Dwi wrth fy modd efo’r radio hwyr bnawn Sul. Amser
diawlio-smwddio a meddwl am becynnau bwyd yr wythnos i ddod. Ac yn y cefndir, lleisiau
cyfarwydd y weiarles i’m harwain at amser swper. Mae’r awr a hanner o
ddiwylliant solet Dei Tomos a’i westeion amrywiol (5.30-7pm) mor
gynnes-gyfarwydd â slot tywydd Countryfile ac arwyddgan y gyfres antîcs
’na.
O’r blaen, roedd rhaglen gelfyddydol Stiwdio gyda
Nia Roberts yn ei ragflaenu cyn iddi symud i slot fyw nos Lun am chwech (gyda’r
bonws ychwanegol o adolygiadau llyfrau rheolaidd Catrin Beard). Roedd dau rifyn
gynta’r flwyddyn at fy nant i, gyda chriw hyddysg - Catrin Gerallt, Lowri
Cooke, Jon Gower - yn edrych nôl ar oreuon byd drama, llên, cerddoriaeth
a’r celfyddydau gweledol yn 2019 a blas ar uchafbwyntiau 2020; a’r ail yn rhoi
llwyfan i ben bandits pedwar cwmni theatr Cymraeg. Mae’r holl weithgarwch trwy
gyfrwng y Gymraeg wir yn codi calon rhywun, ac yn crefu am sylw ar raglen
gyffelyb ar S4C. Mae’n hen hen gri, a’r hiraeth am Sioe Gelf yn parhau,
ond mae’n amlwg nad ydi comisiynwyr yr Egin eisiau gwybod. Yn wir, mae cyfrwng
clywedol Cymraeg yn rhagori ar y gweledol yn hyn o beth. Cafwyd chwip o rifyn
diwedd flwyddyn o bodlediadau annibynnol Llwyd Owen, gyda’i gyd-Lantafiad Lowri Cooke yn ymuno ag o i dafoli uchafbwyntiau’r llynedd yn Does dim gair
Cymraeg am RANDOM. Chwiliwch amdani drwy Soundcloud, Castbox etc, am
sgyrsiau archif hynod ddifyr â Mark ‘Cyrff’, Ffion Dafis, Dylan Ebenezer,
Lleuwen Steffan a Manon Ros, Daf Palfrey a Mathew Glyn a llawer mwy. Meddyliwch am Beti a’i Phobl heb
gerddoriaeth ond gydag iaith goch. Gyda llaw, trwy Lowri Cooke y clywais y
bomshel niwclear nad ydi S4C am ganiatáu ail gyfres o’r hynod wreiddiol Merched
Parchus, un o oreuon teledyddol 2019 i lawer, a orffennodd yn 'sgytwol o
benagored. Penderfyniad od ar y naw, o gofio’r holl bwyslais Hansh-aidd ar ddarlledu lot ar-lein y dyddiau hyn. Gan fenthyg ebychiadau Llwyd Owen, mae
penderfyniadau comisiynu’r Sianel yn ffycin rhwystredig weithiau.
cowbois.com |
Ond yn ôl at nosweithiau Sul Radio Cymru, a’r gyfres newydd
sy’n llenwi slot pump o’r gloch. Dot Davies, wyneb cyfarwydd y Byd a’r
Bedwar, llais Wimbledon a rygbi a chyflwynydd Y Fro Gymraeg. Wedi positifrwydd y rhaglenni uchod, a’r holl edrych ymlaen
at arlwy’r flwyddyn, dyma ‘daflu dŵr oer’ o gyfres. Ynddi, mae Dot yn gadael ei
haelwyd newydd ym Mhenarth ac yn teithio i’r cadarnleoedd traddodiadol gan holi
sut stad sydd ar yr iaith yno heddiw - ac yn holi a ddylai daclo ei hangst dinesig a dychwelyd i Flaenannerch ei magwraeth gan roi’r profiad ‘Cymraeg’ cyflawn i’w phlant fel y cafodd hithau. Ai Bro Morgannwg 20.7% neu Geredigion 59.2% o
siaradwyr Cymraeg sy’n galw? Wrth i Dot fynd ar roadtrip ieithyddol,
gwrando â chalon drom braidd wnes i wrth iddi sgwrsio gydag unig breswylydd Cymraeg
rhes o dai ger traeth hudolus Cwmyreglwys Sir Benfro, a phrofiadau’r canwr Gai
Toms o weld Tanygrisiau’n prysur droi’n bentra Airbnb. Roedd rhaglen
arall, ar y llaw arall, yn fwy gobeithiol wrth i Dot gwrdd â mentergarwyr
Aberteifi a Chaernarfon a ategai freuddwyd Adam Price o greu awdurdod datblygu
“Arfor” i gadarnleoedd Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr. Mae’n
sefyllfa astrus unigryw i bawb. Fel finnau o Ddyffryn Conwy bellach yn
Eglwysnewydd, Caerdydd, yn byw a gweithio trwy gyfrwng yr iaith, ac yn llwyddo
i gael gwasanaeth Cymraeg gan fy meddyg teulu, deintydd, plymar, gyrrwr bws, caffi, siop iechyd leol... Ond yn Llanrwst (61%) mae hi'n WIRIONEDDOL iaith y stryd.
Un rhaglen sy’n
weddill yn y gyfres. Trowch ati - mae’n (boenus o) berthnasol i bob un wan jac
ohonon ni.
Teg edrych tuag adre? |