Pa lyfrau oedd yn eich hosan Dolig eleni? Fe ges innau nofelau Llwyd Owen, Angharad Tomos, Llio Maddocks, Dyfan Lewis a dw i'n gobeithio cael
un o glasuron y diweddar athrylith Jan Morris gyda'r tocyn anrheg.
Wn i ddim beth gafodd rhai o’n cyfryngis ni, ond ga i awgrymu’n garedig bod golygyddion BBC Cymru-Wales yn gadael copi hanfodol o Pa Arddodiad? D Geraint Lewis ar eu desgiau pan fyddan nhw’n dychwelyd yn 2021. O’r darllenydd newyddion i’r dyn(es) tywydd, mae’n berthnasol i bob un wan jac ohonyn nhw.
A chyn i chi sgrechian “Plisman iaith!”, fi di'r cyntaf i gyfadda nad ydw i’n berffaith fy hun. Serch addysg cwbl Gymraeg o ysgol feithrin
Llanrwst ddiwedd y saithdegau reit drwodd i Brifysgol Caerdydd ganol y
nawdegau, dw i wedi gorfod dysgu rheolau gramadeg o’r newydd. Dw i'n defnyddio idioma Saesneg heb dalld, ac yn diawlio'n hun a'r iaith a'r ffordd o feddwl sydd wedi concro ein byd lleiafrifol brau ni. Mae'n anodd ac yn heriol.
Rhaid bod ein darlithwyr yn poeni’n uffernol am safon iaith darpar addysgwyr, cyfieithwyr, gohebwyr a gwleidyddion y genedl, achos dw i’n cofio gorfod mynychu seminarau gloywi iaith y brifysgol am dymor dan arweiniad neb llai na’r Athro Peter Wynn Thomas, awdur gwybodus Gramadeg y Gymraeg. Ac wrth ennill fy nghrefft fel cyfieithydd proffesiynol (yn gam neu’n gymwys) wedyn, dw i wedi cael fy nghywiro a’m haddysgu gan sawl golygydd profiadol yn enwedig ar reolau arddodiad. Y defnydd cywir o brics a mortar cystrawennol yr iaith, yn y cyd-destun cywir.
Sawl tro dw i’n clywed rhywun yn camddeud “elwa o” ar Radio
Cymru ac S4C yn hytrach nag elwa ar (rhywbeth), to profit,
cywir. Felly hefyd effeithio, heb ar wedyn. Mae’r cyfeithiad
slafaidd effeithio pobl o’r Saesneg effect people yn wall
cyffredin iawn iawn. Ar hen glasur hwnnw, mynd i’r deintydd yn lle at
y deintydd.
Mae llyfryn bach glas golau D Geraint Lewis yn ganllaw cwbl hwylus a handi. Nesh i ddysgu’r rheolau mewn dim o dro, diolch iddo. Mi wnewch chithau hefyd.
Fel arall, waeth inni siarad Saesneg ddim.
Mae'n cyfryngau ni'n cael dipyn o drafferth efo'r gair "national" hefyd. Cymru ydi'n 'cenedlaethol' i, a phob Cymro a Chymraes gwerth ei halen, nid Prydain waeth beth ddywed y Toriaid y dyddiau jingoistaidd hyn. Dim ond bore ma y clywais Gwenllian Grigg yn deud "yr Archif Genedlaethol" am National Archives Lloegr a Chymru sydd â'i phencadlys yn Kew, Richmond. Ych a fi. Os mai rhywbeth Prydeinig ydi o, pam ddim defnyddio'r enw Saesneg yn unig? Yn y gorffennol, mae gohebwyr BBC Cymru hefyd wedi camgyfieithu'r National Health Service a National Insurance fel Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ac Yswiriant Cenedlaethol, pan mai 'Gwladol' sy'n gywir fama.
Oes, mae eisiau gras a mynadd a golygydd gwell weithiau. Ond mae'n broblem ddiawledig yn yr iaith fain hefyd, fel mae bron i flwyddyn o bandemig wedi dangos. Mae'r cyfryngau Saesneg, o Sky News i ITV a'r Bìb yn sgrechian NATION a NATIONAL yn gyson anghywir pan mae Johnson (dwi'n gwrthod ei alw'n Boris fel hen fêt Andrew Marr a Robert Peston) yn cyhoeddi rhagor o newidiadau i Loegr yn unig. Mae hyd yn oed yr Americanwyr wedi'i dalld hi.
O, a chwi hwntws, defnyddiwch yr "u bedol" yn lle "i dot" er mwyn dyn. Diolch.
*********************************
Dyma dabl defnyddiol o ffeil ‘Arddulliadur’ Gwasanaeth Cyfieithu y Llywodraeth.
arddodiaid
· Mae angen bod yn ofalus ag arddodiaid, yn enwedig wrth gyfieithu to, for, on ac ati.
Dyma rai camgymeriadau cyffredin:
CYWIR |
ANGHYWIR |
â/ag |
|
cydweithio â |
cydweithio gyda |
cysylltu â |
cysylltu gyda |
cytuno â (rhywun/rhywbeth) |
cytuno gyda |
gwrthdaro â |
gwrthdaro gyda |
siarad â |
siarad gyda |
trafod â |
trafod gyda |
perthynas â |
perthynas gyda |
torri papur â siswrn |
torri papur gyda siswrn |
pobl ag anghenion arbennig |
pobl gydag anghenion arbennig |
ar/arno/arnom etc |
|
gwahanol agweddau ar y pwnc |
gwahanol agweddau o’r pwnc |
mae’r frech goch arno |
mae ganddo’r frech goch |
roedd yn fodlon ar y penderfyniad |
roedd yn fodlon â’r penderfyniad |
mae arnom angen arian neu mae angen arian arnom |
rydym angen arian |
at |
|
gresynu at y penderfyniad |
gresynu’r penderfyniad neu gresynu wrtho |
anfon e-bost at Mair (at berson) |
anfon e-bost i Mair |
elwa ar y profiad |
elwa o’r profiad |
i |
|
anfon llythyr i’r Cyngor Sir (er cysondeb, arfer y Gwasanaeth Cyfieithu yw ymdrin â sefydliadau ac ati fel lleoliadau, felly dilynir yr un patrwm ag ‘anfon i rywle’) |
anfon llythyr at y Cyngor Sir |
cytuno i wneud rhywbeth |
cytuno gwneud rhywbeth |
tueddu i effeithio |
tueddu effeithio |
helpu rhywun i wneud rhywbeth |
helpu rhywun wneud rhywbeth |
trefnu i ddod |
trefnu dod |
mae’n bwysig nodi |
mae’n bwysig i nodi |
o |
|
rwy’n falch o fod yma |
rwy’n falch i fod yma |
dyma’r ffordd orau o wneud hyn |
dyma’r ffordd orau i wneud hyn |
mae’n gyndyn o gymryd y swydd |
mae’n gyndyn i gymryd y swydd |
wrth |
|
ynghlwm wrth |
ynghlwm â neu yn glwm â |
glynu wrth |
glynu at neu glynu i |