Dewch i'r America

 



Dw i di penderfynu cael hoe fach. Seibiant o newyddion teledu a Twitter am sbel. Iawn, mi ddefnyddiai’r cyfrwng bob hyn a hyn i hybu gwaith sgwennu. Pwy arall wneith, wedi'r cwbl?

OK, mi glywa’ i benawdau’r Post Cyntaf efo larwm ben bore, ond dyna ni. Achos mae hyd yn oed Radio Cymru wedi bod yn cyfeirio’n ddi-baid at DDRYSWCH honedig rheolau eitemau diangenrhaid ein huwchfarchnadoedd, gan ategu CONFUSION y wasg a’r cyfryngau Seisnig sgrechlyd. Prin pythefnos ydi’r clo clec ’ma. Ond mae pobl fel Andrew RT Davies AS, Davina McblydiCall a Disgusted of Llandudno wedi cael sterics o fethu prynu nics a socs neu degell newydd sbon yn Tesgo Extra.

Rhwng hynny, a holl wenwyn y cyfryngau cymdeithasol, fe ges i wir lond bol. Felly, dyma benderfynu dianc i fyd nofelau a natur, wrth i gyfresi fel Hydref Gwyllt Iolo ar S4C ac Autumnwatch BBC Two helpu rhywun i ymlacio o flaen tanllwyth o dân wrth iddi stido bwrw y tu allan. Bu bron iawn i mi ddychwelyd at Twitter er mwyn rhuo a rhefru am y ffaith fod Chris Packham a map Autumnwatch yn ailadrodd “Mid Wales” i nodi'r Ganolfan Dechnoleg Amgen, yn lle Machynlleth. Ond na. Mi sadiais, cyfri i ddeg, ac ymlacio gyda golygfeydd o fforestydd euraidd a lluniau CCTV o forloi newyddanedig dwyrain yr Alban a ffwlbartiaid Powys (sori, MACHYNLLETH) yn sglaffio paced o custard creams.

Hydref enwog America - The Fall yn Connecticut

 

Ddylwn i ddim cymryd gormod o sylw ar ymgyrch etholiadol 'Merica chwaith, er lles fy mhwysau gwaed. Ond ar fy ngwaethaf, mae gen i ddiddordeb o bell, felly roedd Trump, America a Ni yn apelio. Atyniad arall oedd y ffaith nad gohebydd Cymraeg y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (â phob parch) yn gwisgo’r pabi coch hanfodol y cyfryngau’r adeg hon o’r flwyddyn, a'n harweiniodd drwy un o wledydd mwyaf cynhennus y byd gorllewinol heddiw - ond dau o Gymry alltud Gwlad Yncl Sam. Dau agos-atoch, cyffredin, yn herian ei gilydd wrth ein tywys o dalaith i dalaith, o’r ddinas i’r wlad, o adain chwith i’r dde, i ganfod beth gythgam sy’n digwydd yno. Y ddau ydi’r newyddiadurwraig a’r cyn bêl-droedwraig Maxine Hughes o’r brifddinas a’r hyfforddwr pêl-droed (neu “soccer”) Jason Edwards o Pittsburg, y naill o Gonwy a’r llall o Gaerwen. A’r ddau’n ymgnawdoliad o’r freuddwyd Americanaidd wrth fwynhau barbeciw gyda’u teuluoedd mewn gardd fawr braf yn swbwrbia DC, yn siarad Cymraeg gyda’u plant, a theithio o le i le mewn pickup mwy na’n fflat i’n Gaerdydd.

Mae ganddyn nhw bodlediad difyr hefyd - https://hollt.fireside.fm/1

 

Buasai rhaglen debyg 20-30 mlynedd yn ôl (dan law Dewi Llwyd mwy na thebyg) wedi holi a stilio aelodau o gapeli a chymdeithasau Cymraeg y Stêts (cofio’r Parchedig Ddr IDE Thomas Los Angeles ers talwm?). Ond roedd yr ymweliad hwn yn chwa o awyr iach llai traddodiadol. Do, fe glywson ni gan frodor o Gapel Curig sy'n rhedeg bar hipsteraidd yn Hollywood, a dyn busnes o Fae Colwyn sy'n byw mewn plasty o'r enw “Tŷ Gwyn” ym Miami, ond hefyd Americanwyr Saesneg a Sbaenaidd eu hiaith o boptu’r sbectrwm gwleidyddol. Holwyd criw o Weriniaethwyr brwd dros gynnau yn nhalaith wledig Idaho, cyn dreifio drws nesaf i dalaith Oregon llawn protestwyr tanbaid (Democratiaid dw i'n amau) dros ymgyrch #BLM yn ninas Portland. Diddorol oedd gweld ymateb Jason fel Cymro-Americanwr du, a deimlai’r un mor anghyfforddus yn y ddau le’n berwi o densiwn. Bu bron iddo gael ei hun yn y cach yn Coeur d'Alene, wrth i un o’r reifflwyr ei glywed yn deud “nytars” dan ei wynt. 

Draw yng nghefn gwlad Califfornia wedyn, ardal maint Cymru sy’n dal i ddioddef tanau gwyllt dinistriol, tagais ar fy mhaned wrth i gwpl o amaethwyr oedrannus yn wfftio newid hinsawdd. Adleisio mantra’r arlywydd oedden nhw, gan ddweud bod y dalaith wastad wedi profi tymheredd o 100 gradd a mwy, ac mai’r amgylcheddwyr oedd ar fai am beidio â’u gadael i glirio hen brysglwyni ar hyd y blynyddoedd. Mi fuaswn i wedi hoffi clywed Maxine neu Jason yn herio eu honiadau, â’r aer yn drwch o fwg diweddar. Y cyfan yn atgoffa rhywun o ymrwymiad cibddall ffarmwrs Môn i Brexit a’u haelod seneddol Torïaidd o Kensington.

Roedd hi’n wibdaith mor ddifyr ac amrywiol, dan fwgwd yn bennaf, nes bod digon o ddeunydd i greu rhaglen arall yn arwain at ddydd Mawrth tyngedfennol y trydydd o Dachwedd.

Ai Trymp fydd yn tweetio'i fuddugoliaeth? Fydd Biden yn ben? Amser a ddengys...

 

*Trump, America a Ni (S4C a BBC iPlayer) Cynhyrchiad HeeHaw ar gyfer S4C


San Diego 'sblennydd o Sbaenaidd - drws nesaf i'r Wal felltith