Mae’r ystrydeb “dy’ch chi’n disgwyl hydoedd am fws, a mwya’r
sydyn, mae yna ddau yn cyrraedd ar unwaith” yn cael ei gorddefnyddio weithiau.
Ond mae’n wir, mor wir. Cymerwch cyfresi comedi da er enghraifft. Yn enwedig
rhai sy’n ymdrin â Phrydain ôl-Refferedwm (dwi’n gwrthod deud y Gair Syrffedus
Hwnnw mwyach) a’n hagwedd at dramorwyr, mewnfudwyr, ceiswyr lloches,
ffoaduriaid - unrhyw un ‘gwahanol’ i’r Brit gwyn. Y naill ar BBC Two a’r llall
ar Channel 4, ond gyda bocsets cyfan ar wefannau’r ddwy sianel. Toby Jones ydi
sgwennwr a seren Don’t Forget the Driver
fel Pete, am dad a dreifar o dref glan môr Bognor Regis sy’n cael ei hun mewn
dipyn o dwll wedi i ffoadur ifanc o Eritrea guddio yng nghrombil ei fws wedi
gwibdaith i fynwentydd rhyfel a supermarché
‘ffags a chwrw’ Dunkirk a Calais. Rhwng hynny, a mam mewn pydew dementia,
slebog o ferch dal adra, lembo o efaill yn Oz, cydweithiwr Pwylaidd defnyddio’i
goetsh fel rhyw Airbnb answyddogol, a pherchnogwraig trelar bwyd saim ‘Phil-Me-Up’
dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ag o, mae pwysau’r byd ar sgwyddau Pete
druan. Ond mae gan y dyn bach hwn glamp o galon, ac mae’n ddigon i adfer eich
ffydd yn eich cyd-ddyn. Mae wedi’i ffilmio’n arbennig hefyd, a’r pytiau o
olygfeydd pontio bron yn gwneud i’r hen Fognor ymdddangos yn ddeliach nag y
dylai. Bron iawn.
Gellir yn hawdd fod wedi’i gosod hon yn y Rhyl, gyda’i
siopau tsips niferus, tafarnau â Jacs yr Undeb a byddin o sgwteri ar y prom, a
gyrrwr bws Cymraeg yn ceisio gwneud pen a chynffon o’r cyfan.
Y llall ydi Home,
sy’n fwy o ffefryn personol i mi. Yma hefyd, mae ffoadur yn llwyddo i guddio ym
mŵt Audi Q5 teulu dosbarth canol sy’n dychwelyd i swbwrbia Surrey wedi gwyliau
yn Ffrainc. Wedi’r braw a’r panig cychwynnol, mae’r teulu’n raddol fabwysiadu Sami (Youssef Kerkour), cyn-athro o Damascus a
wahanwyd oddi wrth ei wraig a’i fab yng nghanol llanast rhyfel a rhuthro i
Ewrop – er bod y fam a’r mab, Katie (Rebekah Staton) a John (Oaklee Pendergast)
yn fwy brwd a chroesawgar na Pete (Rufus Jones), a bleidleisiodd i adael yn y
Refferendwm. Serch rhai profiadau annifyr yn y cartref, y parc a’r swyddfa bost
leol, mae Sami yn dalp o optimistiaeth ac yn wirioneddol gredu bod dyfodol iddo
a’i deulu yn Lloegr er y byddai’n well ganddyn nhw aros gyda’u teulu maeth yn
yr Almaen. Un o’r golygfeydd gorau oedd yr un rhwng Sami a John yn trafod ‘yr
eliffant yn yr stafell’, a Sami’n herio rhagfarnau’r Sais fod gormod ohonyn Nhw
eisoes yn y wlad ’ma. Yr hyn sy’n wirioneddol godi ofn ar Pete yw’r ffaith fod
gan Sami swydd saff, teulu, teledu lloeren a phwll nofio, cyn i Assad ddechrau
pledu bomiau clwstwr ar ei bobl ei hun.
“In
Syria i had first world problems. Now I am first world problems”.
Ysgytwol. Ond dyw’r gyfres hon byth yn barnu na phregethu.
Yn hytrach, mae’n ffordd hynod effeithiol o gyflwyno argyfwng byd-eang i’n
bywyd dosbarth canol cysurus ni, gyda golwg gynnes ddoniol ar wahaniaethau
diwylliannol a’r meddyliau rhagfarnllyd hynny sy’n cuddio ym mhob wan jac
ohonom ni.
Fe wnewch chi chwerthin, crïo, synfyfyrio, gobeithio. Mae’n
berl.