Awn i Fflandrys


Sgin i ddim clem o le ddoth y nonsens fod Gwlad Belg yn ddiflas. Rhyw Ewroamheuwr o Sais, siŵr o fod. Mae’n debyg i’r diweddar gomedïwr Bob Monkhouse ddweud unwaith, “I went to Belgium once. It was closed”.

Wel, mi ges i benwythnos hir cofiadwy iawn yno un hydref rhyw bum mlynedd yn ôl. Bws o Gaerdydd i London Victoria, tiwb i St Pancras ac Eurostar chwim i Frwsel heibio Lille. Yn Bruges, neu Brugge yng ngorllewin Fflandrys oedd ein gwesty, ar lan rhyw gamlas efo pentai bocs siocled o boptu iddi, a dal trên i Ieper am y dydd i ymweld â Phorth Menin a gorweddfan Hedd Wyn. Fe wnaethon ni lwyddo i wasgu pnawn sydyn ym Mrwsel ei hun hefyd – ei sgwâr ’sblennydd a phencadlys anodd-ei-ffeindio yr UE. Mae ymweliadau pellach â dinasoedd Antwerpen a Gent ar y gweill, pan fydd cyfyngiadau’r bali presennol yn caniatau.




A chyd-ddigwyddiad hapus ydi mai cyfres ddrama Fflemeg ydi un o’m hoff bocset ar hyn o bryd. Mae De Twaalf (‘The Twelve’ ar wasanaeth ardderchog Walter Presents/ All4, ac enillydd categori 'Sgript Ffilm Orau' gwobrau Cannes 2019) wedi ’machu i’n llwyr dros y nosweithiau diweddar, fel dihangfa perffaith i felan y newyddion dyddiol a’r “sbeshals” Dolig symol. 

Drama deg rhan am ddeuddeg aelod ‘cyffredin’ o’r rheithgor yn achos Fri Palmers (Maaike Cafmeyer), prifathrawes uchel ei pharch sydd yn y doc dan amheuaeth o lofruddio ddwywaith – ei merch fach a drywanwyd i farwolaeth â darn o wydr, a’i ffrind gorau a dagwyd mewn cae o eira 19 mlynedd ynghynt ar droad y mileniwm newydd. Ac mae straeon cefndir cymhleth aelodau’r rheithgor lawn mor gyfareddol â drama ddomestig dymhestlog Fri druan â’i chyn ŵr Stefaan de Munck (dw i wrth fy modd efo sain a sillafiad yr iaith), pob un â chyfrinachau a phwysau’r byd ar eu sgwyddau cyn hyd oed meddwl am neud diwrnod o waith yn y llys. Wedi’i ffilmio’n gelfydd, mae’r perfformiadau byw a’r tensiwn yn datblygu dow-dow ac weithiau’n atgoffa rhywun o’n 35 Awr ni heb giamocs Taz a Val (Iestyn Arwel a Gillian Elisa). Ac fel arfer, mae yna arwyddgan hudolus sy’n braenaru’r tir ar gyfer drama steilus iawn iawn. Pam mae’r Ewropeaid gymaint gwell na ni am gyfansoddi, ymhlith sawl peth arall ar hyn o bryd?