Ozark




Bues i’n chwilio am focset newydd da ers sbel. Ro’n i awydd rhyw thriller gwlad boeth yn lle’r sgandis oer dragwyddol, felly dyma drïo Mar de plástico - cyfres netflix wedi’i gosod yn nhalaith Almería lle mae llofruddiaeth merch ifanc leol yn sbarduno tensiynau rhwng y locals senoffobaidd a’r ton o weithwyr dŵad sy’n casglu a phrosesu llysiau dan bentref tŷ gwydr anferth. Ac fel arfer, mae ditectif diarth o’r tu allan yn corddi’r dyfroedd wrth ymchwilio yn groes i’r policia brodorol. Dechrau da, plot llawn posibiliadau, a golygfeydd dan haul tanbaid – cyn i’r digwydd droi’n OTT braidd yn sebonllyd, a’r dywededig blismon (sydd fel petai’n ystumio ar glawr Cosmo España) yn dechrau taclo pawb gyda’i giamocs kung fu. Pennod barish i.

Mae pethau’n argoeli llawer gwell i Ozark (2017-), ar y llaw arall, a minnau ar bennod 7 y gyfres gyntaf o dair. Argymhelliad cydweithiwr a sawl blog teledu oedd hwn, ac er nad oedd y busnes ‘gangsters cartel Mecsicanaidd’ yn apelio i ddechrau, dw i mor falch i mi ddal ati. Ac mae yna waith mynd drwyddyn nhw, gyda deg pennod awr yr un, ond mae cymaint o gyffro, cymeriadau crwn ac isblotiau i’ch cadw’n ddiddig drwy’r Covid.

Hanes ymgynghorydd ariannol Martin “Marty” Byrde (yr actor a'r cynhyrchydd gweithredol Jason Bateman) a’i deulu sydd yma, sy’n codi pac a dianc o Chicago gosmpolitaidd wedi i gynllun gwyngalchu arian ar ran gangstyr Mecsicanaidd pwerus fynd o chwith, a’i bartner busnes wedi’i dowcio mewn casgen asid. Cyrchfan newydd y teulu ydi ardal y llynnoedd canol Missouri 450 milltir i ffwrdd – lle mae’r white trash, perchnogion cychod moethus, clybiau stripio, efengyls a mân droseddwyr llawr gwlad yn ben, megis y Bala os leiciwch chi – a’r FBI yn dynn wrth eu sodlau. Wrth i Marty a’i wraig Wendy (Laura Linney ardderchog, gynt o Tales of the City) fuddsoddi mewn rhagor o fusnesau lleol a thynnu mwy o bobl i’w pennau, mae’r tensiwn yn cynyddu a’r annisgwyl yn eich taro law yn llaw â’r hiwmor du. Ac mae’r lleoliad hefyd yn plesio yn ngolau llwydlas unigryw'r gyfres, fel y nododd Nick Hanover yn Film Daily:

"Once you get past the surface similarities, Ozark shines as something special and inventive, an intense crime opera where the scenery is as much the star as anyone in the cast".

"Be ddiawl 'da ni'n dda fama?"
Jason Bateman (Marty) - enillydd gwobr Emmy 2019

Croeso



 Y Sgotyn Peter Mullan fel y ffarmwr pabi coch Jacob Snell


Hapus dyrfa