Cymru fach beyond Wales


Dw i wedi dychwelyd at Twitter ar fy ngwaetha. Nid mor aml ag oeddwn i, ac yn bendant ddim hwyr y nos na ben bore, rhag difetha cwsg ac effro. Ac wele #bantz rhwng dwy gomedïwraig sydd wedi cael cyflog gan S4C yn y gorffennol, a’r Sianel ei hun yn ymuno â’r hwyl. 

Yn Saesneg.

Atgoffwch fi eto pam ’da ni’n dal i drafferthu efo'r tipyn iaith ma?

Sefyllfa sy’n dwyn i gof noson allan gyda chriw gwaith yn un o fariau’r brifddinas flynydde’n ôl. Gerllaw, roedd tri actor lled-adnabyddus o un o ddramâu poblogaidd ar y pryd, Caerdydd, yn slotian. Tri Chymro iaith gyntaf, dau o Wynedd ac un o’r cymoedd, yn mwynhau sgwrs a pheint. 

Yn Saesneg. 

Ie, dychmygwch ein siom. Gymaint felly, nes i gydweithwraig o'r Rhondda godi ar ei thraed a holi pam affliw nad oedden nhw’n siarad Cymraeg. Roedd eu hwynebau’n bictiwr o gywilydd. Yn anffodus, mae’n arferiad cyffredin. Cymry sydd wedi pesgi ar y cyfryngau Cymraeg, ac eto’n troi i’r iaith fain ar ôl diffodd y meic neu’r camera. Mae sawl cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol yn euog o hyn. Dw i'n gegrwth weithiau.

Ond yn ôl at Twitter, a neges benodol gan swyddfa’r wasg S4C. Neges yn cyhoeddi cyfres ddrama newydd sy’n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd a’r Fro ar hyn o bryd, yn barod i’w darlledu fis Chwefror nesa. 

Dyma’r blyrb:

 

Mae'r gwaith ffilmio wedi cychwyn ar Fflam - drama newydd sy'n addo dod ag ychydig o wres i dwymo oerfel mis Chwefror i wylwyr S4C.

Vox Pictures (Un Bore Mercher) sy'n cynhyrchu'r ddrama sy'n serennu Gwyneth Keyworth (Hidden/Craith, Black Mirror, The Crown) a Richard Harrington (Hinterland/Y Gwyll).

Mae Fflam wedi ei addasu o stori wreiddiol gan Gwenno Hughes sy'n rhan o dîm o awduron sydd wedi sgriptio'r ddrama - sy'n cynnwys Pip Broughton a Catrin Evans.

Mae bywyd yn llawn gobaith i Noni a Deniz (Memet Ali Alabora) sy'n atgyweirio eu fferm fechan ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Mae Malan (Mali Ann Rees), ffrind gorau Noni, ac Ekin (Pinar Ogun), chwaer Deniz, hefyd yn obeithiol wrth i'w cynlluniau i gael plentyn ddod yn bosib wrth i Deniz gytuno i fod yn rhoddwr er mwyn bod yn dad i'w plentyn.

Mae bywyd yn fêl i gyd nes bod Noni'n gweld ysbryd o'i gorffennol - Tim, ei gŵr a laddwyd mewn tân dychrynllyd yng Nghaeredin - neu ddyn sydd yn edrych yn debyg iawn iddo.

A fydd Noni yn gallu gwrthsefyll temtasiwn - neu yw hi'n achos o hawdd cynnau tân ar hen aelwyd...?

Bydd pob pennod o Fflam yn 30 munud o hyd yn wahanol i ran fwyaf o ddramâu S4C sy'n draddodiadol yn awr o hyd.


Newyddion gwych ar yr olwg gyntaf. Y ffaith y bydd drama newydd sbon ar ein sgriniau, a bod cwmnïau yn dal i fentro er gwaetha rheolau a rhwystredigaeth, strach a stryffig y pandemig. Ond o graffu’n fanylach, mae’n codi sawl cwestiwn. Lle mae’r amrywiaeth? Y gystadleuaeth a’r chwarae teg i gwmnïau annibynnol eraill Cymru?

Am be dwi’n fwydro? Y ffaith amdani yw mai cwmni Vox Pictures “based in London & Wales” sydd wedi cael tri chomisiwn drama S4C yn olynol ’leni - Cyswllt (mewn Covid), Un Bore Mercher a nawr Fflam. Cwmni profiadol a phroffesiynol, heb os, a gafodd lwyddiant ysgubol gyda’r cynhyrchiad cefn-gefn Keeping Faith ym mhedwar ban byd heb sôn am ddilyniant selog ar BBC Prydain. Trueni mawr felly, nad y fersiwn Gymraeg gydag isdeitlau ar y sgrîn a welodd gwylwyr o Ffrainc i Estonia, Israel i Seland Newydd, gan ategu arwahanrwydd Cymru fel gwlad â’i hiaith ei hun nid dim ond cornel braf o orllewin Prydain efo acen od. 



Mae UBM yn brosiect teuluol hefyd, wedi’i chynhyrchu a’i chyfarwyddo gan y Saesnes Pip Broughton, gwraig Aneirin Hughes sy’n chwarae rhan Tom Howells (tad yng nghyfraith Faith), a mam Ela Hughes sy’n lleisio caneuon cefndir siwgraidd y gyfres. Sdim byd syfrdanol am hynny, wrth gwrs, gyda Chymru fach yn enwog am ei nepotistiaeth rhonc. Ac roedd Cyswllt mewn Covid, cyfres o dair wnaeth dorri tir newydd fel y ddrama deledu gyntaf yng ngwledydd Prydain i ddefnyddio Covid-19 fel cyd-destun, yn ailgylchu actorion UBM i bob pwrpas - Aneirin eto, Mark Lewis Jones, Hannah Daniel, Catherine Ayers ac Eiry Thomas - ynghyd â brenhines byd actio Cymreig, Christine Pritchard, a phlant dawnus.

Mae’r comisiynau hyn i un cwmni penodol yn ategu union bryderon y cyn-gynhyrchydd Norman Williams, Ffilmiau Eryri, fu’n gyfrifol am rai o’n cyfresi mwyaf poblogaidd ni, o Minafon i Tydi Bywyd yn Boen ac A55

Hel atgofion am ddyddiau Minafon oedd o efo Nia Roberts ar Stiwdio Radio Cymru, gan ddweud:

 

Prin iawn gewch chi gyfres fel Minafon bellach ... sebon yn bennaf ... pwyslais ar greu cefn wrth gefn... lle mae cyn bwysiced cael actor sy’n gyfarwydd a’r sîn yn Llundain ac sy’n gallu gwneud gwaith effeithiol yn y Gymraeg

Pwysleisiodd hefyd eu bod nhw wedi gwneud penderfyniad pendant i gastio actorion Minafon yn ofalus ar y pryd, gan sicrhau bod digon o waith ar gael i griwiau gwahanol, a bod wynebau ffres yn ymddangos gerbron gwylwyr y Sianel ifanc ganol yr wythdegau. Erbyn heddiw, mae’n tristáu o weld yr un hen rai yn neidio o un gyfres i’r llall, a bod hynny’n ymyrryd â’r byd dychmygol y gallwn wirioneddol ymgolli ynddo. Clywch clywch. Diau mai Cymraeg oedd iaith tu ôl i’r camera hefyd, a hwythau’n ffilmio yng nghadernid Gwynedd. Mae rhywun yn ofni’r gwaethaf gyda Vox Pictures.

A Fflam? Iawn oce, efallai mai cyfuniad o actorion cyfresi Noir diweddar gawn ni. Ond o leia mae’n swnio fel syniad gwreiddiol o’r Gymraeg yn lle trosiad o’r Saesneg fel UBM, ac yn cynnwys tîm sgwennu a chynhyrchu Pobol y Cwm gynt. Mae'r cast yn sicr o dicio bocsys cydraddoldeb ac amrywiaeth y Sianel, ac roedd Mali Ann Rees yn wych fel un o griw Merched Parchus a gafodd gam uffernol heb ail gyfres, serch gwobrau lu gan RTS Cymru a’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd heb son am enwebiad BAFTA.

Croeso gofalus, felly, i’r comisiwn. Gan edrych mlaen at fwy o waith a chyfleoedd i gwmniau annibynnol Cymraeg eraill yn 2021.