Tywyll heno



W’annwl, dw i ar ben fy nigon. Ar ôl bron ag anobeithio ffeindio drama gwerth chweil i’w gwylio, a dim gobaith mul am gael teithio i Ewrop ’leni, dw i wedi ffeindio jyst y peth. Lladd dau aderyn. Y ddrama ydi Dark, y gyrchfan yw'r Almaen. Ac unwaith eto, dw i ar ei hôl hi, achos mae’r drydedd gyfres (a’r olaf) bellach ar gael ar netflix, wedi iddi ymddangos am y tro cyntaf yn 2017. A waw. Sôn am siwrnai. Ar yr olwg gyntaf, mae’n rhyw gyfuniad o Twin Peaks, Missing a Broadchurch Bafariaidd - wrth i ail blentyn ddiflannu oddi ar wyneb y ddaear yn nhref niwclear Winden, ychydig wythnosau wedi i lanc ifanc fynd ar goll yng nghanol fforestydd maith yr ardal. Yn ara deg a bob yn dipyn, down i ddeall fod hanes yn ailadrodd ei hun, gyda diflaniad tebyg nol yn ’86, yn fuan wedi trychineb Chernobyl - ac amheuon yr hynafiaid yn dychwelyd at ogof go sinistr yng nghanol y goedwig, a’r atomfa ddirgel y tu ôl i gaer weiar bigog. Mae goleuadau’r dref yn crynu, mae’n tywallt y glaw ac yn bwrw adar. Nid yn annhebyg i achos yma yng Nghymru y llynedd. Môn. Wylfa. Iasu. Mae comisiynwyr S4C wedi colli cyfle gwirioneddol fan'na.

Wrth i’r penodau fynd rhagddynt, rydym hefyd yn teithio ymhell i Waden 1953 gyda digwyddiadau’r oes honno’n ein clymu ni’n ôl i heddiw. Rhan o’r hwyl ydi casglu’r cliwiau pwy-sy’n-perthyn-a-be-di’r-cyfrinachau. Mae yma elfennau sebon, angst yr arddegau, arswyd, ffantasi a sawl tro annisgwyl. Cefais fy nghyfareddu. F'anesmwytho. Fy nychryn. Fy nghyffwrdd i'r byw. Fe'm hoeliwyd.

A chofiwch. Nid 'lle' yw'r cwestiwn. Ond 'pryd'.

Ddeuda i ddim mwy rhag difetha pethau. Dim ond deud ei bod hi’n llwyr haeddu sgôr o 95% gan adolygwyr a defnyddwyr gwefan Rotten Tomatoes. Ac fel pob cyfres gwerth ei halen, mae yna chwip o gerddoriaeth agoriadol i greu awyrgylch - yn yr achos hwn, "Goodbye" gan y cerddor electronig-amgylchynol Almaenig, ‘Apparat’.


Mae ’na ryw lygedyn o obaith i ddramâugarwyr Cymraeg hefyd, gydag Un Bore Mercher 3 newydd ailddechrau ffilmio ar gyfer dangosiad yr hydref. Dw i ddim balchach yn bersonol, ar ôl rhoi’r gorau iddi wedi pennod yn unig o’r ail gyfres bac tw bac. Mae Celia Imrie ymhlith y cast y tro hwn, felly dyn a ŵyr beth fydd ei chyfraniad hi at y fersiwn Gwmrâg. Rhyw dindroi braidd mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm hefyd, yn sgil anghydfod cyflog efo BBC Studios, â’r sioeau sebon Saesneg eisoes yn ffilmio dan gyfyngiadau pa bynnag bellter sydd mewn grym yn Lloegar erbyn hyn. Wn i ddim beth fydd hanes Rownd a Rownd chwaith, gyda’r cast fel arfer yn ffilmio dros wyliau haf y plantos a gosod trimins Dolig o amgylch set Cilbedlam (ydych chi rioed wedi sylwi ar y cast yn chwys domen mewn siwmperi Dolig a choed glannau’r Fenai yn drwch o ddail?). Amser a ddengys.

Yn y cyfamser, dw i am gadw Llyfr y Flwyddyn tan yr hydref, er mwyn dianc i fyd dirgel, anturus, agerstalwm ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan fydd hi’n ddu bitsh am bump. Rhag ofn mai tenau ar y naw fydd arlwy dramatig y teli bocs erbyn diwedd y flwyddyn felltigedig hon.