Awstraliaid. Dydyn nhw ddim yn cael hanner digon o ganmoliaeth am eu diwylliant poblogaidd yn fy marn i. Fe wyddoch eisoes am fy man gwan o Erinsborough. Dw i hefyd yn ffan aruthrol o’r minigyfresi ditectif Mystery Road gyda’r ardderchog Aaron Pedersen. Mae cymaint o atgofion plentyndod yn deillio o Down Under. Roedden nhw wastad ‘yno’ gydol yr wythdegau, wrth dreulio ambell bnawn-sâl-o’r-ysgol ar y soffa yn oes y pedair os nad tair sianel (ydw, dw i mor hen â hynna). Roedd HTV ar y pryd yn darlledu naill ai’r sebon ’sbytu The Young Doctors (1976-1983) efo’r hen set gardbord frown ’na, neu saga teulu The Sullivans (1976-1983) o Melbourne adeg yr ail ryfel byd. A do, mi ymddangosodd rhyw gyw actores ifanc o’r enw K. Minogue ynddi ym 1979. Dro arall, byddai Sons and Daughters (1982-1987) ymlaen. Nhw oedd cyfresi rhad eu hoes, fel y pla (no pun intended) o sioeau ffordd o fyw heddiw sy’n mynd â Julie and Jenny from Bury i hel tai haf o Landegfan i Lloret de Mar.
Mystery Road |
Erbyn y nawdegau, roedd y setiau a’r safonau actio a chynhyrchu wedi gwella’n aruthrol. Dw i’n cofio bod yn wyliwr brwd o The Secret Life of Us (2001-05) ar Channel 4 ar y pryd, yn dilyn hynt a helynt criw o ffrindiau-weithiau-cariadon yn eu hugeiniau mewn bloc o fflatiau yn St Kilda, Melbourne - gan gynnwys Joel Egerton sydd wedi ennill ei blwyf yn Hollywood heddiw. Llwyddodd y gyfres i dorri tir newydd yn Awstralia am gynnwys actores Aborijni, neu Awstraliad brodorol i ddefnyddio’r term mwy derbyniol heddiw. Parodd Deborah Mailman fel cymeriad crwn modern am bedair cyfres yn lle cael ei theipcastio’n rhy aml fel rhywun ar y cyrion yn boddi mewn tlodi neu alcohol.
Ond y pleser annisgwyl diweddar o bendraw’r byd (nid Pen Llŷn) ydi The Heights (2019-). Go brin eich bod wedi clywed am gyfres 30 pennod yr Australian Broadcasting Corporation sydd ’mlaen ar bnawiau BBC One. Wedi’i gosod mewn bloc o fflatiau cownsil ‘Arcadia Heights’ y mae dinasyddion eraill Perth yn troi trwynau arnynt, mae’n bortread annwyl o gymdogaeth amlethnig yn wyneb boneddigeiddio cyson. Ydy, mae clichés y barbie a’r traeth a’r schooner o gwrw oer yno, a’r drysau agored i gymdogion hoff gytûn. Swnio’n gyfarwydd? Ond mae ’na lawer mwy o sylwedd a realaeth bywyd bob dydd yma, a lot o ddrama yn y pethau bychain. Pethau fel dau riant sengl sy’n mentro canlyn unwaith eto, cyn-gopyn a’i stash o fwg drwg i leddfu poenau hen anaf y bît, Iraniad ifanc sy’n troi’n entrepreneur gwerthu pop a fferins yn ei ysgol uwchradd, llanc siop gornel Fietnamaidd sydd mewn cariad â’i ffrind gorau strêt, a barmed yn ei 70au sy’n gorfod magu unwaith eto ar ôl i’w merch ei heglu hi heb y bychan. Un o’r cymeriadau gorau ydi Sabine Rosso (Bridie McKim), stiwdant newydd â ffurf ysgafn o barlys yr ymennydd, llawn hiwmor a chynghorion caru i’w meddyg o fam.
Diolch iPlayer am awgrymu hon i mi. Mae’r gyfres wedi’i chanmol i’r cymylau nôl yn Oz hefyd, lle mae’r Pommies gwyn yn dal i dra-arglwyddiaethu ar y sgrîn fach. Hyn er gwaetha ffigurau cyfrifiad 2016 a ddatgelodd fod 26.3% o boblogaeth y wlad wedi’i geni dros y dŵr (Tsieina ac India yn bennaf) o gymharu ag 14% o ddinasyddion Prydain a aned dramor. Mae dwy ran o dair o gast The Heights yn hanu o dras amrywiol, a merched yn bennaf yw’r tîm sgwennu. Gwyliwch bennod o hon yn lle Niws at Ten Lloegr efo Huw, ac mi gysgwch yn well.
Gyda llaw, mae ’na actores ifanc o’r enw Briallen Clarke yn eu plith. Os nad oes ganddi waed Cymreig, mi fwyta i fy het gorcyn.