Gŵyl goll





Crafu mwd y Maes o’m ’sgidia oeddwn i wrth sinc y gegin ryw noson, pan ddigwyddodd yr anffawd. Roeddwn i eisoes wedi pwdu braidd ar ôl methu â sicrhau tocyn euraidd i gig Mark Cyrff yn yr Eagles, a chael tolc nid ansylweddol i ’nghar ddyddiau ynghynt. Roedd yr uchafbwyntiau-o-uchafbwyntiau’r steddfod newydd orffen, ac S4C yn ein trosglwyddo i’r sioe gwis ddartiau. Go brin fod Leri Siôn ac Ifan Jones Williams mor desbrét â hynny am waith, gyda’r naill yn cyflwyno rhaglen bob pnawn ar Radio Wales a’r llall yn mynd O Sioe i Sioe fel rhan o’i slot yntau ar Radio Cymru. A go brin fod Oci Oci Oci! ymhlith eu huchafbwyntiau gyrfaol. Timau tai potas Bangor, Llanfechell a Llangefni oedd wrthi yn rhaglen ola’r gyfres, a byddai’n haws pe tawn i mor gocls â rhai o’r cystadleuwyr. Cefais fy nghludo’n ôl i’r nosweithiau pell hynny o gyrraedd adre’n sigledig o’r Llew Coch, panad a bechdan gaws flêr, a thanio’r teli i wylio rhywbeth rhad-a-chas ar HTV toc wedi hanner nos. Fel dwedais i, roeddwn i mewn hwyliau sorllyd.

Ac fel y soniais droeon, un o’r pethau gorau am ddarllediadau’r Brifwyl ydi Tocyn Wythnos dan law tebol Beti George. Dw i ddim yn ddewin technolegol, ond llwyddais i lawrlwytho sawl rhifyn i’r ffôn lôn er mwyn cysylltu â bluetooth y car a hwyluso’r daith droellog nôl i’r De. A sôn am ymborth. Gwledd o gyfweliadau hir a difyr efo beirniaid y prif gystadlaethau llên i sbario prynu’r Cyfansoddiadau (sori, gyhoeddwyr), teyrnged gwesteion fel Tony Schiavone i Gymreictod arbennig Llanrwst, a chlecs Karen Owen am bopeth o sioe gerdd ysgubol ‘Te yn y Grug’ i stiwardiaid parcio go anghynnas. Da chi, trowch i wefan neu ap BBC Sounds tra maen nhw’n dal yno.



Mae’r oriau dirifedi o ddarllediadau S4C a Radio Cymru yn codi cywilydd ar weddill Prydain difater a’r rhacsyn Wales on Sunday. Wedi’r cwbl, yr Eisteddfod Genedlaethol ydi darllediad awyr agored mwyaf ond dau y Bîb, ar ôl Wimbledon a Glastonbury. Byddai rhywun felly’n disgwyl i’r Gorfforaeth sicrhau gwerth am arian a dangos mwy fyth y tu hwnt i Gymru, megis darllediadau nosweithiol The One Show o Sioe FawrLlanelwedd. Yn y diwedd, cwta hanner awr gafwyd ar BBC Four yng nghwmni Jason Mohammad nos Fercher diwethaf. Medal aur felly i JM am lwyddo i gyfleu hwyl a hoen y Maes wedi bwrlwm agoriadol y prifardd Gruffudd Eifion Owen i’r “...rocking shocking floral-frocking... pan-Llanrwsting circus”. Ond roedd yr unig eitem eisteddfodol ar Front Row Radio 4, ar Awst y seithfed, wedi’i chroniclo’n ystrydebol i “...dance about rugby” gan ein Cwmni Dawns Cenedlaethol. Dyw ‘pathetig’ ddim ynddi. Cymharwch y sbloets o sylw a roddir i ŵyl Saesneg saff a chyfarwydd yr Alban ar hyn o bryd, gan gynnwys rhaglen arbennig ‘Wales at the Edinburgh Fringe’ The Review Show Radio Wales. 

Colin Paterson, Sgotyn, ydi golygydd yr orsaf honno gyda llaw.

Naw wfft iddyn nhw. Mae’r sgidia’n lanach ac yn barod am Dregaron rŵan.