Cof cenedl





Bu’n haf o ben-blwyddi arbennig. Cawsom ein boddi gan raglenni ac erthyglau i gofio dwy garreg filltir nodedig yn hanes Cymru a’r bydysawd - hanner canrif ers coroni tywysog o Sais drosom, a hanner canrif ers i ddyn droedio’r lleuad.

Doedd gen i fawr o fynedd efo’r gyntaf, rhaid cyfaddef, cyn ildio a dal i fyny efo Y Bomiwr a’r Tywysog, wedi cymaint o ganmol ar twitter. Roedd y ffaith mai’r cyfarwyddwr enwog Marc Evans (House of America, Patagonia, Y Gwyll) oedd wrth y llyw yn help garw hefyd. Cawsom 50 munud o hanes helbulus, cyfarwydd y chwedegau – Tryweryn ac Aber-fan – yn ogystal ag elfennau cwbl newydd ar ffurf cyfweliadau ddoe a heddiw, a ffilmiau o’r archif. Wnai fyth stopio syfrdanu ar y clip hwnnw o bennau gwynion a phlant bach y Pafiliwn yn cymeradwyo Carlo i’r carn, tra’r oedd eraill yn waldio myfyrwyr â’u hymbarels am feiddio protestio yn erbyn y cyw dywysog yn Eisteddfod yr Urdd Aberystwyth 1969. Difyr oedd clywed am nerfusrwydd y Blaid Lafur ar y pryd yn sgil poblogrwydd Gwynfor Evans a’r cenedlaetholwyr, ac a welai’r arwisgiad fel “yr arf dactegol berffaith er mwyn adennill tir”.
Ac wele glipiau o’r taeogwr tan gamp George Thomas wrth i’r rhyfel dros yr arwisgiad boethi. A’r rhyfel hwnnw oedd elfennau mwyaf newydd ac ysgytwol y saga i mi, gyda Mudiad Amddiffyn Cymru yn gosod nifer o fân fomiau ledled y wlad - o argae newydd Clywedog, i’r Deml Heddwch a’r Swyddfa Gymreig yn y brifddinas. Fe wyddai llawer ohonom am ladd dau o aelodau MAC yn Abergele noswyl yr arwisgo, ond faint oedd yn ymwybodol o’r bachgen deg oed o Loegr a gollodd ei goes ar ôl cicio dyfais ffrwydrol, tra ar wyliau yng Nghaernarfon? Ys dywed yr adroddwr Richard Lynch ar y diwedd, wrth i’r camera ffocysu ar John Jenkins 86 oed, a garcharwyd am ddeng mlynedd yn sgil y bomio “...mae’n cofio popeth, hyd yn oed os yw hanes wedi’i anghofio e”. A dyna ddagrau’n system addysg ni. Y ffaith fod y bennod gyfoes gythryblus hon yn hanes ein cenedl mor ddi-sôn-amdani. Gobeithio y bydd y ffilm werthfawr hon yn rhan o faes llafur cwricwlwm newydd bondigrybwyll Kirsty Williams.

Felly hefyd Tudur Owen: O Fôn i’r Lleuad, rhaglen arall a grisialodd ein cwricwlwm ffaeledig i’r dim. Hanes rhyfeddol Tecwyn Roberts (1925-1988), “arwr tawel” a aned ar dyddyn heb na ddŵr na thrydan ond a aeth ymlaen i serennu fel prif beiriannydd a sylfaenydd canolfan NASA Houston. Siŵr braidd y byddai’r Bîb a’r betws wedi clywed amdano petai’n frodor o Leamington Spa yn lle Llanddaniel Fab. A gresyn nad oes unrhyw dâp ohono’n siarad Cymraeg pan gafodd ei holi gan ohebydd ifanc o’r enw Gwyn Llywelyn, yn fuan wedi’r alldaith fawr i’r lloer. Ond yn sgyrsiau Tudur â’i gydweithwyr yn Mission Control, daeth parch eraill at y Monwysyn angof hwn i’r byw.
Yng ngeiriau George “Astronaut Maker” Abbey, “the people of Wales ought to take pride in that”.

Diolch i dduw fod S4C, o leiaf, yn helpu i gadw’n hanes ar gof a chadw.