Radio pwy?




Erbyn adeg yma'r flwyddyn nesaf, fydd o ddim yno. Bloc concrid y BBC yn Llandaf a agorwyd ym 1966, sydd i'w ddymchwel er mwyn gwneud lle i 400 o dai a fflatiau hyd Heol Llantrisant, tagfa waetha'r brifddinas yn barod. Bydd 1,200 o gyfryngis (gan gynnwys ambell weithiwr S4C a chwmnïau annibynnol) yn mudo i’r Sgwâr Canolog ger y brif orsaf drenau a mwy fyth o Brets a Bŵts, i bencadlys gwydrog £100 miliwn Foster+Partners, dylunwyr to gwydr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol.

HQ Llandaf (1966-2020)


Ac mae datblygiadau diweddar yn gwneud i rywun amau a fydd Radio Cymru hefo ni am lawer hirach. Hyn yn sgil ffigurau ymchwil cynulleidfaoedd radio diweddaraf Rajar sy’n siomedig uffernol i brosiect Rhuanedd Richards. Tra bod Radio Wales dan-y-lach wedi denu 51,000 yn fwy o ffyddloniaid i 368,000, colli 6,000 oedd hanes y chwaer orsaf Gymraeg - i 102,000 - yr isaf ers 2016 yn ôl Golwg360. A na, waeth i chi heb â thyrchu drwy Cymru Fyw am fanylion. Mae hefyd yn anodd os nad yn amhosib ffeindio ffigurau penodol i Gymru gan Rajar (rheswm arall dros ddatganoli darlledu a’r gwaith craffu i Gymru).

Yr hen...


Yr hyn ddylai boeni Ms Richards ydi’r ffaith fod “y ffigyrau ar gyfer Radio Cymru hefyd yn cynnwys y nifer sy’n gwrando ar ei chwaer-orsaf ddigidol, Radio Cymru 2”. Llaw i fyny pwy sy’n gwrando ar yr ail donfedd. Unrhyw un? 

Serch diflastod di-ben-draw Brexit, dw i’n sgut am newyddion, felly criw’r Post Cyntaf sydd yng nghof fy nghloc larwm cyn troi i 5 Live Breakfast am fwy o fanylder byd-eang, efallai Today Radio 4 rŵan bod John Humphreys wedi gadael. Dw i’n deall fod Cân y Babis yn dal i fynd ar Radio Cymru 2, a’r un hen rai’n dal wrthi fel tasa nhw’n dal yn sownd yn 2010-2014. Dro arall, fe glywch chi Lisa Gwilym neu Daniel Glyn, weithiau Carl ac Alun (fy ffefrynnau hyd yma). Mae cyffro a ffresni arbrawf Radio Cymru Mwy, fu’n darlledu rhwng 7 y bore a hanner dydd rhwng mis Medi a Rhagfyr 2016, yn ymddangos fel breuddwyd bellach. Elan Evans, Zowie Jones, Gareth ‘Gaz Top’ Jones, Carwyn Ellis, Sam Rhys, Gwennan Mair, Steffan Alun. Dw i'n cofio gweithio adra' ambell ddiwrnod, a wirioneddol fwynhau cerddoriaeth gwahanol i'r arfer canol y ffordd Cothi a'i chriw

Lle aeth pawb? 

... a'r newydd?


Cwtogi fu hanes yr ail wasanaeth, o ran cyflwynwyr ac oriau i ddim ond 6.30-8.30 y dydd.

A chwtogi ydi hanes darllediadau byw o rai o’n gwyliau mwyaf poblogaidd hefyd. Dw i'n ymwybodol nad ydi corau Laura Ashley-aidd â geriach Cwt Tatws, na ffarmwrs mewn ffrogiau (Maggi Noggi’s Drag Race?) at ddant pawb, ond mae penderfyniad Radio Cymru i beidio â darlledu’n fyw o’r ŵyl gerdd dant nac Eisteddfod CFfI Cymru eleni yn od ar y naw. Pecyn pigion, uchafbwyntiau’r naill o Lanelli a’r llall o Wrecsam fydd hi. Iawn, efallai fod gemau rhyngwladol yr hydref yn boen i drefnwyr amserlenni’r orsaf yn y gorffennol, ond ’sdim esgus eleni, gyda’r Principality yn wacach na’r arfer ers Cwpan y Byd Japan. Ac mae tonfedd Radio Cymru 2 yn segur ar bnawniau heb gemau Caerdydd neu Abertawe.

Mae amserlen S4C, ar y llaw arall, yn dangos y bydd yna gerdd dant ar y bocs am 2 y pnawn ac 8 nos Sadwrn 9fed Tachwedd. A dw i’n cymryd y bydd Ifan J.E a Meinir Ffermio yn cyflwyno steddfod y ffarmwrs ar nos Sadwrn ola' Tachwedd (er bod Cymru v Barbariaid ar yr un diwrnod).

Mae’r manylion yn annelwig, a’r rhesymau’n niwlog. Ymateb y pen bandit hyd yma yw:

O ran yr Ŵyl Cerdd Dant, rydym yn edrych ymlaen at ddarlledu rhaglen gynhwysfawr o uchafbwyntiau... Dyw’r ŵyl ddim yn cael ei dileu o gwbl - rwy’n gobeithio’n y bydd rheini sy’n mynychu’r ŵyl, ynghyd â’r rhai sydd ddim,yn medru mwynhau’r rhaglen y byddwn yn ei chynhyrchu.

Sôn am biso ar jips y gynulleidfa draddodiadol. 

Nais won, Radio Cymru.