Noggi ogi ogi!

Maggi a'i dyn (dewr) y dderbynfa aka Steffan Lloyd Owen, y bariton o Bentre Berw

Dyn a ŵyr, ’da ni angen esgus i wenu a chwerthin y dyddiau hyn. 

Ac mae gan S4C y ffisig perffaith bob nos Fercher am naw, gyda Gwely a Brecwast Maggi Noggi lle mae cwîn myddyr y fam ynys yn agor ei drysau a'i mynwes nobl i westeion arbennig yr wythnos. Mae Aloma (heb Tony) ac Owain Tudur Jones (lawn mor dalog â’r hostess efo’r mostess) eisoes wedi camu dros y trothwy pinc a ddisgrifiwyd ganddi unwaith fel “cangen ranbarthol Claire’s Accessories”, ac mae Cefin Roberts, Tudur Owen ac Angharad Mair eto i ymddangos. Ac mae pawb i'w gweld yn cael uffarn o hwyl wrth chwarae'n stret yng nghanol holl fwyseiriau a gwall(t)gofrwydd Llanfair Mathafarn Eithaf.

Dyma’r camp a rhemp mwyaf ar S4C ers dyddiau PC Leslie Wyn, a diolch amdano/amdani.