara’ ar eiriau coginio am y tro).  Yma, mae Ifan Jones Evans wedi rhoi ei gap ffarmwr-a-DJ o’r neilltu, a chamu i’r gegin i sgwrsio a sglaffio gydag enwogyn gwahanol bob wythnos ym mwyty Hywel Griffith - brodor o 'Pesda sydd bellach yn brif gogydd un o fwytai gorau’r wlad draw ym Mhenrhyn Gŵyr, via Coleg Menai, Caer ac Ynyshir. Ynyshir Bro Ddyfi wrth gwrs, nid Cwm Rhondda a achosodd gymaint o ffrae a ffwdan i James Martin’s Great British Adventure yn gynharach eleni.

Y gantores glam a’r figan Alys Williams oedd y gwestai diweddaraf, oedd yn golygu prydau heb gig na chynnyrch llaeth wrth gwrs. Cam dewr efo amaethwr wrth y llyw, ac efallai y byddai’r rhaglen wedi bod yn fwy dewr ac effeithiol o weini prydau tofu-aidd i’r ffarmwr a'r gwestai nesaf, Aeron ‘Ben Dant’ Pughe.  Mae pob rhaglen hefyd yn cynnwys eitem am gynhyrchwr bwyd neu ddiod sy’n ein harwain yn dwt at ryseitiau Hywel. Ac fel cyfresi Bryn Wilias o’u blaenau, maen nhw’n codi blas ond byth mo’r awydd ynof i fentro eu coginio fy hun. Fel Nigella yn yr iaith fain, porn bwyd ydyn nhw mewn gwirionedd, gwledd i’r llygaid wrth inni fwyta pryd popty ping o flaen y bocs.

Gyda llaw, isdeitlwyr S4C, “ffein” nid “ffeind” ma Ifan Jones Evans yn ei ddeud.

A'r wers felly? Rhoi cynnig ar bethau sydd ddim fel arfer at fy nant. Corau Rhys Meirion sydd yn y ciw nesa.

Ar ôl gwylio pennod arall o Sorjonen yn gyntaf...

Y Ditectif Kari Sorjonen, seren "Bordertown" o'r Ffindir ar Netflix