Breuddwyd

Stryd fawr segur Cwmderi


Mi ges i freuddwyd uffernol o od neithiwr. Golygfeydd sebon oedden nhw, lle’r oedd Debbie Jones (Maria Pride) Pobol y Cwm wedi gadael/dianc o Gymru i’r Eidal a Shirley (Linda Henry) Eastenders yn ei hymlid. Wn i ddim pam yr olaf, achos dw i ddim yn wyliwr rheolaidd sterics y cocnis a heb ei gwylio ers dramatics pen-blwydd 30 oed ddiwedd Chwefror, gyda damwain cwch parti ar y Tafwys.

Ond doedd gynnon ni ddim digon o gyllideb i fynd dramor go iawn, felly roedd ardal chwareli’r gogledd(!) yn boddi dan haul yn cogio bod yn Italia gydag ecstras Neapolitanaidd yn y cefndir. Penllanw di-ddramatig y freuddwyd oedd bod Shirley (cymeriad bwgan brain â llais 40 Bensons y dydd) yn llwyddo i ddal i fyny efo Debbie, a’r ddwy’n ffrindiau hapus gytûn wedi’r cyfan.

Fel dwedais i, od iawn.

Ychydig ddyddiau ynghynt, fe wnes i ddal i fyny ar bennod Debbie yn gadael y Cwm dan gwmwl trwy ddal bws i’w hafan Sbaenaidd er mwyn osgoi cael ei charcharu deliwr drygs y Cwm. Chafodd y graduras fawr o lwc yn y misoedd diwethaf, gyda Ricky ei mab yn cefnu arni, Kath yn rhoi cic owt iddi o Faesyderi, a’i gŵr Mark Jones yn mynnu ysgariad. A rhyw gadach llestri o fenyw oedd hi tua'r diwedd, ar ôl cyrraedd y Cwm o'r Costas bymtheg mlynedd fel dynes ewn, dim 'whare. Ac yn y canol, bu’n ddraenen gyson yn ystlys Kath Jones, yn potsian efo Meic Pierce a Kevin Powell (Iwcs), cwrdd â’i sipsi o dad, ac ennill bywoliaeth a lled-barchusrwydd yng Nghaffi’r Cwm a’r Salon maes o law.

My Big Fat Pobol Wedding - Debbie a Mark, 2019


Bellach, mae stiwdios y gyfres ochr yn ochr ag un Casualty ym Mhorth y Rhath, Bae Caerdydd wedi cau fel gweddill y genedl, a Pobol y Cwm wedi’i thocio o bump i ddwy bennod yr wythnos. Yn y cyfamser, ffarweliwyd â’r stelcwraig seicotig Angharad sydd wedi’i heglu i Awstralia (diolch i dduw) dan basport ffug ei nemesis Gaynor, daeth Mai/Em (Mirian Evans o Chwilog, enillydd Cân i Gymru 2014) i chwilio am ei mam Cassie Morris fel cymeriad deuaidd neu binary cynta’r Cwm (rhagor o dicio bocsys cydraddoldeb a chyfartaledd y BBC) a dioddefodd Math ymosodiad asid erchyll ar gam wrth adael tŷ tapas Dylan, y cyffurgi lleol.



Mae’n well gen i’r patrwm newydd o lai o benodau’r wythnos, i fod yn onest, fel chwaer sebon y Fenai. Hyn a hyn o benodau all rhywun ei wylio/oddef weithiau, ac mae yna ryw deimlad o frys, actio-nid-da-lle-gellir-gwell, ffilmio blêr a chyfarwyddo ciami ambell dro. Beth am arafu’r llinell gynhyrchu ffatri, cael hoe fach, a chanolbwyntio ar greu cyfres dwy-dair gwaith yr wythnos – a thrwy hynny, twtio a thocio, osgoi gormod o ailadrodd, gadael i gymeriadau newydd anadlu a rhoi cyfle inni ddod i’w nabod a malio amdanynt yn iawn cyn eu hyrddio i ganol stori fawr. A plis, llai o straeon gangstyrs cyffuriau a llai o efelychu pwysigrwydd “family” fel petai Phil Mitchell wedi’i drawsblannu’n Tymbl Uchaf. Ac mi wn bod yna greisus tai yng nghefn gwlad Cymru, ond er mwyn dyn, adeiladwch ragor o setiau er mwyn rhoi cartref call i Cassie o bawb, a’r pedwarawd lletchwith Kelly a Jason, Sara a Dylan.

Porth y Rhath 

Mae Rownd a Rownd mewn cyfnod da ar hyn o bryd, rhwng smonach teuluol y brifathrawes newydd Elen Edwards (Catrin Llwyd-Mara) a'i merched wedi i'r tad absennol ddychwelyd i'w bywydau. Mae cynhyrchwyr Rondo wedi ffeindio chwip o actorion ifanc naturiol yn Luned Elfyn (Mali) a Gwenlli Dafydd (Anna). Mae teulu arall yng nghanol castiau carwriaethol wrth i Carys ac Aled Campbell (Daniel Lloyd) ddefnyddio eu dwylo creadigol braidd yn, ym, rhy greadigol wrth gydweithio ar ddatblygiad tai Wyn Humphries. Allwn ni ond dyfalu beth fydd ymateb Barry i'r brad hwn.

Hen dro fod yr Owens fythol ddiflas wedi dychwelyd o Dorquay hefyd...