Bore Llun braf, ac mae’r ddinas yn drybowndio. Ac mewn
cilfach gefn o westy pum seren yn Soho, ger bariau nwdls a mwy o baristas nag
sydd raid, mae darn bach o Gymru. Y tu mewn, coffi a choflaid o hacs ac
actorion yn ymgynnull mewn sinema glyd. Pawb yma ar gyfer dangosiad o ddrama
newydd Channel 4 wed’i gosod yng nghymoedd y De; cyfres bedair rhan The
Accident am gymuned wedi’i sigo gan drychineb ar safle prosiect adfywio
sy’n addo gwaith a gobaith newydd i ardal angof. A gyda chyfresi o Gymru ar y
rhwydwaith mor brin, mae’r daith i’r première yn Llundain yn hanfodol.
Y
Ddrama
Mae’n fore gŵyl Ddewi, a phentref Glyngolau yn paratoi at y
ras hwyl. Gwelwn ferch fach mewn gwisg Gymreig yn sgipio drwy’r parc, wrth i
oedolyn mewn siwt ddraig gael mwgyn. Mae’r stryd fawr lwyd yn llawn cennin pedr
gwynt a byntings lliwgar, a thrigolion amrywiol eu ffitrwydd a’u gwisg ffansi yn
ymgynnull. Yn y cyfamser, mae criw ifanc yn torri i mewn i safle The Light.
Ond yng nghanol chwerthin a chellwair y ras, daw’r byd i stop. Ffrwydrad. Mae’r
camera yn tremio’n araf ar hyd wynebau’r rhieni, o anghrediniaeth i arswyd pur,
wrth i’r tŵr brics ddymchwel o flaen eu llygaid. ’Sdim angen geiriau na
sgrechian gorffwyll. Mae eu mudandod yn dweud cyfrolau wrth i’r llwch ddisgyn
yn dawel dawel fel plu eira sinistr. Ac mae’r golygfeydd canlynol yn rhai
ffrwydrol, wrth inni neidio o’r ysbytu i ’stafelloedd byw’r teuluoedd a
phencadlys sgleiniog y cwmni datblygu. Mae galar yn esgor ar ddicter, a’r holl
bwyntio bys yn troi ffrindiau bore oes yn erbyn ei gilydd.
Yr
Awdur
A dyna’n union oedd bwriad Jack Thorne wrth roi pin ar
bapur. Y frwydr am gyfiawnder a dwyn i gyfrif am ddamwain mor ysgytwol.
Aber-fan ddaeth i’r cof yn syth gen i, yn naturiol fel Cymro efallai, wrth i’r
gyfres ymddangos 53 mlynedd i’r mis wedi’r drychineb honno. Ond trasiedi tân
mewn bloc o fflatiau yn Llundain ddwy flynedd yn ôl oedd ar feddwl yr awdur o
Fryste. Yn wir, roedd tri chwmni cynhyrchu wedi cynnig comisiwn penodol am
Grenfell i Thorne, cyn iddo wrthod ar y sail ei bod hi’n llawer rhy gynnar.
Dyma’r olaf o drioleg Jack Thorne ar gyfer Channel Four sy’n trin a thrafod
pynciau anodd amserol y Brydain gyfoes - gyda’r pwyslais ar gyfiawnder y tro
hwn, yn dilyn themâu pechod (A National Treasure) a bai (Kiri).
Yr olaf, gyda llaw, oedd drama fwyaf poblogaidd erioed Channel 4 hyd yma, gyda phum
miliwn o wylwyr y llynedd. Dw i’n rhagweld ffigurau tebyg i The Accident.
Y Cast
Ochneidio’n ddiflas wnes i ar ôl gweld y rhestr gastio’n
gyntaf. Enwau mawr o fyd actio Lloegr eto fyth, gan gofio am achosion blaenorol
o droseddu yn erbyn yr acen Gymreig, o Monica Dolan yng nghyfres gomedi W1A i
Tom Hardy yn y ffilm Locke. Er tegwch i’r actorion dŵad yma, rhyw dinc
o’r cymoedd gawn ni yn hytrach na rhywbeth allasai fod yn Leanne Woodaidd o
dros ben llestri. Ac mewn sesiwn holi ac ateb wedi’r dangosiad, cyfaddefodd
Sarah Lancashire swil fod yr acen yn dipyn o her ac iddi roi ei hun yn sgidiau
Polly Bevan fisoedd cyn dechrau ffilmio ym mis Mai: “I had my Christmas
dinner... and did it with a Welsh accent”. Roedd gan ei chydactores Eiry
Thomas, sy’n chwarae rhan Greta’r fam sengl, rywfaint o amheuon i ddechrau
hefyd.
“O’n i’n poeni.
Roedd y cynhyrchiad yn ofalus iawn efo hyn, achos efo drama fel hon mae angen
bod yn ‘authentic' a real. Roedd hyfforddwraig llais ac acen wrth law gydol y
cyfnod paratoi a saethu. Roedd Sarah wedi bod yn gweithio ar yr acen ers
misoedd... ac yn gofyn os oedd angen help arni efo gair neu sŵn gair. Roedd yn
ymddiddori yn y Gymraeg, lwyddon ni i ddysgu ambell beth iddi”.
Nid bod gan actores o fri Happy Valley fawr o ddewis
chwaith, gan i Jack Thorne sgwennu rhan Polly Bevan yn unswydd ar ei chyfer hi.
Ac mae ei gŵr yn y ddrama, Mark Lewis Jones - y Cynghorydd Iwan Bevan â’i fys
ym mriwas y prosiect drwgenwog - hefyd yn canmol Sarah Lancashire am lwyddo i
adlewyrchu “rhythm a thiwn” yr acen. Mae’r ddau’n drydanol gyda’i gilydd, a
bydd un digwyddiad syfrdanol ar yr aelwyd tua diwedd y bennod gyntaf yn siŵr o
fynd â’ch gwynt.
Diolch i’r drefn i’n sêr cynhenid felly, a Jade Croot ugain
oed o Ferthyr, am ddangos i’r byd a’r betws bod actorion mwy ’na thebol yma’n
barod. Os na chewch eich ysgwyd gan ei pherfformiad dirdynnol hi o Leona Bevan,
y rebel o ferch ysgol a effeithiwyd gan y ddamwain, does gennych chi ddim calon.
Mae yna dinc rhyngwladol i’r cyfan hefyd, gyda Sidse Babett Knudsen (Borgen) o Ddenmarc yn chwarae rhan
Harriet Paulsen, prif weithredwr Kallbridge
Developments. Anwybyddu cwestiynu diog Emma Cox o’r Radio Times am ei
hargraffiadau o “rainy Wales” wnaeth hi, a chanmol ein mynyddoedd a’n
golygfeydd yn hytrach.
Y
Lleoliadau
Roedd y fath groeso a gawsant wrth ffilmio Kiri yng
Nghymru wedi selio penderfyniad y criw ffilmio i ddychwelyd yma. Meddai’r
Cynhyrchydd Gweithredol George Ormond gan gyfeirio at yr awdur, “...Jack is also half Welsh and we knew from the off that The
Accident would be set in a small valleys town.” Siŵr iawn bod angen
sgrin fawr ar gyfer cefnlen epig o fryniau a dolydd gwyrddion, a’r terasau
ystrydebol o gyfarwydd. O Neuadd y Brangwyn Abertawe i safle tir llwyd yng
Nghaer-went, mynwent y Maerdy i gartre’r Bevans ym Mlaengarw, a stryd fawr
Porth y Rhondda, daw’r cyfan at ei gilydd i greu naws am le arbennig.
Ac am unwaith, mae’n braf gweld y wlad go iawn ar y bocs yn
hytrach na Chymru-smalio-bod yn Holby neu blaned Gallifrey.
Paratowch am siwrnai emosiynol.