2019




Roedd S4C yn 37 oed fis diwethaf. Aeth y garreg filltir heibio heb fawr o ffỳs na ffwdan. Rhyw oed digon di-ddim ydi o wedi’r cwbl, cyn disgwyliadau mawr y Deugain. Ond mae’n wyrth ei bod hi yma o hyd, serch smonach cychwynnol Madam Wen, Jeremy Hunt a'r fwyell a chythrwfl Iona Jones yn 2010, penderfyniadau masnachol annoeth Loteri Cymru, saga symud i’r Gorllewin, a chomisiynu Tipit ac Oci Oci Oci.

Mae’n rhyfeddol ac o! mor braf troi i sianel 104, a’r Gymraeg ar ein sgriniau o chwech y bore tan hanner nos. Cymharwch hynny ag oes y tair sianel cyn 1982. Oes y gwylio byw a chodi oddi ar eich tinau i bwyso botwm. Mae’r Radio Times yn dangos mai unig arlwy Cymraeg BBC1 ddydd Nadolig 1979 oedd Pobol y Cwm am 11.45 y bore yna Rhaglen Hywel Gwynfryn am 12.15, cyn ymuno â gweddill Prydain am ’bach o Blondie a Cliff ar Top of the Pops, swpera i To the Manor Born a noswylio gyda Parkinson at Christmas.




Dydyn ni, genhedlaeth Superted ddoe a Stwnsh heddiw, ddim yn gwybod ein geni.

Yn ysbryd cadarnhaol yr ŵyl felly, dyma fwrw golwg ar uchafbwyntiau ein Sianel dros y flwyddyn giami aeth heibio. Mae twrnamaint Siapan yn teimlo’n bell yn ôl erbyn hyn, ond roedd hi’n bleser codi’n blygeiniol i wylio Gareth Rhys Owen a’i garfan Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn hafan S4C o gymharu â’r drydedd sianel eingl-ganolog. Efallai fod Alfie yn dipyn o gês, ond nid sylwebydd slic mohono ar ITV. Yr uchafbwynt oedd sylwebaeth groyw Wyn Gruffydd fu hefyd yn rhan o griw Seiclo dros yr haf gyda’r encyclopédie française Alun Wyn Bevan i ddisgrifio’r lleoliadau godidog pan nad oedd yr Alpau ar gau diolch i storm genllysg. Sdim rhyfedd fod arlwy chwaraeon S4C ar frig y siartiau yn gyson.



Cymysg oedd y cynhyrchion dramatig. Prin pennod a hanner o amynedd oedd gen i efo Un Bore Mercher, ond mae Merched Parchus wedi aros yn y cof ac yn dal ar Clic. Hiwmor du a ffantasïau duach merch 27 oed o’r enw Carys (yr actores a’r awdures Hanna Jarman a sgwennodd y gyfres ar y cyd â Mari Beard) sydd wedi symud ’nôl at ei rhieni wedi torperthynas, athrawes gyflenwi sy’n straffaglu sgwennu nofel “Llofruddiaethau Cymru: gwlad y gwaed” wrth geisio osgoi cyfryngis a chyn-gariadon ym mhartis a bariau’r brifddinas. Arbrawf ar-lein wyth pennod, deg munud yr un, a dalodd ar ei ganfed. Dw i wedi ailwylio’r cyfan eto, ac yn canfod perl o stumiau a seibiau newydd bob tro. Hei lwc am ail gyfres cyn hir – mae’n greulon gorffen ar ddiweddglo mor benagored!

Bethan Richards - Drych


Daeth Prosiect Pum Mil i gnesu’r galon a chodi deigryn, wrth i Trystan ac Emma arallgyfeirio o briodasau i dasgau cymunedol, mewn cyfres sy’n profi bod yna ddaioni yn ein byd brexitaidd o hyd. Cawsom lond trol o gyfresi tai, rhwng Nia Parry yn ein tywys rownd cartrefi enwogion yn Adre (ac oes, mae yna rifyn arbennig dros yr ŵyl), Aled Sam a Mandy Watkins yn porthi ein porn dylunio mewnol yn Dan Do, a Tŷ am Ddim gyda Carys Davies, wyneb o orffennol Heno, yn cynnig chwe mis i gwpl (anghymarus yn bennaf) ailwampo tŷ a brynwyd mewn ocsiwn. A thrwy cyfres ddogfen ragorol Drych, cawsom gip ar obeithion a thorcalon IVF Elin Fflur (enillydd Cyfres Ddogfen Orau Gŵyl y Cyfryngau Celtaidd eleni), portread o ferch drawsryweddol o’r Coed-duon, ac emosiynau colli golwg Bethan ‘Diffiniad’ Richards.

A’m gobaith ar gyfer 2020? Cyfres gomedi ac un arall yn adolygu’r celfyddydau gwelwch yn dda, S4C.

Dolig Llawen!